No themes applied yet
Yr Aifft yn Goresgyn Jerwsalem
1 Bren. 14:25–28
1Ar ôl i Rehoboam wneud ei frenhiniaeth yn gadarn a sicr, fe gefnodd ef a holl Israel gydag ef ar gyfraith yr ARGLWYDD. 2Am iddynt fod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, ym mhumed flwyddyn y Brenin Rehoboam, daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem 3gyda mil a dau gant o gerbydau a thrigain mil o farchogion; daeth hefyd lu aneirif o Libyaid, Suciaid ac Ethiopiaid gydag ef o'r Aifft. 4Cymerodd ddinasoedd caerog Jwda a chyrhaeddodd Jerwsalem. 5Yna daeth y proffwyd Semaia at Rehoboam a thywysogion Jwda, a oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem o achos Sisac, a dywedodd wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr ydych chwi wedi cefnu arnaf fi; felly yr wyf finnau wedi cefnu arnoch chwi a'ch rhoi yn llaw Sisac.’ ” 6Yna fe ymostyngodd tywysogion Israel a'r brenin, a dweud, “Cyfiawn yw'r ARGLWYDD.” 7A phan welodd yr ARGLWYDD iddynt ymostwng, daeth gair yr ARGLWYDD at Semaia a dweud, “Am iddynt ymostwng ni ddifethaf hwy, ond rhoddaf gyfle iddynt ddianc, ac ni thywelltir fy llid ar Jerwsalem trwy law Sisac. 8Er hynny, fe fyddant yn weision iddo, er mwyn iddynt wybod y gwahaniaeth rhwng fy ngwasanaethu i a gwasanaethu teyrnasoedd y byd.” 9Yna daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem a dwyn holl drysorau tŷ'r ARGLWYDD a thrysorau tŷ'r brenin, a dwyn hefyd y tarianau aur a wnaeth Solomon. 10Yn eu lle gwnaeth y Brenin Rehoboam darianau pres, a'u rhoi yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn gwylio porth tŷ'r brenin. 11Bob tro yr âi'r brenin i dŷ'r ARGLWYDD, fe ddôi'r gwarchodlu a'u cyrchu, ac yna eu dychwelyd i'r wardws. 12A phan ymostyngodd, fe drodd yr ARGLWYDD ei lid oddi wrtho, a pheidio â'i lwyr ddinistrio. Yna daeth ffyniant i Jwda.
Crynodeb o Deyrnasiad Rehoboam
13Sicrhaodd y Brenin Rehoboam ei afael ar Jerwsalem a theyrnasu yno. Yr oedd yn un a deugain oed pan ddechreuodd deyrnasu, a bu'n frenin am ddwy flynedd ar bymtheg yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisodd yr ARGLWYDD allan o holl lwythau Israel i osod ei enw yno. Naama yr Ammones oedd enw mam Rehoboam. 14Ond fe wnaeth y brenin ddrwg trwy beidio â rhoi ei fryd ar geisio'r ARGLWYDD.
15Ac onid yw hanes Rehoboam, o'r dechrau i'r diwedd, yn ysgrifenedig yng nghroniclau ac achau Semaia y proffwyd ac Ido y gweledydd? Bu rhyfeloedd rhwng Rehoboam a Jeroboam trwy gydol yr amser. 16Pan fu farw Rehoboam, claddwyd ef yn Ninas Dafydd, a daeth Abeia ei fab yn frenin yn ei le.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004