No themes applied yet
1Yr adeg honno casglodd y Philistiaid eu lluoedd arfog i ryfela ag Israel. Dywedodd Achis wrth Ddafydd, “Yr wyf am i ti wybod dy fod ti a'th ddynion i fynd allan gyda mi yn y fyddin.” 2Dywedodd Dafydd, “Cei wybod felly beth a all dy was ei wneud.” Ac meddai Achis, “Am hynny yr wyf yn dy benodi'n warchodwr personol i mi am byth.”
Saul a Dewines Endor
3Yr oedd Samuel wedi marw, ac yr oedd Israel gyfan wedi galaru amdano a'i gladdu yn ei dref ei hun, Rama. Ac yr oedd Saul wedi gyrru ymaith y dewiniaid a'r swynwyr o'r wlad.
4Pan ymgasglodd y Philistiaid a dod a gwersyllu yn Sunem, fe gasglodd Saul Israel gyfan a gwersyllu yn Gilboa. 5Ond, pan welodd Saul wersyll y Philistiaid, cododd ofn a dychryn mawr yn ei galon. 6Ceisiodd Saul yr ARGLWYDD, ond nid oedd yr ARGLWYDD yn ateb trwy freuddwydion na bwrw coelbren na phroffwydi. 7Yna dywedodd Saul wrth ei weision, “Chwiliwch am ddewines, imi ymweld â hi i ofyn ei chyngor.” 8Dywedodd ei weision wrtho, “Y mae yna ddewines yn Endor.” Newidiodd Saul ei ymddangosiad, a gwisgo dillad gwahanol, ac aeth â dau ddyn gydag ef a dod at y ddynes liw nos a dweud, “Consuria imi trwy ysbryd, a dwg i fyny ataf y sawl a ddywedaf wrthyt.” 9Dywedodd y ddynes wrtho, “Fe wyddost beth a wnaeth Saul, ei fod wedi difa'r dewiniaid a'r swynwyr o'r wlad; pam felly yr wyt ti'n ceisio fy rhwydo a'm lladd?” 10Tyngodd Saul iddi yn enw'r ARGLWYDD, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni ddaw dim niwed iti o hyn.” 11Yna gofynnodd hi, “Pwy a ddygaf i fyny iti?” Dywedodd yntau, “Dwg Samuel i fyny imi.” 12Pan welodd y ddynes Samuel, gwaeddodd â llais uchel, a dweud wrth Saul, “Pam yr wyt wedi fy nhwyllo? Saul wyt ti.” 13Dywedodd y brenin wrthi, “Paid ag ofni; beth wyt yn ei weld?” Ac meddai'r ddynes wrth Saul, “Rwy'n gweld ysbryd yn dod i fyny o'r ddaear.” 14Gofynnodd yntau, “Sut ffurf sydd iddo?” Atebodd hithau, “Hen ŵr yn gwisgo mantell sy'n dod i fyny.” Deallodd Saul mai Samuel oedd, a gostyngodd ar ei wyneb i'r llawr ac ymgrymu. 15Yna dywedodd Samuel wrth Saul, “Pam yr wyt wedi aflonyddu arnaf a dod â mi i fyny?” Atebodd Saul, “Y mae'n gyfyng iawn arnaf; y mae'r Philistiaid yn rhyfela yn f'erbyn, a Duw wedi fy ngadael; nid yw'n fy ateb mwyach drwy na phroffwydi na breuddwydion, a gelwais arnat ti i ddweud wrthyf beth i'w wneud.” 16Ac meddai Samuel, “Ond pam yr wyt yn gofyn i mi, a'r ARGLWYDD wedi dy adael a dod yn wrthwynebwr iti? 17Y mae'r ARGLWYDD wedi gwneud fel y dywedodd trwof fi, ac wedi rhwygo'r deyrnas o'th law di a'i rhoi i'th gymydog Dafydd. 18Am na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, na gweithredu llymder ei lid yn erbyn yr Amaleciaid, dyna pam y mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i ti heddiw. 19Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi Israel a thithau hefyd yn llaw'r Philistiaid; yfory byddi di a'th feibion gyda mi, a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi byddin Israel yn llaw'r Philistiaid.” 20Syrthiodd Saul ar unwaith ar ei hyd ar lawr, mewn ofn enbyd oherwydd geiriau Samuel, ac aeth yn gwbl ddiymadferth am nad oedd wedi bwyta tamaid am ddiwrnod a noson gyfan. 21Pan ddaeth y ddynes at Saul gwelai ei fod wedi cynhyrfu drwyddo, a dywedodd wrtho, “Edrych, fe wrandawodd dy wasanaethferch arnat, a chymerais fy mywyd yn fy nwylo trwy wrando ar yr hyn a ddywedaist wrthyf; 22yn awr, gwrando dithau ar dy wasanaethferch, a gad imi osod o'th flaen damaid o fwyd iti ei fwyta, er mwyn adfer dy nerth ar gyfer dy daith.” 23Ond gwrthododd, a dweud nad oedd am fwyta. Wedi i'w weision a'r ddynes bwyso arno, gwrandawodd arnynt, a chodi oddi ar lawr ac eistedd ar y gwely. 24Yr oedd gan y ddynes lo pasgedig yn y cwt, a brysiodd i'w ladd; hefyd cymerodd flawd a'i dylino a phobi bara croyw. 25Yna fe'u gosododd o flaen Saul a'i weision; ac wedi iddynt fwyta, aethant ymaith ar unwaith y noson honno.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004