No themes applied yet
1Cymerodd Samuel ffiol o olew a'i dywallt dros ei ben, a'i gusanu a dweud, “Onid yw'r ARGLWYDD yn d'eneinio'n dywysog ar ei bobl Israel, ac onid ti fydd yn rheoli pobl yr ARGLWYDD, ac yn eu gwaredu o law eu gelynion oddi amgylch? A dyma'r arwydd fod yr10:1 Felly Groeg. Hebraeg heb ARGLWYDD yn d'eneinio… fod yr. ARGLWYDD wedi d'eneinio'n dywysog ar ei etifeddiaeth: 2pan ei oddi wrthyf heddiw, cei ddau ddyn wrth fedd Rachel yn Selsach ar ffin Benjamin, a dywedant wrthyt fod yr asennod yr aethost i'w ceisio wedi eu cael, a bod dy dad wedi rhoi heibio fater yr asennod, ac yn poeni amdanoch chwi ac yn dweud, ‘Beth a wnaf am fy mab?’ 3Wedi iti fynd ymlaen oddi yno, fe ddoi at dderwen Tabor a chael yno dri dyn yn mynd i fyny at Dduw i Fethel, un yn cario tri myn, un arall yn cario tair torth, a'r llall yn cario costrel o win. 4Wedi iddynt dy gyfarch, rhoddant iti ddwy dorth; cymer dithau hwy ganddynt. 5Wedi hynny doi at Gibea Duw, lle y mae rhaglaw y Philistiaid. Wedi iti gyrraedd y dref, byddi'n taro ar fintai o broffwydi yn dod i lawr o'r uchelfa gyda nabl, tympan, ffliwt a thelyn o'u blaen, a hwythau'n proffwydo. 6A bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn arnat, a byddi dithau'n proffwydo gyda hwy ac yn cael dy droi'n ddyn gwahanol. 7Pan ddigwydd yr arwyddion hyn i ti, gwna yn ôl dy gyfle, oherwydd y mae Duw gyda thi. 8Dos i lawr o'm blaen i Gilgal, a dof finnau atat i offrymu poethoffrymau a heddoffrymau. Aros wythnos amdanaf, ac yna dangosaf iti beth i'w wneud.”
9Wedi i Saul droi a gadael Samuel, newidiodd Duw ei galon ef, a digwyddodd yr holl arwyddion hyn yr un diwrnod. 10Pan ddaethant i Gibea, yr oedd y fintai o broffwydi yno yn dod i'w gyfarfod; disgynnodd ysbryd Duw arno, a dechreuodd broffwydo yn eu plith. 11Pan welodd y bobl oedd yn ei adnabod gynt ei fod yn proffwydo gyda'r proffwydi, dywedasant wrth ei gilydd, “Beth yw hyn sydd wedi digwydd i fab Cis? A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?” 12Ac ychwanegodd un oedd yno, “A phwy yw eu tad?” Dyna sut y daeth y ddihareb, “A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?” 13Pan orffennodd broffwydo, aeth i'r uchelfa. 14Gofynnodd ewythr Saul iddo ef a'i was, “Ymhle y buoch?” Atebodd, “Yn chwilio am yr asennod; ac wedi inni fethu eu gweld, aethom at Samuel.” 15Ac meddai ewythr Saul, “Dywed wrthyf, ynteu, beth a ddywedodd Samuel wrthych.” 16Dywedodd Saul wrth ei ewythr, “Sicrhaodd ni fod yr asennod wedi eu cael.” Ond ni soniodd ddim wrtho am yr hyn a ddywedodd Samuel ynglŷn â'r frenhiniaeth.
Cyhoeddi Saul yn Frenin
17Galwodd Samuel y bobl at yr ARGLWYDD i Mispa, 18a dywedodd wrth yr Israeliaid, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Myfi a ddaeth ag Israel i fyny o'r Aifft, a'ch achub o law yr Eifftiaid a'r holl deyrnasoedd a fu'n eich gorthrymu. 19Ond heddiw yr ydych yn gwrthod eich Duw, a fu'n eich gwaredu o'ch holl drueni a'ch cyfyngderau, ac yn dweud wrtho, “Rho inni frenin.” Yn awr, felly, safwch yn rhengoedd o flaen yr ARGLWYDD yn ôl eich llwythau a'ch tylwythau.’ ”
20Wedi i Samuel gyflwyno pob un o lwythau Israel gerbron yr ARGLWYDD, dewiswyd llwyth Benjamin. 21Yna cyflwynodd lwyth Benjamin fesul tylwythau, a dewiswyd tylwyth Matri; wedyn dewiswyd Saul fab Cis, ond wedi chwilio amdano, nid oedd i'w gael. 22Gofynasant eto i'r ARGLWYDD, “A ddaeth y gŵr yma?” A dywedodd yr ARGLWYDD, “Do, y mae'n cuddio ymysg yr offer.” 23Wedi iddynt redeg a'i gymryd oddi yno a'i osod i sefyll yng nghanol y bobl, yr oedd yn dalach na phawb, o'i ysgwyddau i fyny. 24Dywedodd Samuel, “A welwch chwi'r un a ddewisodd yr ARGLWYDD? Yn wir nid oes neb o'r holl bobl yn debyg iddo.” Bloeddiodd yr holl bobl a dweud, “Hir oes i'r brenin!” 25Yna mynegodd Samuel wrth y bobl ddull y frenhiniaeth, a'i ysgrifennu mewn llyfr a'i osod ynghadw gerbron yr ARGLWYDD; yna gollyngodd yr holl bobl, i bob un fynd adref. 26Aeth Saul yntau adref i Gibea, ac aeth gydag ef fyddin o rai y cyffyrddodd Duw â'u calon. 27Ond meddai'r dihirod, “Sut y gall hwn ein hachub?” Yr oeddent yn ei ddirmygu, ac ni ddaethant ag anrheg iddo.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004