No themes applied yet
Moab
1Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Am dri o droseddau Moab,
ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;
am iddo losgi'n galch esgyrn brenin Edom,
2anfonaf dân ar Moab,
ac fe ddifa geyrydd Cerioth.
Bydd farw Moab yng nghanol terfysg,
yng nghanol banllefau a sŵn utgorn.
3Torraf ymaith y pennaeth o'i chanol,
a lladdaf ei holl swyddogion gydag ef,” medd yr ARGLWYDD.
Jwda
4Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Am dri o droseddau Jwda,
ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;
am iddynt wrthod cyfraith yr ARGLWYDD,
a pheidio â chadw ei ddeddfau,
a'u denu ar gyfeiliorn gan y celwyddau
a ddilynwyd gan eu hynafiaid,
5anfonaf dân ar Jwda,
ac fe ddifa geyrydd Jerwsalem.”
Barn Duw ar Israel
6Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Am dri o droseddau Israel,
ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;
am iddynt werthu'r cyfiawn am arian
a'r anghenog am bâr o sandalau;
7am eu bod yn sathru pen y tlawd i'r llwch
ac yn ystumio ffordd y gorthrymedig;
am fod dyn a'i dad yn mynd at yr un llances,
fel bod halogi ar fy enw sanctaidd;
8am eu bod yn gorwedd ar ddillad gwystl
yn ymyl pob allor;
am eu bod yn yfed gwin y ddirwy
yn nhŷ eu Duw.
9“Eto, myfi a ddinistriodd yr Amoriad o'u blaenau,
a'i uchder fel uchder cedrwydd
a'i gryfder fel y derw;
dinistriais ei ffrwyth oddi arno
a'i wreiddiau oddi tano.
10Myfi hefyd a'ch dygodd o'r Aifft,
a'ch arwain am ddeugain mlynedd yn yr anialwch,
i feddiannu gwlad yr Amoriad.
11Codais rai o'ch meibion yn broffwydi,
a rhai o'ch llanciau yn Nasareaid.
Onid fel hyn y bu, bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD.
12“Ond gwnaethoch i'r Nasareaid yfed gwin,
a rhoesoch orchymyn i'r proffwydi, ‘Peidiwch â phroffwydo.’
13“Wele, yr wyf am eich gwasgu i lawr,
fel y mae trol lawn ysgubau yn gwasgu.
14Derfydd am ddihangfa i'r cyflym,
ac ni ddeil y cryf yn ei gryfder,
ac ni all y rhyfelwr ei waredu ei hun;
15ni saif y saethwr bwa;
ni all y cyflym ei droed ei achub ei hun,
na'r marchog ei waredu ei hun;
16bydd y dewraf ei galon o'r rhyfelwyr
yn ffoi yn noeth yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004