No themes applied yet
Proffwydi Gau ac Athrawon Gau
Jwd. 4–13
1Ymddangosodd hefyd broffwydi gau ymhlith pobl Israel, ac yn yr un modd bydd athrawon gau yn eich plith chwithau, rhai a fydd yn dwyn i mewn yn llechwraidd heresïau dinistriol, yn gwadu'r Meistr a'u prynodd, ac yn dwyn arnynt eu hunain ddistryw buan. 2A bydd llawer yn dilyn eu harferion anllad, a thrwyddynt hwy caiff ffordd y gwirionedd enw drwg. 3Yn eu trachwant gwnânt elw ohonoch â'u storïau ffug; y mae eu barnedigaeth ar gerdded erstalwm, a'u dinistr yn rhythu arnynt.
4Oherwydd nid arbedodd Duw yr angylion a bechodd; traddododd hwy i garchar2:4 Yn ôl darlleniad arall, i bydewau. tywyll uffern, i'w cadw hyd y Farn. 5Nid arbedodd yr hen fyd chwaith, er iddo ddiogelu Noa, pregethwr cyfiawnder, ynghyd â saith arall, wrth ddwyn y dilyw ar fyd y rhai annuwiol. 6Condemniodd hefyd ddinasoedd Sodom a Gomorra i ddistryw; llosgodd hwy'n lludw, a'u gosod yn esiampl o'r hyn sydd i ddigwydd i'r annuwiol. 7Gwaredodd Lot, gŵr cyfiawn oedd yn cael ei drallodi gan fywyd anllad rhai afreolus; 8oherwydd wrth i'r gŵr cyfiawn hwn fyw yn eu plith, yr oedd gweld a chlywed eu gweithredoedd aflywodraethus yn artaith feunyddiol i'w enaid cyfiawn. 9Y mae'r Arglwydd yn medru gwaredu'r duwiol o'u treialon, a chadw'r anghyfiawn hyd Ddydd y Farn i'w cosbi, 10ac yn arbennig felly y rhai sy'n byw i borthi chwantau aflan y cnawd, ac yn diystyru awdurdod.
Y maent yn rhyfygus a thrahaus, ac yn sarhau'r bodau nefol yn gwbl eofn, 11rhywbeth nad yw'r angylion, er eu rhagoriaeth mewn nerth a gallu, yn ei wneud wrth gyhoeddi barn yn eu herbyn hwy gerbron yr Arglwydd. 12Ond y mae'r bobl hyn yn siarad yn sarhaus am bethau nad ydynt yn eu deall; y maent fel anifeiliaid direswm sydd, yn nhrefn natur, wedi eu geni i'w dal a'u difetha; ac fel y difethir anifeiliaid, fe'u difethir hwythau. 13Fe gânt ddrwg yn dâl am eu drygioni. Eu syniad am bleser yw gloddesta liw dydd. Yn eich cwmni, mae eu chwant a'u gloddesta2:13 Darlleniad arall yn ychwanegu mewn cariad-wleddoedd. yn warth a gwaradwydd. 14Y mae ganddynt lygaid sy'n llawn godineb, na chânt byth mo'u digon o bechod. Y maent yn denu'r ansicr i'w dinistr. Y mae ganddynt galonnau wedi eu hymarfer i drachwant—rhai dan felltith ydynt. 15Gadawsant y ffordd union a mynd ar gyfeiliorn, gan ddilyn ffordd Balaam fab Bosor, hwnnw a roes ei fryd ar wobr drygioni, 16ond na chafodd ddim ond cerydd am ei drosedd, pan lefarodd asyn mud â llais dynol ac atal gwallgofrwydd y proffwyd.
17Ffynhonnau heb ddŵr ydynt, a niwloedd yn cael eu gyrru gan dymestl; y mae'r tywyllwch dudew ar gadw iddynt. 18Oherwydd y maent yn llefaru geiriau ymffrostgar a gwag, ac yn defnyddio chwantau anllad y cnawd i ddenu i'w dinistr y rhai nad ydynt ond braidd wedi dianc o blith rhai yn byw'n gyfeiliornus. 19Y maent yn addo rhyddid iddynt, a hwythau'n gaeth i lygredigaeth; oherwydd y mae rhywun yn gaeth i beth bynnag sydd wedi ei drechu. 20Oherwydd os yw rhai sydd wedi dianc rhag aflendid y byd trwy ddod i adnabod ein Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist, wedi eu dal a'u trechu eilwaith gan yr aflendid hwnnw, yna y mae eu diwedd yn waeth na'u dechrau. 21Byddai'n well iddynt hwy fod heb ddod i adnabod ffordd cyfiawnder, yn hytrach na'i hadnabod ac yna droi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt. 22Gwireddwyd, yn eu hachos hwy, y ddihareb:
“Y mae ci yn troi'n ôl at ei gyfog ei hun”,
a hefyd:
“Y mae'r hwch a ymolchodd yn ymdrybaeddu yn y llaid.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004