No themes applied yet
Gwinllan Naboth
1Ar ôl hyn digwyddodd fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad yn Jesreel ar gwr palas Ahab brenin Samaria. 2A dywedodd Ahab wrth Naboth, “Rho dy winllan i mi i fod yn ardd lysiau, gan ei bod mor agos i'm tŷ; a rhof iti'n gyfnewid winllan well na hi. Neu, os yw'n well gennyt, rhof iti ei gwerth mewn arian.” 3Dywedodd Naboth wrth Ahab, “Yr ARGLWYDD a'm gwaredo rhag rhoi i ti etifeddiaeth fy hynafiaid.” 4Dychwelodd Ahab i'w dŷ yn ddigalon a dig am i Naboth y Jesreeliad ateb, “Ni roddaf iti etifeddiaeth fy hynafiaid.” Bwriodd ei hun ar ei wely, a throi ei wyneb draw a gwrthod bwyta. 5Daeth ei wraig Jesebel ato a gofyn iddo, “Pam yr wyt yn ddi-hwyl dy ysbryd ac yn gwrthod bwyta?” 6Atebodd yntau, “Dywedais wrth Naboth y Jesreeliad, ‘Rho dy winllan i mi am arian; neu, os dewisi, rhof iti winllan yn ei lle.’ Ac atebodd, ‘Ni roddaf fy ngwinllan iti.’ ” 7A dywedodd Jesebel wrtho, “Dangos yn awr mai ti yw'r brenin yn Israel. Cod, bwyta, cod dy galon, fe roddaf fi winllan Naboth y Jesreeliad iti.” 8Ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, a'u selio â'i sêl, a'u hanfon at yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas â Naboth. 9Yn y llythyrau yr oedd wedi ysgrifennu, “Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth i fyny o flaen y bobl, 10a dau ddihiryn i dystio yn ei erbyn, ‘Yr wyt ti wedi melltithio Duw a'r brenin.’ Yna ewch ag ef allan a'i labyddio'n gelain.” 11A gwnaed â Naboth gan yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas ag ef yn union fel y gorchmynnodd Jesebel yn y llythyrau a ysgrifennodd atynt. 12Wedi cyhoeddi ympryd, gosodasant Naboth i fyny o flaen y bobl, 13a daeth y ddau ddihiryn ac eistedd o'i flaen, a thystio yn erbyn Naboth gerbron y bobl a dweud, “Y mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin.” Aed ag ef y tu allan i'r ddinas a'i labyddio â cherrig nes iddo farw. 14Yna anfonasant neges at Jesebel: “Mae Naboth wedi ei labyddio ac wedi marw.” 15Cyn gynted ag y clywodd Jesebel fod Naboth wedi ei labyddio'n gelain, dywedodd wrth Ahab, “Cod, meddianna'r winllan y gwrthododd Naboth y Jesreeliad ei hildio iti am arian. Nid yw Naboth yn fyw; y mae wedi marw.” 16A phan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, aeth i lawr i winllan Naboth y Jesreeliad i'w meddiannu.
17Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad a dweud, 18“Cod, a dos i lawr i gyfarfod Ahab brenin Israel yn Samaria. Fe'i cei yng ngwinllan Naboth; y mae wedi mynd yno i'w meddiannu. 19Dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Wedi llofruddio, a fynni di hefyd feddiannu?” ’ Dywed hefyd wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, fe lyfant dy waed dithau.” ’ ” 20Dywedodd Ahab wrth Elias, “A ddaethost o hyd i mi, fy ngelyn?” Atebodd yntau, “Do; ac am dy fod wedi ymroi i wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, 21rwyf yn dwyn drwg arnat ti, ac yn dileu dy hiliogaeth; difodaf bob gwryw yn perthyn i Ahab yn Israel, caeth a rhydd. 22Gwnaf dy dŷ fel tŷ Jeroboam fab Nebat a thŷ Baasa fab Aheia, oherwydd y dicter a achosaist wrth beri i Israel bechu. 23Ac am Jesebel, fe ddywed yr ARGLWYDD, ‘Y cŵn fydd yn bwyta Jesebel wrth fur Jesreel.’ 24Bydd y cŵn yn bwyta pob aelod o deulu Ahab a fydd farw yn y dref, ac adar rheibus yn bwyta pob un a fydd farw allan yn y wlad.”
25Eto ni bu neb cynddrwg ag Ahab mewn ymroi i wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, am fod Jesebel ei wraig yn ei annog. 26Gwnaeth yn ffiaidd iawn trwy addoli eilunod, yn hollol fel y gwnâi'r Amoriaid a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid.
27Cyn gynted ag y clywodd Ahab eiriau Elias, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain ar ei gnawd, ac ymprydio, a chysgu ar sachliain, a cherdded yn araf. 28Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad yn dweud, 29“A sylwaist ti fod Ahab wedi ymostwng ger fy mron? Gan ei fod wedi ymostwng ger fy mron, nid wyf am ddod â'r drwg yn ei ddyddiau ef; yn nyddiau ei fab y dygaf y drwg ar ei deulu.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004