No themes applied yet
Barn yr ARGLWYDD
1Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw'r allor, ac yn dweud,
“Taro gapan y drws nes i'r rhiniogau ysgwyd,
a maluria hwy ar eu pennau i gyd;
y rhai a adewir, fe'u lladdaf â'r cleddyf;
ni ffy yr un ohonynt ymaith,
ni ddianc yr un ohonynt.
2Pe baent yn cloddio hyd at Sheol,
fe dynnai fy llaw hwy oddi yno;
pe baent yn dringo i'r nefoedd,
fe'u dygwn i lawr oddi yno.
3Pe baent yn ymguddio ar ben Carmel,
fe chwiliwn amdanynt, a'u cymryd oddi yno;
pe baent yn cuddio o'm golwg yng ngwaelod y môr,
byddwn yn gorchymyn i'r ddraig eu brathu yno.
4Pe bai eu gelynion yn eu dwyn ymaith i gaethglud,
fe rown orchymyn i'm cleddyf eu lladd yno;
cadwaf fy ngolwg arnynt,
er drwg ac nid er da.”
5Yr Arglwydd, DUW y Lluoedd—
ef sy'n cyffwrdd â'r ddaear, a hithau'n toddi,
a'i holl drigolion yn galaru;
bydd i gyd yn dygyfor fel y Neil,
ac yn gostwng fel afon yr Aifft;
6ef sy'n codi ei breswylfeydd yn y nefoedd
ac yn sylfaenu ei gromen ar y ddaear;
ef sy'n galw ar ddyfroedd y môr
ac yn eu tywallt dros y tir;
yr ARGLWYDD yw ei enw.
7“Onid ydych chwi fel pobl Ethiopia i mi,
O bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD.
“Oni ddygais Israel i fyny o'r Aifft,
a'r Philistiaid o Cafftor
a'r Syriaid o Cir?
8Wele, y mae llygaid yr Arglwydd DDUW
ar y deyrnas bechadurus;
fe'i dinistriaf oddi ar wyneb y ddaear;
eto ni ddinistriaf dŷ Jacob yn llwyr,” medd yr ARGLWYDD.
9“Wele, yr wyf yn gorchymyn,
ac ysgydwaf dŷ Israel ymhlith yr holl genhedloedd
fel ysgwyd gogr,
heb i'r un gronyn syrthio i'r ddaear.
10Lleddir holl bechaduriaid fy mhobl â'r cleddyf,
y rhai sy'n dweud, ‘Ni chyffwrdd dinistr â ni, na dod yn agos atom.’ ”
Adferiad Israel
11“Yn y dydd hwnnw, codaf furddun dadfeiliedig Dafydd;
trwsiaf ei fylchau a chodaf ei adfeilion,
a'i ailadeiladu fel yn y dyddiau gynt,
12fel y gallant goncro gweddill Edom
a'r holl genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,”
medd yr ARGLWYDD. Ef a wna hyn.
13“Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,
“pan fydd yr un sy'n aredig yn goddiweddyd y sawl sy'n medi,
a'r sawl sy'n sathru'r grawnwin yn goddiweddyd y sawl sy'n hau'r had;
bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd,
a phob bryn yn llifo ohono.
14Adferaf lwyddiant fy mhobl Israel,
ac adeiladant y dinasoedd adfeiliedig, a byw ynddynt;
plannant winllannoedd ac yfed eu gwin,
palant erddi a bwyta'u cynnyrch.
15Fe'u plannaf yn eu gwlad,
ac ni ddiwreiddir hwy byth eto
o'r tir a rois iddynt,”
medd yr ARGLWYDD dy Dduw.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004