No themes applied yet
Y Proffwyd Michea yn Rhybuddio Ahab
2 Cron. 18:2–27
1Bu Syria ac Israel am dair blynedd heb ryfela â'i gilydd. 2Ond yn y drydedd flwyddyn, tra oedd Jehosaffat brenin Jwda draw yn ymweld â brenin Israel, 3dywedodd brenin Israel wrth ei weision, “A wyddoch chwi mai ni piau Ramoth-gilead? A dyma ni'n dawel ddigon, yn lle ei chipio o law brenin Syria.” 4A gofynnodd brenin Israel i Jehosaffat, “A ddoi di gyda mi i ryfel i Ramoth-gilead?” Dywedodd Jehosaffat wrth frenin Israel, “Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di, fy meirch i fel dy feirch di.” 5Ond meddai Jehosaffat hefyd wrth frenin Israel, “Cais yn gyntaf hefyd air yr ARGLWYDD.”
6Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, tua phedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, “A ddylwn fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?” Dywedasant hwythau, “Dos i fyny, ac fe rydd yr ARGLWYDD hi yn llaw'r brenin.” 7Ond holodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?” 8Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oes, y mae un gŵr eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla; ond y mae'n atgas gennyf, am nad yw'n proffwydo lles i mi, dim ond drwg.” Dywedodd Jehosaffat, “Peidied y brenin â dweud fel yna.” 9Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, “Tyrd â Michea fab Imla yma ar frys.” 10Yr oedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar eu gorseddau ar y llawr dyrnu wrth borth Samaria, gyda'r holl broffwydi'n proffwydo o'u blaen. 11Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Â'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.’ ” 12Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, “Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin.”
13Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, “Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant.” 14Atebodd Michea, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf a lefaraf.” 15Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, “Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?” A dywedodd yntau wrtho, “Dos i fyny a llwydda, ac fe rydd yr ARGLWYDD hi yn llaw'r brenin.” 16Ond dywedodd y brenin wrtho, “Pa sawl gwaith yr wyf wedi dy dynghedu i beidio â dweud dim ond y gwir wrthyf yn enw'r ARGLWYDD?” 17Yna dywedodd Michea:
“Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniau
fel defaid heb fugail ganddynt.
A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Nid oes feistr ar y rhain;
felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.’ ”
18Dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oni ddywedais wrthyt na fyddai'n proffwydo da i mi, ond yn hytrach drwg?” 19A dywedodd Michea, “Am hynny, gwrando air yr ARGLWYDD; gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, gyda holl lu'r nef yn sefyll ar y dde ac ar y chwith iddo. 20A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Pwy a fedr hudo Ahab i frwydro a chwympo yn Ramoth-gilead?’ Ac yr oedd un yn dweud fel hyn a'r llall fel arall; 21ond dyma un ysbryd yn sefyll allan o flaen yr ARGLWYDD ac yn dweud, ‘Fe'i hudaf fi ef.’ Ac meddai'r ARGLWYDD, ‘Sut?’ 22Dywedodd yntau, ‘Af allan a bod yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei broffwydi i gyd.’ Yna dywedodd wrtho, ‘Fe lwyddi di i'w hudo; dos a gwna hyn.’ 23Yn awr, y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; y mae'r ARGLWYDD wedi llunio drwg ar dy gyfer.” 24Nesaodd Sedeceia fab Cenaana a rhoi cernod i Michea, a dweud, “Sut yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i lefaru wrthyt ti?” 25Dywedodd Michea, “Cei weld ar y dydd hwnnw pan fyddi'n ceisio ymguddio yn yr ystafell nesaf i mewn.” 26A dywedodd brenin Israel, “Dos â Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y dref, a Joas mab y brenin, a dywed wrthynt, 27‘Fel hyn y dywed y brenin: “Rhowch hwn yng ngharchar, a bwydwch ef â'r dogn prinnaf o fara a dŵr nes imi ddod yn ôl yn llwyddiannus”.’ ” 28Ac meddai Michea, “Os llwyddi i ddod yn ôl, ni lefarodd yr ARGLWYDD drwof; gwrandewch chwi bobl i gyd.”
Marwolaeth Ahab
2 Cron. 18:28–34
29Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead. 30A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, “Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol.” Newidiodd brenin Israel ei wisg a mynd i'r frwydr. 31Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i'r deuddeg capten ar hugain oedd ganddo ar y cerbydau, “Peidiwch ag ymladd â neb, bach na mawr, ond â brenin Israel yn unig.” 32A phan welodd capteiniaid y cerbydau Jehosaffat, dywedasant, “Hwn yn sicr yw brenin Israel.” Yna troesant i ymladd ag ef; ond rhoddodd Jehosaffat waedd, 33a phan welodd capteiniaid y cerbydau nad brenin Israel oedd, gadawsant lonydd iddo. 34A thynnodd rhyw ddyn ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro'n ôl, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo.” 35Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i'r brenin aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr, pan fu farw; a llifodd gwaed yr archoll i waelod y cerbyd. 36A phan fachludodd yr haul aeth y gri drwy'r gwersyll, “Adref, bawb i'w dref a'i fro; bu farw'r brenin!” 37Aethant â'r brenin i Samaria a'i gladdu yno; 38a phan olchwyd y cerbyd wrth lyn Samaria, lleibiodd y cŵn ei waed ac ymolchodd y puteiniaid ynddo, yn ôl y gair a lefarodd yr ARGLWYDD.
39Onid yw gweddill hanes Ahab, a'r cwbl a wnaeth, a hanes y palas ifori a gododd, a'r holl drefi a adeiladodd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel? 40A bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia i'r orsedd yn ei le.
Jehosaffat yn Frenin ar Jwda
2 Cron. 20:31—21:1
41Yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel daeth Jehosaffat fab Asa yn frenin ar Jwda. 42Pymtheg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am bum mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Asuba merch Silhi oedd enw ei fam. 43Dilynodd lwybr ei dad Asa yn hollol ddiwyro, a gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Er hynny, ni symudwyd yr uchelfeydd, ac yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt. 44Gwnaeth Jehosaffat heddwch â brenin Israel. 45Ac onid yw gweddill hanes Jehosaffat, ei hynt a'i wrhydri a'i ryfela, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? 46Hefyd fe ddileodd o'r tir yr olaf o buteinwyr y cysegr a adawyd o ddyddiau ei dad Asa. 47Nid oedd brenin yn Edom. Fe wnaeth rhaglaw'r brenin Jehosaffat22:47 Fe wnaeth… Jehosaffat. Tebygol. Hebraeg yn ansicr. 48long Tarsis i fynd i Offir am aur. Ond nid aeth, oherwydd drylliwyd y llong yn Esion-geber. 49Yna dywedodd Ahaseia fab Ahab wrth Jehosaffat, “Fe â fy ngweision i gyda'th weision di mewn llongau.” Ond nid oedd Jehosaffat yn fodlon. 50Bu farw Jehosaffat, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
Ahaseia yn Frenin ar Israel
51Daeth Ahaseia fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn yr ail flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda. Teyrnasodd ar Israel am ddwy flynedd. 52Gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilynodd lwybr ei dad a'i fam, a llwybr Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu. 53Gwasanaethodd ac addolodd Baal, a digio'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn hollol fel y gwnaeth ei dad.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004