No themes applied yet
Joseia'n Cadw'r Pasg
2 Bren. 23:21–23
1Cadwodd Joseia Basg i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem; lladdasant oen y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf. 2Gosododd yr offeiriaid ar ddyletswydd, a'u hannog i wasanaethu yn nhŷ yr ARGLWYDD. 3Dywedodd wrth y Lefiaid oedd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD ac yn dysgu holl Israel, “Rhowch yr arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Solomon fab Dafydd, brenin Israel; nid ydych i'w chario ar eich ysgwyddau. Yn awr, gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel. 4Paratowch eich hunain fesul teulu yn ôl eich dosbarthiadau, fel yr ysgrifennodd Dafydd brenin Israel a'i fab Solomon. 5Safwch yn y cysegr dros eich pobl leyg fesul teulu yn ôl eich dosbarthiadau; y mae gan y Lefiaid gyfran ym mhob teulu. 6Lladdwch oen y Pasg; ymgysegrwch a pharatoi, er mwyn i'ch pobl wneud yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy Moses.”
7Rhoddodd Joseia i'r holl bobl oedd yn bresennol ddeng mil ar hugain o ddefaid, sef ŵyn a mynnod, a thair mil o ychen ar gyfer y Pasg; daeth y cwbl o'r drysorfa frenhinol. 8Hefyd, rhoddodd ei swyddogion o'u gwirfodd i'r bobl, a'r offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Hilceia, Sechareia a Jehiel, prif swyddogion tŷ Dduw, ddwy fil a chwe chant o ddefaid a thri chant o ychen i'r offeiriaid ar gyfer y Pasg. 9A rhoddodd Cononeia a'i frodyr Semaia a Nethaneel, a Hasabeia, Jehiel a Josabad, swyddogion y Lefiaid, bum mil o ddefaid a phum cant o ychen ar gyfer y Pasg. 10Felly paratowyd y gwasanaeth, a safodd yr offeiriaid yn eu lle a'r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin. 11Lladdasant oen y Pasg, a lluchiodd yr offeiriaid beth o'r gwaed ar yr allor tra oedd y Lefiaid yn blingo'r anifeiliaid. 12Yna aethant â'r poethoffrymau ymaith i'w dosbarthu yn ôl rhaniadau teuluoedd y bobl, er mwyn iddynt offrymu i'r ARGLWYDD fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr Moses; felly hefyd y gwnaethant â'r ychen. 13Rhostiwyd oen y Pasg ar y tân, yn ôl y ddefod, a berwi'r pethau cysegredig mewn crochanau, peiriau a phedyll, a'u rhannu ar frys i'r holl bobl. 14Yna paratoesant ar eu cyfer eu hunain ac ar gyfer yr offeiriaid, oherwydd yr oedd yr offeiriaid, meibion Aaron, wedi bod yn aberthu'r poethoffrwm a'r offrymau o fraster hyd yr hwyr. Fel hyn y paratôdd y Lefiaid ar eu cyfer eu hunain a'r offeiriaid, meibion Aaron. 15Yr oedd y cantorion, meibion Asaff, yn eu lle yn ôl gorchymyn Dafydd: Asaff, Heman a Jeduthun, gweledydd y brenin; ac yr oedd pob un o'r porthorion wrth ei borth. Nid oedd raid iddynt adael eu gwaith, oherwydd yr oedd eu brodyr y Lefiaid yn paratoi ar eu cyfer.
16Fel hyn y paratowyd holl wasanaeth yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw, er mwyn cadw'r Pasg ac offrymu poethoffrymau ar allor yr ARGLWYDD yn ôl gorchymyn y Brenin Joseia. 17Yr adeg honno cadwodd yr Israeliaid oedd yn bresennol y Pasg a gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod. 18Ni chadwyd Pasg fel hwn yn Israel er dyddiau Samuel y proffwyd, ac ni chadwodd yr un o frenhinoedd Israel y Pasg fel y cadwodd Joseia ef gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, pawb oedd yn bresennol o Jwda ac Israel, a thrigolion Jerwsalem. 19Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cadwyd y Pasg hwn.
Marw Joseia
2 Bren. 23:28–30
20Ar ôl hyn oll, pan oedd Joseia wedi paratoi'r deml, daeth Necho brenin yr Aifft i fyny i ymladd yn Carchemis ar lan afon Ewffrates, ac aeth Joseia allan i'w gyfarfod. 21Ond anfonodd Necho negeswyr ato i ddweud, “Beth sydd a wnelwyf fi â thi, brenin Jwda? Nid yn dy erbyn di yr wyf fi wedi dod yma heddiw, ond i ymladd yn erbyn teyrnas arall. Dywedodd Duw wrthyf am frysio, a phaid ti â rhwystro'r Duw sydd gyda mi, rhag iddo dy ddifa.” 22Ond ni throdd Joseia oddi wrtho, oherwydd yr oedd yn benderfynol o ymladd ag ef; gwrthododd wrando ar eiriau Necho, a ddaeth oddi wrth Dduw, ac aeth i ymladd yn nyffryn Megido. 23Saethwyd y Brenin Joseia gan y saethyddion, a dywedodd wrth ei weision, “Ewch â mi ymaith, oherwydd cefais fy nghlwyfo'n ddrwg.” 24Tynnodd ei weision ef allan o'r cerbyd, a'i roi yn ei ail gerbyd a mynd ag ef i Jerwsalem. Bu farw yno ac fe'i claddwyd ym meddrod ei hynafiaid, a galarodd holl Jwda a Jerwsalem amdano. 25Gwnaeth Jeremeia alarnad am Joseia, a hyd heddiw y mae pob canwr a chantores yn sôn amdano yn eu galarnadau. Y mae caniadau o'r fath yn ddefod yn Israel, ac y maent wedi eu hysgrifennu yn y Galarnadau.
26Am weddill hanes Joseia, ei ddaioni yn gwneud yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd yng nghyfraith yr ARGLWYDD, 27a'i weithredoedd o'r dechrau i'r diwedd, y maent wedi eu hysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004