No themes applied yet
Paul yn Effesus
1Tra oedd Apolos yng Nghorinth, teithiodd Paul drwy'r parthau uchaf, a daeth i Effesus. Yno daeth o hyd i rai disgyblion, 2a gofynnodd iddynt, “A dderbyniasoch yr Ysbryd Glân pan gredasoch?” Meddent hwythau wrtho, “Naddo; ni chlywsom hyd yn oed fod yna Ysbryd Glân.” 3Dywedodd yntau, “Â pha fedydd, ynteu, y bedyddiwyd chwi?” Atebasant hwythau, “Â bedydd Ioan.” 4Ac meddai Paul, “Bedydd edifeirwch oedd bedydd Ioan, ac fe ddywedodd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dod ar ei ôl ef, hynny yw, yn Iesu.” 5Pan glywsant hyn, fe'u bedyddiwyd hwy i enw'r Arglwydd Iesu, 6a phan roddodd Paul ei ddwylo arnynt daeth yr Ysbryd Glân arnynt, a dechreusant lefaru â thafodau a phroffwydo. 7Yr oedd tua deuddeg ohonynt i gyd.
8Aeth i mewn i'r synagog, ac am dri mis bu'n llefaru'n hy yno, gan ymresymu a cheisio'u hargyhoeddi ynghylch teyrnas Dduw. 9Ond gan fod rhai yn ymgaledu ac yn gwrthod credu, ac yn difenwi'r Ffordd yng ngŵydd y gynulleidfa, ymneilltuodd oddi wrthynt gan gymryd ei ddisgyblion oddi yno, a pharhau i ymresymu bob dydd yn narlithfa Tyranus. 10Parhaodd hyn am ddwy flynedd, nes i holl drigolion Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd.
Meibion Scefa
11Gan mor rhyfeddol oedd y gwyrthiau yr oedd Duw'n eu gwneud trwy ddwylo Paul, 12byddai pobl yn dod â chadachau a llieiniau oedd wedi cyffwrdd â'i groen ef, ac yn eu gosod ar y cleifion, a byddai eu clefydau yn eu gadael, a'r ysbrydion drwg yn mynd allan ohonynt. 13A dyma rai o'r Iddewon a fyddai'n mynd o amgylch gan fwrw allan gythreuliaid, hwythau'n ceisio enwi enw'r Arglwydd Iesu uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ganddynt, gan ddweud, “Yr wyf yn eich siarsio chwi yn enw Iesu, yr un y mae Paul yn ei bregethu.” 14Ac yr oedd gan ryw Scefa, prif offeiriad Iddewig, saith mab oedd yn gwneud hyn. 15Ond atebodd yr ysbryd drwg hwy, “Iesu, yr wyf yn ei adnabod ef; a Paul, gwn amdano yntau; ond chwi, pwy ydych?” 16Dyma'r dyn ac ynddo'r ysbryd drwg yn llamu arnynt, ac yn eu trechu i gyd, a'u maeddu nes iddynt ffoi o'r tŷ yn noeth a chlwyfedig. 17Daeth hyn yn hysbys i'r holl Iddewon a Groegiaid oedd yn byw yn Effesus, a dychrynodd pawb; a chafodd enw'r Arglwydd Iesu ei fawrygu. 18Daeth llawer o'r rhai oedd bellach yn gredinwyr, a chyffesu eu dewiniaeth ar goedd. 19Casglodd llawer o'r rhai a fu'n ymarfer â swynion eu llyfrau ynghyd, a'u llosgi yng ngŵydd pawb; cyfrifwyd gwerth y rhain, a'i gael yn hanner can mil o ddarnau arian. 20Felly, yn ôl nerth yr Arglwydd, yr oedd y gair19:20 Neu, Felly, mor gadarn yr oedd gair yr Arglwydd. yn cynyddu ac yn llwyddo.
Y Cynnwrf yn Effesus
21Wedi i'r pethau hyn gael eu cwblhau, rhoddodd Paul ei fryd ar19:21 Neu, penderfynodd Paul dan arweiniad yr Ysbryd. deithio trwy Facedonia ac Achaia, ac yna mynd i Jerwsalem. “Wedi imi fod yno,” meddai, “rhaid imi weld Rhufain hefyd.” 22Anfonodd i Facedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini arno, Timotheus ac Erastus, ond arhosodd ef ei hun am amser yn Asia.
23Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu cynnwrf nid bychan ynglŷn â'r Ffordd. 24Yr oedd gof arian o'r enw Demetrius, un oedd yn gwneud cysegrau arian i Artemis19:24 Neu, Diana. Felly hefyd yn adn. 27, 28, 34 a 35., ac felly'n cael llawer o waith i'w grefftwyr. 25Casglodd y rhain ynghyd, gyda'r gweithwyr o grefftau cyffelyb, a dywedodd: “Ddynion, fe wyddoch mai o'r fasnach hon y daw ein ffyniant ni. 26Yr ydych hefyd yn gweld ac yn clywed fod y Paul yma wedi perswadio tyrfa fawr, nid yn Effesus yn unig ond drwy Asia gyfan bron, a'u camarwain drwy ddweud nad duwiau mo'r duwiau o waith llaw. 27Yn awr, y mae perygl nid yn unig y daw anfri ar ein crefft, ond hefyd y cyfrifir teml y dduwies fawr Artemis yn ddiddim, a hyd yn oed y bydd hi, y dduwies y mae Asia gyfan a'r byd yn ei haddoli, yn cael ei hamddifadu o'i mawrhydi.”
28Pan glywsant hyn, llanwyd hwy â dicter, a dechreusant weiddi, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.” 29Llanwyd y ddinas â'u cynnwrf, a rhuthrasant yn unfryd i'r theatr, gan lusgo gyda hwy gyd-deithwyr Paul, y Macedoniaid Gaius ac Aristarchus. 30Yr oedd Paul yn dymuno cael mynd gerbron y dinasyddion, ond ni adawai'r disgyblion iddo; 31a hefyd anfonodd rhai o uchel-swyddogion Asia, a oedd yn gyfeillgar ag ef, neges ato i erfyn arno i beidio â mentro i'r theatr. 32Yn y cyfamser, yr oedd rhai yn gweiddi un peth ac eraill beth arall, oherwydd yr oedd y cyfarfod mewn cynnwrf, ac ni wyddai'r rhan fwyaf i beth yr oeddent wedi dod ynghyd. 33Ond tybiodd rhai o'r dyrfa mai Alexander oedd yr achos,19:33 Neu, Ond eglurodd rhai o'r dyrfa y mater i Alexander. gan i'r Iddewon ei wthio ef i'r blaen. Gwnaeth yntau arwydd â'i law, gan ddymuno ei amddiffyn ei hun gerbron y dinasyddion. 34Ond pan ddeallwyd mai Iddew ydoedd, cododd un llef oddi wrthynt oll, a buont yn gweiddi am tua dwy awr, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.” 35Ond tawelodd clerc y ddinas y dyrfa, a dweud, “Bobl Effesus, pwy sydd heb wybod fod dinas yr Effesiaid yn geidwad teml Artemis fawr, a'r maen a syrthiodd o'r nef? 36Felly, gan na all neb wadu hyn, rhaid i chwithau fod yn dawel a pheidio â gwneud dim yn fyrbwyll. 37Yr ydych wedi dod â'r dynion hyn gerbron, er nad ydynt yn ysbeilwyr temlau nac yn cablu ein duwies ni. 38Gan hynny, os oes gan Demetrius a'i gyd-grefftwyr achos yn erbyn rhywun, y mae'r llysoedd barn yn cael eu cynnal ac y mae rhaglawiaid yno; gadewch i'r ddwy ochr gyhuddo ei gilydd yn ffurfiol. 39Ond os ydych am fynd â'r peth ymhellach, mewn cyfarfod rheolaidd o'r dinasyddion y mae i gael ei benderfynu. 40Yn wir, y mae perygl y cyhuddir ninnau o derfysg ynglŷn â'r cyfarfod heddiw, gan nad oes dim achos amdano, ac am hynny ni allwn roi cyfrif am y cynnwrf yma.” 41Ac â'r geiriau hyn daeth â'r cyfarfod i ben.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004