No themes applied yet
Dyfodiad yr Ysbryd Glân
1Ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle, 2ac yn sydyn fe ddaeth o'r nef sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle'r oeddent yn eistedd. 3Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt; 4a llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân, a dechreusant lefaru â thafodau dieithr, fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoi lleferydd iddynt.
5Yr oedd yn preswylio yn Jerwsalem Iddewon, pobl dduwiol o bob cenedl dan y nef; 6ac wrth glywed y sŵn hwn fe ymgasglodd tyrfa ohonynt, ac yr oeddent wedi drysu'n lân am fod pob un ohonynt yn eu clywed hwy yn siarad yn ei iaith ei hun. 7Yr oeddent yn synnu ac yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Onid Galileaid yw'r rhain oll sy'n llefaru? 8A sut yr ydym ni yn eu clywed bob un ohonom yn ei iaith ei hun, iaith ei fam? 9Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, 10Phrygia a Pamffylia, yr Aifft a pharthau Libya tua Cyrene, a'r ymwelwyr o Rufain, yn Iddewon a phroselytiaid, 11Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed hwy yn llefaru yn ein hieithoedd ni am fawrion weithredoedd Duw.” 12Yr oedd pawb yn synnu mewn penbleth, gan ddweud y naill wrth y llall, “Beth yw ystyr hyn?” 13Ond yr oedd eraill yn dweud yn wawdlyd, “Wedi meddwi y maent.”
Araith Pedr ar y Pentecost
14Safodd Pedr ynghyd â'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: “Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau. 15Nid yw'r rhain wedi meddwi, fel yr ydych chwi'n tybio, oherwydd dim ond naw o'r gloch y bore yw hi. 16Eithr dyma'r hyn a ddywedwyd drwy'r proffwyd Joel:
17“ ‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw:
tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb;
a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo;
bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau,
a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion;
18hyd yn oed ar fy nghaethweision a'm caethforynion,
yn y dyddiau hynny, fe dywalltaf o'm Hysbryd,
ac fe broffwydant.
19A rhof ryfeddodau yn y nef uchod
ac arwyddion ar y ddaear isod,
gwaed a thân a tharth mwg;
20troir yr haul yn dywyllwch,
a'r lleuad yn waed,
cyn i ddydd mawr a disglair yr Arglwydd ddod;
21a bydd pob un sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael ei achub.’
22“Bobl Israel, clywch hyn: sôn yr wyf am Iesu o Nasareth, gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain. 23Yr oedd hwn wedi ei draddodi trwy fwriad penodedig a rhagwybodaeth Duw, ac fe groeshoeliasoch chwi ef drwy law estroniaid, a'i ladd. 24Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael. 25Oherwydd y mae Dafydd yn dweud amdano:
“ ‘Yr oeddwn yn gweld yr Arglwydd o'm blaen yn wastad,
canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgydwer.
26Am hynny llawenychodd fy nghalon a gorfoleddodd fy nhafod,
ie, a bydd fy nghnawd hefyd yn preswylio mewn gobaith;
27oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid yn Hades,
nac yn gadael i'th Sanct weld llygredigaeth.
28Hysbysaist imi ffyrdd bywyd;
byddi'n fy llenwi â llawenydd yn dy bresenoldeb.’
29“Gyfeillion, gallaf siarad yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, iddo farw a chael ei gladdu, ac y mae ei fedd gyda ni hyd y dydd hwn. 30Felly, ac yntau'n broffwyd ac yn gwybod i Dduw dyngu iddo ar lw y gosodai un o'i linach ar ei orsedd, 31rhagweld atgyfodiad y Meseia yr oedd pan ddywedodd:2:31 Neu, rhagweld yr oedd atgyfodiad y Meseia wrth lefaru, oherwydd.
“ ‘Ni adawyd ef yn Hades,
ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.’
32“Yr Iesu hwn a gyfododd Duw, rhywbeth yr ydym ni oll yn dystion ohono. 33Felly, wedi iddo gael ei ddyrchafu i2:33 Neu, trwy. ddeheulaw Duw, a derbyn gan y Tad ei addewid am yr Ysbryd Glân, fe dywalltodd y peth hwn yr ydych chwi yn ei weld a'i glywed. 34Canys nid Dafydd a esgynnodd i'r nefoedd; y mae ef ei hun yn dweud:
“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,
“Eistedd ar fy neheulaw,
35nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’
36“Felly gwybydded holl dŷ Israel yn sicr fod Duw wedi gwneud yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.”
37Pan glywsant hyn, fe'u dwysbigwyd yn eu calon, a dywedasant wrth Pedr a'r apostolion eraill, “Beth a wnawn ni, gyfeillion?” 38Meddai Pedr wrthynt, “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd. 39Oherwydd i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb sydd ymhell, pob un y bydd yr Arglwydd ein Duw ni yn ei alw ato.” 40Ac â llawer o eiriau eraill y tystiolaethodd ger eu bron, a'u hannog, “Dihangwch rhag y genhedlaeth wyrgam hon.” 41Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd atynt y diwrnod hwnnw tua thair mil o bersonau. 42Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau.
Bywyd y Credinwyr
43Daeth ofn ar bob enaid; yr oedd rhyfeddodau ac arwyddion lawer yn cael eu gwneud drwy'r apostolion. 44Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin. 45Byddent yn gwerthu eu heiddo a'u meddiannau, ac yn eu rhannu rhwng pawb, yn ôl fel y byddai angen pob un. 46A chan ddyfalbarhau beunydd yn unfryd yn y deml, a thorri bara yn eu tai, yr oeddent yn cydfwyta mewn llawenydd a symledd calon, 47dan foli Duw a chael ewyllys da'r holl bobl. Ac yr oedd yr Arglwydd yn ychwanegu beunydd at y gynulleidfa y rhai oedd yn cael eu hachub.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004