No themes applied yet
Y Brenin yn Ceisio Cyngor Eseia
Es. 37:1–7
1Pan glywodd y Brenin Heseceia yr hanes, rhwygodd ei ddillad a rhoi sachliain amdano, a mynd i dŷ'r ARGLWYDD. 2Yna anfonodd Eliacim, arolygwr y palas, a Sebna'r ysgrifennydd a'r rhai hynaf o'r offeiriaid, i gyd mewn sachliain, at y proffwyd Eseia fab Amos, i ddweud wrtho, 3“Fel hyn y dywed Heseceia: ‘Y mae heddiw'n ddydd o gyfyngder a cherydd a gwarth; y mae fel pe bai plant ar fin cael eu geni, a'r fam heb nerth i esgor. 4O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gwrando ar eiriau'r prif swyddog a anfonwyd gan ei feistr, brenin Asyria, i gablu'r Duw byw, ac y byddai yn ei geryddu am y geiriau a glywodd yr ARGLWYDD dy Dduw! Felly dos i weddi dros y gweddill sydd ar ôl.’ ” 5Pan ddaeth gweision y Brenin Heseceia at Eseia, 6dywedodd Eseia wrthynt, “Dywedwch wrth eich meistr, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Paid ag ofni'r pethau a glywaist, pan oedd llanciau brenin Asyria yn fy nghablu. 7Edrych, rwy'n rhoi ysbryd ynddo, ac fe glyw si fydd yn peri iddo ddychwelyd i'w wlad; hefyd gwnaf iddo syrthio gan y cleddyf yn y wlad honno.’ ”
Yr Asyriaid yn Bygwth Eto
Es. 37:8–20
8Pan ddychwelodd y prif swyddog, cafodd ar ddeall fod brenin Asyria wedi gadael Lachis, a'i fod yn rhyfela yn erbyn Libna. 9Ond pan ddeallodd fod Tirhaca brenin Ethiopia ar ei ffordd i ryfela yn ei erbyn, fe anfonodd genhadau eilwaith at Heseceia, a dweud, 10“Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, ‘Paid â chymryd dy dwyllo gan dy Dduw yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria. 11Yn sicr, fe glywaist am yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, sef eu difrodi. A gei di dy arbed? 12A waredodd duwiau'r cenhedloedd hwy—y cenhedloedd a ddinistriodd fy rhagflaenwyr, fel Gosan a Haran a Reseff, a phobl Eden oedd yn trigo yn Telassar? 13Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lair, Seffarfaim, Hena ac Ifa?’ ”
14Cymerodd Heseceia y neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i'r deml, a'i hagor yng ngŵydd yr ARGLWYDD, a gweddïo fel hyn o flaen yr ARGLWYDD: 15“O ARGLWYDD Dduw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; ti a wnaeth y nefoedd a'r ddaear. 16O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw. O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gwêl. Gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw. 17Y mae'n wir, O ARGLWYDD, fod brenhinoedd Asyria wedi difa'r cenhedloedd a'u gwledydd, 18a thaflu eu duwiau i'r tân; cawsant eu dinistrio am nad duwiau mohonynt, ond gwaith dwylo dynol, o goed a charreg. 19Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yn unig, O ARGLWYDD, sydd Dduw.”
Neges Eseia i'r Brenin
Es. 37:21–38
20Anfonodd Eseia fab Amos at Heseceia, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel; 21‘Clywais yr hyn a weddïaist ynglŷn â Senacherib brenin Asyria, a dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn:
“ ‘Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu,
yn chwerthin am dy ben;
y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy ôl.
22Pwy wyt ti yn ei ddifenwi ac yn ei gablu?
Yn erbyn pwy y codi dy lais?
Yr wyt yn gwneud ystum dirmygus
yn erbyn Sanct Israel.
23Trwy dy weision fe geblaist yr Arglwydd, a dweud,
“Gyda lliaws fy ngherbydau
dringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd,
i bellterau Lebanon;
torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd;
euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog.
24Cloddiais bydewau ac yfed dyfroedd estron;
â gwadn fy nhroed sychais holl ffrydiau'r Neil.
25Oni chlywaist erstalwm mai myfi a'i gwnaeth,
ac imi lunio hyn yn y dyddiau gynt?
Bellach rwy'n ei ddwyn i ben;
bydd dinasoedd caerog yn syrthio
yn garneddau wedi eu dinistrio;
26bydd y trigolion a'u nerth yn pallu,
yn ddigalon ac mewn gwarth,
fel gwellt y maes, llysiau gwyrdd
a glaswellt pen to
wedi eu deifio cyn llawn dyfu.
27Rwy'n gwybod pryd yr wyt yn eistedd,
yn mynd allan ac yn dod i mewn,
a'r modd yr wyt yn cynddeiriogi yn f'erbyn.
28Am dy fod yn gynddeiriog yn f'erbyn,
a bod sen dy draha yn fy nghlustiau,
fe osodaf fy mach yn dy ffroen
a'm ffrwyn yn dy weflau,
a'th yrru'n ôl ar hyd y ffordd y daethost.” ’
29“ ‘Hyn fydd yr arwydd i ti: eleni, bwyteir yr ŷd sy'n tyfu ohono'i hun, a'r flwyddyn nesaf, yr hyn sydd wedi ei hau ohono'i hun; ond yn y drydedd flwyddyn cewch hau a medi, a phlannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth. 30Bydd y dihangol a adewir yn nhŷ Jwda yn gwreiddio i lawr ac yn ffrwytho i fyny; 31oherwydd fe ddaw gweddill allan o Jerwsalem, a rhai dihangol allan o Fynydd Seion. Sêl ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.’
32“Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am frenin Asyria:
“ ‘Ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, nac anfon saeth i'w mewn;
nid ymesyd arni â tharian, na chodi clawdd i'w herbyn.
33Ar hyd y ffordd y daeth, fe ddychwel;
ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD.
34Byddaf yn darian i'r ddinas hon i'w gwaredu,
er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.’ ”
35A'r noson honno aeth angel yr ARGLWYDD allan a tharo yng ngwersyll Asyria gant a phedwar ugain a phump o filoedd; pan ddaeth y bore cafwyd hwy i gyd yn gelanedd meirwon. 36Yna aeth Senacherib brenin Asyria i ffwrdd a dychwelyd i Ninefe ac aros yno. 37Pan oedd yn addoli yn nheml ei dduw Nisroch, daeth ei feibion Adrammelech a Sareser a'i ladd â'r cleddyf, ac yna dianc i wlad Ararat. Daeth ei fab Esarhadon i'r orsedd yn ei le.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004