No themes applied yet
1Felly, gan fod gennym yr addewidion hyn, gyfeillion annwyl, ymlanhawn oddi wrth bob peth sy'n halogi cnawd ac ysbryd, gan berffeithio ein sancteiddrwydd yn ofn Duw.
Paul yn Llawenhau fod yr Eglwys wedi Edifarhau
2Rhowch le i ni yn eich calonnau. Ni wnaethom gam â neb, na llygru neb, na chymryd mantais ar neb. 3Nid i'ch condemnio yr wyf yn dweud hyn, oherwydd dywedais wrthych o'r blaen eich bod mor agos at ein calon, nes ein bod gyda'n gilydd, deued marwolaeth neu fywyd. 4Y mae gennyf hyder mawr ynoch, a balchder mawr o'ch herwydd. Y mae fy nghwpan yn llawn o ddiddanwch, ac yn gorlifo â llawenydd yng nghanol ein holl orthrymder.
5Hyd yn oed pan ddaethom i Facedonia, ni chawsom ddim llonydd yn ein gwendid; yn hytrach cawsom ein gorthrymu ym mhob ffordd—brwydrau oddi allan ac ofnau oddi mewn. 6Ond y mae Duw, yr un sydd yn diddanu'r digalon, wedi ein diddanu ninnau trwy ddyfodiad Titus; 7ac nid yn unig trwy ei ddyfodiad ef, ond hefyd trwy'r diddanwch a gafodd ef ynoch chwi. Y mae wedi dweud wrthym am eich hiraeth amdanaf, am eich galar, ac am eich sêl drosof, nes gwneud fy llawenydd yn fwy byth. 8Oherwydd er i mi beri loes i chwi â'm llythyr, nid yw'n flin gennyf; rwy'n gweld i'r llythyr hwnnw beri loes i chwi, o leiaf dros dro, 9ac er y bu'n flin gennyf, yr wyf yn awr yn falch, nid am i chwi gael loes, ond am i'r loes droi'n edifeirwch. Oherwydd derbyniasoch eich loes mewn ffordd dduwiol, ac felly ni chawsoch ddim colled trwom ni. 10Canys y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd dduwiol yn creu edifeirwch sydd yn arwain i iachawdwriaeth na ellir bod yn flin amdano; ond y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd fydol yn peri marwolaeth. 11Ystyriwch ganlyniadau derbyn eich loes mewn ffordd dduwiol: y fath ymroddiad a barodd ynoch, ie, y fath hunanamddiffyniad, y fath ddicter, y fath ofn, y fath ddyhead, y fath sêl, y fath benderfyniad i gosbi'n gyfiawn. Ym mhob ffordd yr ydych wedi dangos eich bod yn ddi-fai yn y mater hwn. 12Felly, er i mi yn wir ysgrifennu atoch, nid o achos y sawl a wnaeth y cam, nac o achos y sawl a'i dioddefodd, y gwneuthum hynny, ond er mwyn amlygu i chwi, yng ngŵydd Duw, gymaint yw eich ymroddiad trosom. 13Dyna pam yr ydym yn awr wedi ein diddanu.
Ond yn ogystal â'n diddanwch ni, cawsom lawenydd mwy o lawer yn llawenydd Titus, am i chwi oll roi esmwythâd i'w ysbryd. 14Oherwydd os wyf wedi ymffrostio rywfaint wrtho amdanoch chwi, ni chefais fy nghywilyddio, ond fel y mae popeth a ddywedais wrthych chwi yn wir, felly hefyd daeth fy ymffrost wrth Titus yn wir. 15Y mae ei galon yn cynhesu fwyfwy tuag atoch o gofio ufudd-dod pob un ohonoch, a'r modd y derbyniasoch ef mewn ofn a dychryn. 16Yr wyf yn llawenhau y gallaf ymddiried yn llwyr ynoch.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004