No themes applied yet
Y Proffwyd Michea yn Rhybuddio Ahab
1 Bren. 22:1–28
1Yr oedd gan Jehosaffat olud a chyfoeth mawr iawn, ac yr oedd yn perthyn i Ahab trwy briodas. 2Ymhen rhai blynyddoedd fe aeth i lawr i Samaria at Ahab, a lladdodd yntau lawer o ddefaid a gwartheg iddo ef a'r bobl oedd gydag ef, a'i ddenu i ymosod ar Ramoth-gilead. 3Meddai Ahab brenin Israel wrth Jehosaffat brenin Jwda, “A ddoi di gyda mi i Ramoth-gilead?” Atebodd yntau, “Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di; down gyda thi i ryfel.” 4Ond ychwanegodd Jehosaffat wrth frenin Israel, “Cais yn gyntaf air yr ARGLWYDD.” 5Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, pedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, “A ddylem fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?” Dywedasant hwythau, “Dos i fyny, ac fe rydd Duw hi yn llaw'r brenin.” 6Ond holodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?” 7Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oes, y mae un gŵr eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla. Ond y mae ef yn atgas gennyf am nad yw byth yn proffwydo lles i mi, dim ond drwg.” Dywedodd Jehosaffat, “Peidied y brenin â dweud fel yna.” 8Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, “Tyrd â Michea fab Imla yma ar frys.” 9Yr oedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar eu gorseddau ar y llawr dyrnu wrth borth Samaria, gyda'r holl broffwydi'n proffwydo o'u blaen. 10Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Gyda'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.’ ” 11Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, “Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin.”
12Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, “Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant.” 13Atebodd Michea, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed fy Nuw wrthyf a lefaraf.” 14Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, “Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?” A dywedodd wrtho, “Ewch i fyny a llwyddo; fe'u rhoddir hwy yn eich llaw.” 15Ond dywedodd y brenin wrtho, “Pa sawl gwaith yr wyf wedi dy dynghedu i beidio â dweud dim ond y gwir wrthyf yn enw'r ARGLWYDD?” 16Yna dywedodd Michea:
“Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniau
fel defaid heb fugail ganddynt.
A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Nid oes feistr ar y rhain;
felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.’ ”
17Dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oni ddywedais wrthyt na fyddai'n proffwydo da i mi, ond yn hytrach ddrwg?” 18A dywedodd Michea, “Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD; gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, gyda holl lu'r nef yn sefyll ar y dde ac ar y chwith iddo. 19A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Pwy a fedr hudo Ahab i frwydro a chwympo yn Ramoth-gilead?’ Ac yr oedd un yn dweud fel hyn, a'r llall fel arall; 20ond dyma un ysbryd yn sefyll allan o flaen yr ARGLWYDD ac yn dweud, ‘Fe'i hudaf fi ef’. Ac meddai'r ARGLWYDD, ‘Sut?’ 21Dywedodd yntau, ‘Af allan a bod yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei broffwydi i gyd.’ Yna dywedodd wrtho, ‘Fe lwyddi di i'w hudo; dos a gwna hyn.’ 22Yn awr, rhoddodd yr ARGLWYDD ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; y mae'r ARGLWYDD wedi llunio drwg ar dy gyfer.”
23Nesaodd Sedeceia fab Cenaana a rhoi cernod i Michea, a dweud, “Sut yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i lefaru wrthyt ti?” 24Dywedodd Michea, “Cei weld ar y dydd hwnnw pan fyddi'n ceisio ymguddio yn yr ystafell nesaf i mewn.” 25A dywedodd brenin Israel, “Ewch â Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y dref, a Joas mab y brenin, 26a dywedwch wrthynt, ‘Fel hyn y dywed y brenin: Rhowch hwn yng ngharchar, a bwydwch ef â'r dogn prinnaf o fara a dŵr nes imi ddod yn ôl yn llwyddiannus.’ ” 27Ac meddai Michea, “Os llwyddi i ddod yn ôl, ni lefarodd yr ARGLWYDD drwof; gwrandewch chwi bobl i gyd.”
Marwolaeth Ahab
1 Bren. 22:29–35
28Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead. 29A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, “Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol.” Newidiodd brenin Israel ei wisg, ac aethant i'r frwydr. 30Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i gapteiniaid ei gerbydau, “Peidiwch ag ymladd â neb, bach na mawr, ond â brenin Israel yn unig.” 31A phan welodd capteiniaid y cerbydau Jehosaffat, dywedasant, “Hwn yn sicr yw brenin Israel.” Yna troesant i ymladd ag ef; ond rhoddodd Jehosaffat waedd, a chynorthwyodd yr ARGLWYDD Dduw ef trwy eu hudo oddi wrtho. 32A phan welodd capteiniaid y cerbydau nad brenin Israel oedd, gadawsant lonydd iddo. 33A thynnodd rhywun ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro'n ôl, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo.” 34Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i frenin Israel aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr; yna ar fachlud haul bu farw.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004