No themes applied yet
1Gwyddom, os tynnir i lawr y babell ddaearol hon yr ydym yn byw ynddi, fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, tŷ nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd. 2Yma yn wir yr ydym yn ochneidio yn ein hiraeth am gael ein harwisgo â'r corff o'r nef sydd i fod yn gartref inni; 3o'n gwisgo felly,5:3 Yn ôl darlleniad arall, hyd yn oed os byddwn heb ein gwisgo. ni cheir mohonom yn noeth. 4Oherwydd yr ydym ni sydd yn y babell hon yn ochneidio dan ein baich; nid ein bod am ymddiosg ond yn hytrach ein harwisgo, er mwyn i'r hyn sydd farwol gael ei lyncu gan fywyd. 5Duw yn wir a'n darparodd ni ar gyfer hyn, ac ef sydd wedi rhoi yr Ysbryd inni yn ernes.
6Am hynny, yr ydym bob amser yn llawn hyder. Gwyddom, tra byddwn yn cartrefu yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd; 7oherwydd yn ôl ffydd yr ydym yn rhodio, nid yn ôl golwg. 8Yr ydym yn llawn hyder, meddaf, a gwell gennym fyddai bod oddi cartref o'r corff a chartrefu gyda'r Arglwydd. 9Y mae ein bryd, felly, gartref neu oddi cartref, ar fod yn gymeradwy ganddo ef. 10Oherwydd rhaid i bawb ohonom ymddangos gerbron brawdle Crist, er mwyn i bob un dderbyn ei dâl yn ôl ei weithredoedd yn y corff, ai da ai drwg.
Gweinidogaeth y Cymod
11Felly, o wybod beth yw ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio pobl; y mae'r hyn ydym yn hysbys i Dduw, ac rwy'n gobeithio ei fod yn hysbys i'ch cydwybod chwi hefyd. 12Nid ydym yn ein cymeradwyo ein hunain unwaith eto i chwi, ond rhoi cyfle yr ydym i chwi i ymffrostio o'n hachos ni, er mwyn ichwi gael ateb i'r rhai sy'n ymffrostio yn yr hyn sydd ar yr wyneb yn hytrach na'r hyn sydd yn y galon. 13Os ydym allan o'n pwyll, er mwyn Duw y mae hynny; os ydym yn ein hiawn bwyll, er eich mwyn chwi y mae hynny. 14Oherwydd y mae cariad Crist yn ein gorfodi ni, a ninnau wedi ein hargyhoeddi o hyn: i un farw dros bawb, ac felly i bawb farw. 15A bu ef farw dros bawb er mwyn i'r byw beidio â byw iddynt eu hunain mwyach, ond i'r un a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.
16O hyn allan, felly, nid ydym yn ystyried neb o safbwynt dynol. Hyd yn oed os buom yn ystyried Crist o safbwynt dynol, nid ydym yn ei ystyried felly mwyach. 17Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae'n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae'r newydd yma. 18Ond gwaith Duw yw'r cyfan—Duw, yr hwn sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogaeth y cymod. 19Hynny yw, yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod. 20Felly cenhadon dros Grist ydym ni, fel pe bai Duw yn apelio atoch trwom ni. Deisyf yr ydym dros Grist, cymoder chwi â Duw. 21Ni wybu Crist beth oedd pechu, ond gwnaeth Duw ef yn un â phechod5:21 Neu, yn aberth dros bechod. drosom ni, er mwyn i ni ddod yn gyfiawnder Duw ynddo ef.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004