No themes applied yet
Joab yn Ceryddu Dafydd
1Hysbyswyd Joab fod y brenin yn wylo ac yn galaru am Absalom. 2Trodd buddugoliaeth y dydd yn alar i'r holl fyddin wedi iddynt glywed y diwrnod hwnnw fod y brenin yn gofidio am ei fab. 3Sleifiodd y fyddin i mewn i'r ddinas y diwrnod hwnnw, fel y bydd byddin sydd wedi ei chywilyddio ar ôl ffoi mewn brwydr. 4Yr oedd y brenin yn cuddio'i wyneb ac yn gweiddi'n uchel, “Fy mab Absalom, Absalom fy mab, fy mab!” 5Yna aeth Joab i'r ystafell at y brenin a dweud, “Yr wyt ti heddiw yn gwaradwyddo dy ddilynwyr i gyd, sef y rhai sydd wedi achub dy fywyd di heddiw, a bywydau dy feibion a'th ferched, a bywydau dy wragedd a'th ordderchwragedd. 6Trwy ddangos cariad tuag at dy gaseion a chas at dy garedigion, yr wyt ti'n cyhoeddi heddiw nad yw dy swyddogion na'th filwyr yn ddim gennyt. Yn wir fe welaf yn awr y byddit wrth dy fodd heddiw pe byddai Absalom wedi byw a ninnau i gyd wedi marw. 7Felly cod, dos allan a dywed air o galondid wrth dy ddilynwyr, neu, onid ei di allan atynt, tyngaf i'r ARGLWYDD, erbyn heno ni fydd gennyt yr un dyn ar ôl; a byddi mewn gwaeth trybini na dim sydd wedi digwydd iti o'th febyd hyd yn awr.” 8Ar hynny cododd y brenin ac eistedd yn y porth; anfonwyd neges at yr holl fyddin fod y brenin yn eistedd yn y porth, a daeth y fyddin gyfan ynghyd gerbron y brenin.
Dafydd yn Troi'n ôl am Jerwsalem
Yr oedd yr Israeliaid i gyd wedi ffoi i'w cartrefi. 9Yna dechreuodd pawb trwy holl lwythau Israel ddadlau a dweud, “Achubodd y brenin ni o afael ein gelynion, ac yn arbennig fe'n gwaredodd ni rhag y Philistiaid. Yn awr y mae wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom. 10Ond y mae Absalom, a eneiniwyd gennym yn frenin, wedi marw yn y rhyfel; pam felly yr ydych yn oedi dod â'r brenin adref?” 11Daeth dadleuon yr Israeliaid i gyd i glustiau'r brenin yn ei dŷ19:11 Hebraeg, Daeth… yn ei dŷ ar ddiwedd yr adnod., ac anfonodd at Sadoc ac Abiathar, yr offeiriaid, iddynt ddweud wrth henuriaid Jwda, “Pam yr ydych chwi'n oedi dod â'r brenin adref? 12Chwi yw fy nhylwyth, fy asgwrn i a'm cnawd; pam yr ydych yn oedi dod â'r brenin adref? 13Dywedwch wrth Amasa, ‘Onid fy asgwrn i a'm cnawd wyt tithau? Fel hyn y gwnelo Duw imi, a rhagor os nad ti o hyn ymlaen fydd capten y llu drosof yn lle Joab.’ ” 14Enillodd galon holl wŷr Jwda'n unfryd, ac anfonasant neges at y brenin, “Tyrd yn ôl, ti a'th holl ddilynwyr.”
15Daeth y brenin yn ôl, a phan gyrhaeddodd yr Iorddonen, yr oedd y Jwdeaid wedi cyrraedd Gilgal ar eu ffordd i gyfarfod y brenin a'i hebrwng dros yr Iorddonen. 16Brysiodd Simei, mab Gera y Benjaminiad o Bahurim, i fynd i lawr gyda gwŷr Jwda i gyfarfod y Brenin Dafydd. 17Daeth mil o ddynion o Benjamin gydag ef. A rhuthrodd Siba gwas teulu Saul, gyda'i bymtheg mab ac ugain gwas, i lawr at yr Iorddonen o flaen y brenin, 18a chroesi'r rhyd i gario teulu'r brenin drosodd, er mwyn ennill ffafr yn ei olwg. Wedi i'r brenin groesi, syrthiodd Simei fab Gera o'i flaen 19a dweud wrtho, “O f'arglwydd, paid â'm hystyried yn euog, a phaid â chofio ymddygiad gwarthus dy was y diwrnod y gadawodd f'arglwydd frenin Jerwsalem, na'i gadw mewn cof. 20Oherwydd y mae dy was yn sylweddoli iddo bechu, ac am hynny dyma fi wedi dod yma heddiw, yn gyntaf o holl dŷ Joseff i ddod i lawr i gyfarfod f'arglwydd frenin.” 21Ymateb Abisai fab Serfia oedd, “Oni ddylid rhoi Simei i farwolaeth am felltithio eneiniog yr ARGLWYDD?” 22Ond dywedodd Dafydd, “Beth sydd a wneloch chwi â mi, O feibion Serfia, eich bod yn troi'n wrthwynebwyr imi heddiw? Ni chaiff neb yn Israel ei roi i farwolaeth heddiw, oherwydd oni wn i heddiw mai myfi sy'n frenin ar Israel?” 23Dywedodd y brenin wrth Simei, “Ni fyddi farw.” A thyngodd y brenin hynny wrtho.
Caredigrwydd Dafydd â Meffiboseth
24Hefyd fe ddaeth Meffiboseth, ŵyr Saul, i lawr i gyfarfod y brenin. Nid oedd wedi trin ei draed na'i farf, na golchi ei ddillad o'r diwrnod yr ymadawodd y brenin hyd y dydd y dychwelodd yn ddiogel. 25Pan gyrhaeddodd o19:25 Felly rhai llawysgrifau Groeg. Hebraeg, i. Jerwsalem i gyfarfod y brenin, gofynnodd y brenin iddo, “Pam nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth?” 26Atebodd yntau, “O f'arglwydd frenin, fy ngwas a'm twyllodd i; yr oeddwn i wedi bwriadu cyfrwyo asyn a marchogaeth arno yng nghwmni'r brenin, am fy mod yn gloff. 27Y mae fy ngwas wedi f'enllibio i wrth f'arglwydd frenin, ond y mae f'arglwydd frenin fel angel Duw; gwna fel y gweli'n dda. 28I'm harglwydd frenin nid oedd y cyfan o dylwyth fy nhad ond meirwon, ac eto gosodaist ti dy was ymhlith y rhai oedd yn cael bwyta wrth dy fwrdd; pa hawl bellach sydd gennyf i apelio eto at y brenin?” 29Dywedodd y brenin wrtho, “Pam y dywedi ragor? Penderfynais dy fod ti a Siba i rannu'r ystad.” 30Dywedodd Meffiboseth wrth y brenin, “Cymered ef y cwbl, gan fod f'arglwydd frenin wedi cyrraedd adref yn ddiogel.”
31Daeth Barsilai y Gileadiad i lawr o Rogelim a mynd cyn belled â'r Iorddonen i hebrwng y brenin. 32Yr oedd Barsilai yn hen iawn, yn bedwar ugain oed, ac ef oedd wedi cynnal y brenin tra oedd yn aros19:32 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, dychwelodd. ym Mahanaim, oherwydd yr oedd yn ŵr cefnog iawn. 33Dywedodd y brenin wrth Barsilai, “Tyrd drosodd gyda mi, a chynhaliaf di tra byddi gyda mi yn Jerwsalem.” 34Ond meddai Barsilai wrth y brenin, “Pa faint rhagor sydd gennyf i fyw, fel y down i fyny i Jerwsalem gyda'r brenin? 35Yr wyf yn bedwar ugain oed erbyn hyn; ni allaf ddweud y gwahaniaeth rhwng da a drwg; nid wyf yn medru blasu'r hyn yr wyf yn ei fwyta na'i yfed, na chlywed erbyn hyn leisiau cantorion a chantoresau. Pam y byddwn yn faich pellach ar f'arglwydd frenin? 36Yn fuan iawn bydd dy was wedi hebrwng y brenin at yr Iorddonen; pam y dylai'r brenin roi'r fath dâl imi? 37Gad i'th was ddychwelyd, fel y caf farw yn fy ninas fy hun, gerllaw bedd fy nhad a'm mam. Ond dyma dy was Cimham, gad iddo ef groesi gyda'm harglwydd frenin, a gwna iddo ef fel y gweli'n dda.” 38Dywedodd y brenin, “Fe gaiff Cimham fynd drosodd gyda mi, a gwnaf iddo fel y gweli di'n dda; a gwnaf i tithau beth bynnag a ddeisyfi gennyf.” 39Croesodd yr holl bobl dros yr Iorddonen, tra oedd y brenin yn aros19:39 Felly Groeg. Hebraeg, yn croesi.; yna cusanodd y brenin Barsilai, a'i fendithio, ac aeth yntau adref. 40Pan groesodd y brenin i Gilgal, aeth Cimham drosodd gydag ef; yr oedd holl filwyr Jwda a hanner milwyr Israel yn ei hebrwng drosodd.
Jwda ac Israel yn Cweryla dros y Brenin
41Yna daeth yr holl Israeliaid a dweud wrth y brenin, “Pam y mae'n brodyr, pobl Jwda, wedi dwyn y brenin, a dod ag ef a'i deulu dros yr Iorddonen, a holl filwyr Dafydd gydag ef?” 42Dywedodd holl wŷr Jwda wrth yr Israeliaid, “Y mae'r brenin yn perthyn yn nes i ni. Pam yr ydych mor ddig am hyn? A ydym ni wedi bwyta o gwbl ar ei draul, neu wedi derbyn unrhyw fantais ganddo?” 43Ateb gwŷr Israel i wŷr Jwda ar hyn oedd: “Y mae gennym ni ddengwaith mwy o hawl ar y brenin na chwi, ac yr ydym ni yn hŷn na chwi19:43 Felly Fersiynau. Hebraeg, ac yn Nafydd yr ydym yn hytrach na chwi. hefyd. Pam yr ydych yn ein bychanu ni? Onid ni oedd y cyntaf i sôn am ddod â'n brenin yn ôl?” Ond dadleuodd gwŷr Jwda yn ffyrnicach na gwŷr Israel.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004