No themes applied yet
Gwragedd a Gwŷr
1Yn yr un modd, chwi wragedd priod, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr; ac yna, os oes rhai sy'n anufudd i'r gair, fe'u henillir hwy trwy ymarweddiad eu gwragedd, heb i chwi ddweud yr un gair, 2wedi iddynt weld eich ymarweddiad pur a duwiolfrydig. 3Boed ichwi'n addurn, nid pethau allanol fel plethu gwallt, ymdaclu â thlysau aur, ymharddu â gwisgoedd, 4ond cymeriad cêl y galon a'i degwch di-dranc, sef ysbryd addfwyn a thawel. Dyna sy'n werthfawr yng ngolwg Duw. 5Oherwydd felly hefyd y byddai'r gwragedd sanctaidd gynt, a oedd yn gobeithio yn Nuw, yn eu haddurno eu hunain; byddent yn ymddarostwng i'w gwŷr, 6fel yr ufuddhaodd Sara i Abraham a'i alw'n arglwydd. A phlant iddi hi ydych chwi, os daliwch ati i wneud daioni, heb ofni dim oll.
7Yn yr un modd, chwi wŷr, byddwch yn ystyriol yn eich bywyd priodasol; rhowch y parch dyladwy i'r wraig, gan mai hi yw'r llestr gwannaf, a chan eich bod yn gydetifeddion y gras sy'n rhoi bywyd. Felly, ni chaiff eich gweddïau mo'u rhwystro.
Dioddef o achos Cyfiawnder
8Yn olaf, bawb ohonoch, byddwch o'r un meddwl yn cydymdeimlo â'ch gilydd yn frawdol, yn dyner eich calon, yn ostyngedig eich ysbryd. 9Peidiwch â thalu drwg am ddrwg na sen am sen. I'r gwrthwyneb, bendithiwch! Oherwydd i hyn y cawsoch eich galw—er mwyn i chwi etifeddu bendith. 10Yng ngeiriau'r Ysgrythur:
“Yr hwn sy'n ewyllysio caru bywyd
a gweld dyddiau da,
rhaid iddo atal ei dafod rhag drwg,
a'i wefusau rhag llefaru celwydd;
11rhaid iddo droi oddi wrth ddrwg a gwneud da,
ceisio heddwch a'i ddilyn;
12canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y cyfiawn,
a'i glustiau'n agored i'w deisyfiad,
ond y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.”
13Felly, pwy a wna niwed ichwi os byddwch yn selog tros ddaioni? 14Ond hyd yn oed pe digwyddai ichwi ddioddef o achos cyfiawnder, gwyn eich byd! Peidiwch â'u hofni hwy, a pheidiwch â chymryd eich tarfu, 15ond sancteiddiwch Grist yn Arglwydd yn eich calonnau. Byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch. Ond gwnewch hynny gydag addfwynder a pharchedig ofn, 16gan gadw eich cydwybod yn lân; ac yna, lle'r ydych yn awr yn cael eich sarhau, fe godir cywilydd ar y rhai sy'n dilorni eich ymarweddiad da yng Nghrist. 17Oherwydd gwell yw dioddef, os dyna ewyllys Duw, am wneud da nag am wneud drwg. 18Oherwydd dioddefodd Crist yntau3:18 Yn ôl darlleniad arall, Oherwydd, er eich mwyn chwi, bu Crist yntau farw. un waith am byth dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, i'ch dwyn chwi at Dduw. Er ei roi i farwolaeth o ran y cnawd, fe'i gwnaed yn fyw o ran yr ysbryd, 19ac felly yr aeth a chyhoeddi ei genadwri i'r ysbrydion yng ngharchar. 20Yr oedd y rheini wedi bod yn anufudd gynt, pan oedd Duw yn ei amynedd yn dal i ddisgwyl, yn nyddiau Noa ac adeiladu'r arch. Yn yr arch fe achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddŵr, 21ac y mae'r hyn sy'n cyfateb i hynny, sef bedydd, yn eich achub chwi yn awr, nid fel modd i fwrw ymaith fudreddi'r cnawd, ond fel ernes o gydwybod dda tuag at Dduw, trwy atgyfodiad Iesu Grist. 22Y mae ef, ar ôl mynd i mewn i'r nef, ar ddeheulaw Duw, a'r angylion a'r awdurdodau a'r galluoedd wedi eu darostwng iddo.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004