No themes applied yet
Elias a'r Weddw yn Sareffath
1Dywedodd Elias y Thesbiad o Thisbe yn Gilead wrth Ahab, “Cyn wired â bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, ni bydd na gwlith na glaw y blynyddoedd hyn ond yn ôl fy ngair i.” 2Wedyn daeth gair yr ARGLWYDD ato: 3“Dos oddi yma a thro tua'r dwyrain ac ymguddia yn nant Cerith, sydd i'r dwyrain o'r Iorddonen. 4Cei yfed o'r nant, a pharaf i gigfrain dy borthi yno.” 5Aeth yntau a gwneud yn ôl gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen. 6Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo, ac yfai o'r nant. 7Ond ymhen amser sychodd y nant o ddiffyg glaw yn y wlad, 8a daeth gair yr ARGLWYDD ato: 9“Cod a dos i Sareffath, sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno; wele, yr wyf yn peri i wraig weddw yno dy borthi.” 10Cododd a mynd i Sareffath, a phan gyrhaeddodd borth y dref, yno'r oedd gwraig weddw yn casglu priciau; galwodd arni a dweud, “Estyn imi gwpanaid bach o ddŵr, imi gael yfed.” 11Pan aeth i'w 'mofyn, galwodd ar ei hôl, “A thyrd â thamaid o fara imi yn dy law.” 12Ond meddai hi, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes gennyf yr un dorth, dim ond llond dwrn o flawd yn y celwrn a diferyn o olew yn y stên; casglu ychydig briciau yr oeddwn er mwyn eu paratoi i mi a'm mab i fwyta, ac yna trengi.” 13Dywedodd Elias wrthi, “Paid ag ofni; dos a gwna fel y dywedaist, ond gwna ohono yn gyntaf deisen fach i mi, a thyrd â hi ataf, a pharatoi i ti dy hun a'th fab wedyn. 14Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Nid â'r celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych hyd y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi glaw ar wyneb y tir.’ ” 15Gwnaeth hithau yn ôl gair Elias, a chafodd ef a hi a'i theulu fwyd am amser. 16Nid aeth y celwrn blawd yn wag na'r stên olew yn sych, yn ôl gair yr ARGLWYDD drwy Elias.
17Ymhen ysbaid clafychodd mab y wraig oedd biau'r tŷ; aeth yn ddifrifol wael, fel nad oedd anadl ar ôl ynddo. 18A dywedodd hi wrth Elias, “Beth sydd gennyt yn f'erbyn, ŵr Duw? Ai dod ataf a wnaethost i dynnu sylw at fy nghamwedd, a lladd fy mab?” 19Meddai yntau wrthi, “Rho dy fab i mi.” Cymerodd ef o'i mynwes a'i gludo i'r llofft lle'r oedd yn byw, a'i osod i orwedd ar ei wely. 20Galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, fy Nuw, a wyt yn dwyn drwg hyd yn oed ar y weddw y cefais lety ganddi, ac yn lladd ei mab?” 21Yna ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, fy Nuw, bydded i einioes y bachgen hwn ddod yn ôl iddo.” 22Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lef Elias, a daeth einioes y bachgen yn ôl iddo, ac adfywiodd. 23Cymerodd Elias y bachgen, a mynd ag ef i lawr o'r llofft i mewn i'r tŷ a'i roi i'w fam, a dweud, “Edrych, y mae dy fab yn fyw.” 24Dywedodd y wraig wrth Elias, “Gwn yn awr dy fod yn ŵr Duw, a bod gair yr ARGLWYDD yn wir yn dy enau.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004