No themes applied yet
Paul yn Amddiffyn ei Weinidogaeth
1Yr wyf fi, Paul, fy hun yn eich annog, ar sail addfwynder a hynawsedd Crist—myfi, y dywedir fy mod yn wylaidd wyneb yn wyneb â chwi ond yn hy arnoch pan fyddaf ymhell. 2Pan fyddaf gyda chwi, yr wyf yn erfyn arnoch na fydd angen imi arfer yn eofn yr hyfdra yr wyf yn ystyried y gallaf feiddio ei arfer tuag at y rhai sy'n ein cyfrif ni'n rhai sy'n byw ar wastad y cnawd. 3Oherwydd er ein bod yn byw yn y cnawd, nid ar wastad y cnawd yr ydym yn milwrio— 4canys nid arfau gwan y cnawd yw arfau ein milwriaeth ni, ond rhai nerthol Duw sy'n dymchwel cestyll. 5Felly yr ydym yn dymchwel dadleuon dynol, a phob ymhoniad balch sy'n ymgodi yn erbyn yr adnabyddiaeth o10:5 Neu, y wybodaeth am. Dduw, ac yn cymryd pob meddwl yn garcharor i fod yn ufudd i Grist. 6Yr ydym yn barod i gosbi pob anufudd-dod unwaith y bydd eich ufudd-dod chwi yn gyflawn.
7Wynebwch y ffeithiau amlwg. Pwy bynnag sy'n credu yn ei galon ei fod yn perthyn i Grist, fe ddylai ystyried hyn hefyd yn ei galon, ein bod ninnau yn perthyn i Grist gymaint ag yntau. 8Hyd yn oed os wyf yn ymffrostio rywfaint yn ormod am ein hawdurdod—awdurdod a roddodd yr Arglwydd i ni er mwyn eich adeiladu, nid eich dymchwel—ni chaf fy nghywilyddio. 9Ni chaf fy nangos, chwaith, fel un sy'n codi dychryn arnoch â'i lythyrau, fel y myn rhai. 10“Mae ei lythyrau,” meddant, “yn bwysfawr a grymus, ond pan fydd yn bresennol, dyn bach eiddil ydyw, a'i ymadrodd yn haeddu dirmyg.” 11Dealled y rhai sy'n siarad felly hyn: yr hyn ydym ar air mewn llythyrau pan ydym yn absennol, hynny'n union a fyddwn mewn gweithred pan fyddwn yn bresennol.
12Oherwydd nid ydym yn beiddio cystadlu na'n cymharu ein hunain â'r rhai sydd yn eu canmol eu hunain. Pobl heb ddeall ydynt, yn eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain ac yn eu cymharu eu hunain â hwy eu hunain. 13Ond ni fydd ein hymffrost ni y tu hwnt i'n mesur; fe'i cedwir o fewn mesur y terfyn a bennodd Duw i ni, sy'n cyrraedd hyd atoch chwi hefyd. 14Oherwydd nid ydym yn mynd y tu hwnt i'n terfyn, fel y byddem pe na bai ein terfyn yn eich cynnwys chwi; ni oedd y cyntaf i ddod ag Efengyl Crist atoch chwi hefyd. 15Nid ydym yn ymffrostio y tu hwnt i'n mesur, hynny yw, ar bwys llafur pobl eraill. Ond gobeithio yr ydym, fel y bydd eich ffydd chwi yn mynd ar gynnydd, y bydd ein gwaith yn eich plith yn helaethu'n ddirfawr, o fewn ein terfynau. 16Ein bwriad yw pregethu'r Efengyl mewn mannau y tu hwnt i chwi, nid ymffrostio yn y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud o fewn terfynau rhywun arall. 17Y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd. 18Nid y sawl sydd yn ei ganmol ei hunan, ond y sawl y mae'r Arglwydd yn ei ganmol, sy'n gymeradwy.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004