No themes applied yet
Rhoi Comisiwn i Barnabas a Saul
1Yr oedd yn yr eglwys oedd yn Antiochia broffwydi ac athrawon—Barnabas a Simeon, a elwid Niger, a Lwcius o Cyrene, a Manaen, un o wŷr llys y Tywysog Herod, a Saul. 2Tra oeddent hwy'n offrymu addoliad i'r Arglwydd ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, “Neilltuwch yn awr i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith yr wyf wedi eu galw iddo.” 3Yna, wedi ymprydio a gweddïo a rhoi eu dwylo arnynt, gollyngasant hwy.
Yr Apostolion yn Pregethu yn Cyprus
4Felly, wedi eu hanfon allan gan yr Ysbryd Glân, daeth y rhain i lawr i Selewcia, a hwylio oddi yno i Cyprus. 5Wedi cyrraedd Salamis, cyhoeddasant air Duw yn synagogau'r Iddewon. Yr oedd ganddynt Ioan hefyd yn gynorthwywr. 6Aethant drwy'r holl ynys hyd Paffos, a chael yno ryw ddewin, gau broffwyd o Iddew, o'r enw Bar-Iesu; 7yr oedd hwn gyda'r rhaglaw, Sergius Pawlus, gŵr deallus. Galwodd hwnnw Barnabas a Saul ato, a cheisio cael clywed gair Duw. 8Ond yr oedd Elymas y dewin (felly y cyfieithir ei enw) yn eu gwrthwynebu, ac yn ceisio gwyrdroi'r rhaglaw oddi wrth y ffydd. 9Ond dyma Saul (a elwir hefyd yn Paul), wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, yn syllu arno 10ac yn dweud, “Ti, sy'n llawn o bob twyll a phob dichell, fab diafol, gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di â gwyrdroi union ffyrdd yr Arglwydd? 11Yn awr dyma law'r Arglwydd arnat, ac fe fyddi'n ddall, heb weld yr haul, am beth amser.” Ac ar unwaith syrthiodd arno niwl a thywyllwch, a dyna lle'r oedd yn ymbalfalu am rywun i estyn llaw iddo. 12Yna pan welodd y rhaglaw beth oedd wedi digwydd, daeth i gredu, wedi ei synnu'n fawr gan y ddysgeidiaeth am yr Arglwydd.
Paul a Barnabas yn Antiochia Pisidia
13Wedi hwylio o Paffos, daeth Paul a'i gymdeithion i Perga yn Pamffylia. Ond cefnodd Ioan arnynt, a dychwelyd i Jerwsalem. 14Aethant hwythau yn eu blaenau o Perga a chyrraedd Antiochia Pisidia, ac aethant i'r synagog ar y dydd Saboth, ac eistedd yno. 15Ar ôl y darllen o'r Gyfraith a'r proffwydi, anfonodd arweinwyr y synagog atynt a gofyn, “Frodyr, os oes gennych air o anogaeth i'r bobl, traethwch.” 16Cododd Paul, ac wedi amneidio â'i law dywedodd:
“Chwi Israeliaid, a chwi eraill sy'n ofni Duw, gwrandewch. 17Duw'r bobl hyn, Israel, a ddewisodd ein tadau ni, ac a ddyrchafodd y bobl pan oeddent yn estroniaid yng ngwlad yr Aifft, ac â braich estynedig fe ddaeth â hwy allan oddi yno. 18Am ryw ddeugain mlynedd bu'n cydymddwyn â hwy13:18 Yn ôl darlleniad arall, bu'n eu meithrin. yn yr anialwch. 19Yna dinistriodd saith genedl yng ngwlad Canaan, a rhoi eu tir hwy yn etifeddiaeth iddynt 20am ryw bedwar can mlynedd a hanner. Ac wedi hynny rhoddodd iddynt farnwyr hyd at y proffwyd Samuel. 21Ar ôl hyn gofynasant am gael brenin, a rhoddodd Duw iddynt Saul fab Cis, gŵr o lwyth Benjamin, am ddeugain mlynedd. 22Yna fe'i diorseddodd ef, a chodi Dafydd yn frenin iddynt, a thystiolaethu iddo gan ddweud, ‘Cefais Ddafydd fab Jesse yn ŵr wrth fodd fy nghalon, un a wna bob peth yr wyf yn ei ewyllysio.’ 23O blith disgynyddion hwn y daeth Duw, yn ôl ei addewid, â Gwaredwr i Israel, sef Iesu. 24Yr oedd Ioan eisoes, cyn iddo ef ddod, wedi cyhoeddi bedydd edifeirwch i holl bobl Israel. 25Ac wrth ei fod yn cwblhau ei yrfa, dywedodd Ioan, ‘Beth yr ydych chwi'n tybio fy mod? Nid hynny wyf fi. Na, dyma un yn dod ar f'ôl i nad wyf fi'n deilwng i ddatod y sandalau am ei draed.’
26“Frodyr, disgynyddion Abraham a'r rhai yn eich plith sy'n ofni Duw, i ni yr anfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon. 27Oherwydd nid adnabu trigolion Jerwsalem a'u llywodraethwyr mo hwn; ni ddeallasant chwaith eiriau'r proffwydi a ddarllenir bob Saboth, ond eu cyflawni trwy ei gondemnio ef. 28Er na chawsant ddim rheswm dros ei roi i farwolaeth, ceisiasant gan Pilat ei ladd; 29ac wedi iddynt ddwyn i ben bopeth oedd wedi ei ysgrifennu amdano, tynasant ef i lawr oddi ar y pren a'i roi mewn bedd. 30Ond cyfododd Duw ef oddi wrth y meirw; 31ac fe ymddangosodd dros ddyddiau lawer i'r rhai oedd wedi dod i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem, ac y mae'r rhain yn awr yn dystion iddo i'r bobl. 32Yr ydym ninnau yn cyhoeddi i chwi newydd da am yr addewid a wnaed i'r hynafiaid, fod Duw wedi ei llwyr gyflawni hi i ni eu plant13:32 Yn ôl darlleniad arall, i'n plant. trwy atgyfodi Iesu, 33fel y mae'n ysgrifenedig hefyd yn yr ail Salm:
“ ‘Fy mab wyt ti;
myfi a'th genhedlodd di heddiw.’
34“Ac am ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw, byth i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y mae wedi dweud fel hyn:
“ ‘Rhoddaf i chwi y pethau sanctaidd sy'n perthyn i Ddafydd, y pethau sicr.’
35“Oherwydd mewn lle arall eto y mae'n dweud:
“ ‘Ni adewi i'th Sanct weld llygredigaeth.’
36“Canys Dafydd, wedi iddo yn ei genhedlaeth ei hun wasanaethu ewyllys Duw, a fu farw, ac a roddwyd i orffwys gyda'i dadau, a gwelodd lygredigaeth; 37ond yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd hwnnw lygredigaeth. 38Felly bydded hysbys i chwi, frodyr, mai trwy hwn y cyhoeddir i chwi faddeuant pechodau, 39a thrwy hwn y rhyddheir pawb sy'n credu oddi wrth yr holl bethau nad oedd modd eich rhyddhau oddi wrthynt trwy Gyfraith Moses. 40Gwyliwch, ynteu, na ddaw arnoch yr hyn a ddywedwyd yn y proffwydi:
41“ ‘Gwelwch, chwi ddirmygwyr,
a rhyfeddwch, a diflannwch,
oherwydd yr wyf fi'n cyflawni gweithred yn eich dyddiau chwi,
gweithred na chredwch ynddi byth, er ei hadrodd yn llawn ichwi.’ ”
42Wrth iddynt fynd allan, yr oedd y bobl yn deisyf arnynt i lefaru'r pethau hyn wrthynt y Saboth wedyn. 43Wedi i'r gynulleidfa gael ei gollwng, aeth llawer o'r Iddewon, ac o'r proselytiaid oedd yn addolwyr Duw, ar ôl Paul a Barnabas, a buont hwythau yn llefaru wrthynt ac yn eu hannog i lynu wrth ras Duw.
44Y Saboth dilynol, daeth bron yr holl ddinas ynghyd i glywed gair yr Arglwydd. 45Pan welodd yr Iddewon y tyrfaoedd fe'u llanwyd â chenfigen, ac yr oeddent yn gwrth-ddweud y pethau yr oedd Paul yn eu llefaru, gan ei ddifenwi. 46Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy: “I chwi,” meddent, “yr oedd yn rhaid llefaru gair Duw yn gyntaf. Ond gan eich bod yn ei wrthod, ac yn eich dyfarnu eich hunain yn annheilwng o'r bywyd tragwyddol, dyma ni'n troi at y Cenhedloedd. 47Oblegid hyn yw gorchymyn yr Arglwydd i ni:
“ ‘Gosodais di yn oleuni'r Cenhedloedd,
iti fod yn gyfrwng iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.’ ”
48Wrth glywed hyn, yr oedd y Cenhedloedd yn llawenychu ac yn gogoneddu gair yr Arglwydd, a chredodd cynifer ag oedd wedi eu penodi i fywyd tragwyddol. 49Yr oedd gair yr Arglwydd yn ymdaenu drwy'r holl fro. 50Ond fe gyffrôdd yr Iddewon y gwragedd bonheddig oedd yn addolwyr Duw, a phrif wŷr y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a'u bwrw allan o'u hardal. 51Ysgydwasant hwythau'r llwch oddi ar eu traed yn eu herbyn, a daethant i Iconium. 52A llanwyd y disgyblion â llawenydd ac â'r Ysbryd Glân.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004