No themes applied yet
Gweddïwch drosom Ni
1Bellach, gyfeillion, gweddïwch drosom ni, ar i air yr Arglwydd fynd rhagddo a chael ei ogoneddu, fel y cafodd yn eich plith chwi, 2ac ar i ni gael ein gwaredu oddi wrth bobl groes a drwg; oherwydd nid yw pawb yn meddu ar ffydd. 3Ond y mae'r Arglwydd yn ffyddlon, ac fe'ch cadarnha chwi a'ch gwarchod rhag yr Un drwg. 4Y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneud y pethau yr ydym yn eu gorchymyn, ac y byddwch yn dal i'w gwneud. 5Bydded i'r Arglwydd gyfeirio eich calonnau at gariad Duw ac at amynedd Crist!
Rhybudd rhag Segura
6Yr ydym yn gorchymyn i chwi, gyfeillion, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, gadw draw oddi wrth bob crediniwr sy'n segura yn lle byw yn ôl y traddodiad a dderbyniodd gennym ni. 7Gwyddoch yn iawn fel y dylech ein hefelychu ni, oherwydd nid segura y buom ni yn eich plith, 8na bwyta bara neb am ddim, ond yn hytrach gweithio nos a dydd mewn llafur a lludded, rhag bod yn faich ar neb ohonoch. 9Nid nad oes gennym hawl arnoch, ond gwnaethom hyn er mwyn ein rhoi ein hunain yn esiampl i chwi i'w hefelychu. 10Ac yn wir, pan oeddem yn eich plith, rhoesom y gorchymyn hwn i chwi: os oes rhywun sy'n anfodlon gweithio, peidied â bwyta chwaith. 11Oherwydd yr ydym yn clywed bod rhai yn eich mysg yn segura, yn busnesa ym mhobman heb weithio yn unman. 12I'r cyfryw yr ydym yn gorchymyn, ac yn apelio yn yr Arglwydd Iesu Grist, iddynt weithio'n dawel ac ennill eu bywoliaeth eu hunain. 13A pheidiwch chwithau, gyfeillion, â blino ar wneud daioni. 14Os bydd rhywrai'n gwrthod ufuddhau i'n gair ni yn y llythyr hwn, cadwch eich llygad arnynt, a pheidiwch â chymdeithasu â hwy, er mwyn codi cywilydd arnynt. 15Eto peidiwch â'u hystyried fel gelynion, ond rhybuddiwch hwy fel cyfeillion.
Y Fendith
16Bydded i Arglwydd tangnefedd ei hun roi tangnefedd ichwi bob amser ym mhob modd! Bydded yr Arglwydd gyda chwi oll!
17Y mae'r cyfarchiad yn fy llaw i, Paul. Hwn yw'r arwydd ym mhob llythyr; fel hyn y byddaf yn ysgrifennu. 18Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll!
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004