No themes applied yet
Cyfarch
1Yr henuriad at yr arglwyddes etholedig a'i phlant. Yr wyf fi, ac nid myfi yn unig, ond pawb sydd wedi dod i wybod y gwirionedd, yn eich caru yn y gwirionedd, 2er mwyn y gwirionedd sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni am byth. 3Bydd gras, trugaredd a thangnefedd gyda ni, oddi wrth Dduw y Tad ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
Aros yn Nysgeidiaeth Crist
4Bu'n llawenydd mawr i mi gael rhai o'th blant di yn rhodio yn y gwirionedd, fel y cawsom orchymyn gan y Tad. 5Ac yn awr yr wyf yn erfyn arnat, arglwyddes, ond nid fel un yn ysgrifennu iti orchymyn newydd; gorchymyn a oedd gennym o'r dechrau ydyw, sef ein bod i garu ein gilydd. 6A hyn yw cariad: ein bod yn rhodio yn ôl ei orchmynion ef. A'r gorchymyn hwn, fel y clywsoch o'r dechreuad, yw eich bod i rodio mewn cariad. 7Oherwydd aeth twyllwyr lawer allan i'r byd, y rhai nad ydynt yn cyffesu bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd; dyma'r twyllwr a'r Anghrist. 8Gwyliwch eich hunain, rhag ichwi golli ffrwyth ein1:8 Yn ôl darlleniad arall, eich. llafur, ond derbyn eich gwobr yn gyflawn. 9Pob un sy'n mynd rhagddo heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo; y sawl sydd yn aros yn y ddysgeidiaeth, y mae'r Tad a'r Mab ganddo. 10Os daw rhywun atoch heb ddod â'r ddysgeidiaeth hon, peidiwch â'i dderbyn i'ch tŷ na'i gyfarch ef, 11oherwydd y mae'r sawl sy'n ei gyfarch yn gyfrannog o'i weithredoedd drygionus.
Cyfarchion Terfynol
12Er bod gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atoch, gwell gennyf beidio â'u hysgrifennu â phapur ac inc; rwy'n gobeithio dod atoch, a siarad â chwi wyneb yn wyneb, ac yna bydd ein llawenydd yn gyflawn. 13Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy gyfarch di.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004