No themes applied yet
Lladd Offeiriaid Nob
1Dihangodd Dafydd oddi yno i ogof Adulam, a phan glywodd ei frodyr a'i deulu, aethant yno ato. 2A dyma bawb oedd mewn helbul neu ddyled, neu wedi chwerwi, yn ymgasglu ato. Aeth ef yn ben arnynt, ac yr oedd tua phedwar cant ohonynt gydag ef. 3Oddi yno aeth Dafydd i Mispe yn Moab, a dweud wrth frenin Moab, “Gad i'm tad a'm mam ddod atat, nes y byddaf yn gwybod beth a wna Duw imi.” 4Felly gadawodd hwy gyda brenin Moab, a buont yn aros yno cyhyd ag y bu Dafydd yn ei loches. 5Yna dywedodd y proffwyd Gad wrth Ddafydd, “Paid ag aros yn y lloches, dos yn ôl i dir Jwda.” Felly aeth Dafydd i Goed Hereth.
6Clywodd Saul fod Dafydd a'r gwŷr oedd gydag ef wedi dod i'r golwg, ac yr oedd yntau ar y pryd yn Gibea, yn eistedd dan bren tamarisg ar y bryn â'i waywffon yn ei law, a'i weision yn sefyll o'i gwmpas. 7Ac meddai Saul wrth y gweision o'i gwmpas, “Gwrandewch hyn, dylwyth Benjamin. A fydd mab Jesse yn rhoi i bob un ohonoch chwi feysydd a gwinllannoedd, a'ch gwneud i gyd yn swyddogion ar filoedd a channoedd? 8Er hynny yr ydych i gyd yn cynllwyn yn f'erbyn. Nid ynganodd neb air wrthyf pan wnaeth fy mab gyfamod â mab Jesse. Nid oedd neb ohonoch yn poeni amdanaf fi, nac yn yngan gair wrthyf pan barodd fy mab i'm gwas godi cynllwyn yn f'erbyn fel y gwna heddiw.”
9Yna atebodd Doeg yr Edomiad, a oedd yn sefyll gyda gweision Saul, a dweud, “Mi welais i fab Jesse'n dod i Nob at Ahimelech fab Ahitub. 10Ymofynnodd yntau â'r ARGLWYDD drosto, a rhoi bwyd iddo; rhoes iddo hefyd gleddyf Goliath y Philistiad.” 11Anfonodd y brenin am yr offeiriad Ahimelech fab Ahitub a'i deulu i gyd, a oedd yn offeiriaid yn Nob, a daethant oll at y brenin. 12Ac meddai Saul, “Gwrando di yn awr, fab Ahitub.” Atebodd yntau, “Gwnaf, f'arglwydd.” 13Yna dywedodd Saul wrtho, “Pam yr ydych wedi cynllwyn yn f'erbyn, ti a mab Jesse, a thithau'n rhoi bwyd a chleddyf iddo, yn ymofyn â Duw drosto, ac yn gadael iddo gynllwyn yn f'erbyn, fel y mae'n gwneud heddiw?” 14Atebodd Ahimelech y brenin a dweud, “Pwy o blith dy holl weision sydd mor deyrngar â Dafydd, yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin, ac yn bennaeth22:14 Felly Groeg. Hebraeg, yn troi at. dy osgorddlu ac yn uchel ei barch yn dy blas? 15Ai dyna'r tro cyntaf imi ymofyn â Duw drosto? Nage'n wir! Peidied y brenin â chyhuddo ei was, na'r un o'i deulu, oherwydd ni ŵyr dy was ddim am hyn, na bach na mawr.” 16Dywedodd y brenin, “Yr wyt ti, Ahimelech, yn mynd i farw, ie, ti a'th holl deulu.” 17Yna dywedodd y brenin wrth y gosgorddlu oedd yn sefyll yn ei ymyl, “Trowch arnynt a lladdwch offeiriaid yr ARGLWYDD, oherwydd y maent hwythau law yn llaw â Dafydd, am eu bod yn gwybod ei fod ar ffo, ond heb yngan gair wrthyf.” Ond ni fynnai gweision y brenin estyn llaw i daro offeiriaid yr ARGLWYDD. 18Yna dywedodd y brenin wrth Doeg, “Tro di a tharo'r offeiriaid.” Fe droes Doeg a tharo'r offeiriaid; a'r diwrnod hwnnw fe laddodd bump a phedwar ugain o wŷr yn gwisgo effod liain. 19Yn Nob hefyd, tref yr offeiriaid, trawodd â'r cleddyf wŷr a gwragedd, plant a babanod, a hyd yn oed ychen, asynnod a defaid.
20Ond dihangodd un mab i Ahimelech fab Ahitub, o'r enw Abiathar; a ffodd at Ddafydd, 21a dweud wrtho fod Saul wedi lladd offeiriaid yr ARGLWYDD. 22Dywedodd Dafydd wrth Abiathar, “Mi wyddwn i y diwrnod hwnnw pan oedd Doeg yr Edomiad yno, y byddai'n sicr o ddweud wrth Saul. Myfi sy'n gyfrifol am farwolaeth dy deulu cyfan. 23Aros gyda mi, paid ag ofni; oherwydd yr un sy'n ceisio d'einioes di sy'n ceisio f'einioes innau. Byddi'n ddiogel gyda mi.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004