No themes applied yet
Concro Og Brenin Basan
Num. 21:31–35
1Yna troesom a mynd i gyfeiriad Basan. Daeth Og brenin Basan gyda'i holl fyddin i ymladd yn ein herbyn yn Edrei. 2Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â'i ofni, oherwydd yr wyf yn ei roi ef a'i holl bobl a'i dir yn dy law. Gwna iddo fel y gwnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon.” 3Rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw Og brenin Basan a'i holl fyddin yn ein dwylo, a lladdasom hwy, heb adael un yn weddill. 4Yr adeg honno cymerasom ei ddinasoedd i gyd heb adael yr un ar ôl, sef trigain ohonynt, y cyfan o diriogaeth Argob, teyrnas Og yn Basan. 5Yr oedd y rhain i gyd yn ddinasoedd caerog, gyda muriau uchel a dorau a barrau; yr oedd hefyd lawer iawn o bentrefi heb furiau. 6Lladdasom bawb ym mhob dinas, yn ddynion, gwragedd a phlant, fel y gwnaethom i Sihon brenin Hesbon. 7Cymerasom y gwartheg i gyd yn ysbail i ni ein hunain, ac anrhaith y dinasoedd. 8Yr adeg honno cymerasom oddi ar ddau frenin yr Amoriaid y wlad y tu hwnt i'r Iorddonen, o nant Arnon hyd fynydd-dir Hermon. 9Enw'r Sidoniaid ar Hermon oedd Sirion, ond yr oedd yr Amoriaid yn ei alw'n Senir. 10Cymerasom holl ddinasoedd y gwastadedd, a'r cyfan o Gilead a Basan hyd at Salcha ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og yn Basan. 11Og brenin Basan oedd yr unig un ar ôl o weddill y Reffaim. Yr oedd ganddo wely haearn naw cufydd o hyd a phedwar cufydd o led, yn ôl y cufydd cyffredin; ac onid yw yn Rabba, dinas yr Ammoniaid?
Y Llwythau tu hwnt i'r Iorddonen
Num. 32:1–42
12O'r wlad a gymerasom yn feddiant yr adeg honno, rhoddais i Reuben a Gad y tir oedd yn ymestyn o Aroer ar hyd glan nant Arnon, a hanner mynydd-dir Gilead, gyda'i ddinasoedd. 13Rhoddais i hanner llwyth Manasse y gweddill o Gilead, a'r cyfan o deyrnas Og yn Basan, tiriogaeth Argob i gyd. Gwlad y Reffaim oedd yr enw ar y cyfan o Basan. 14Cymerodd Jair fab Manasse y cyfan o diriogaeth Argob hyd at derfyn y Gesuriaid a'r Maachathiaid, a hyd heddiw gelwir Basan yn Hafoth-jair ar ei ôl ef. 15Rhoddais Gilead i Machir; 16ac i Reuben a Gad rhoddais y tir sy'n ymestyn o Gilead hyd at nant Arnon, a chanol y nant yn derfyn iddo, a hyd at nant Jabboc, ar derfyn yr Ammoniaid, 17a hefyd yr Araba, a'r Iorddonen yn derfyn iddo, o Cinnereth hyd at fôr yr Araba, sef y Môr Marw, islaw llethrau Pisga i'r dwyrain.
18Yr adeg honno gorchmynnais i chwi, a dweud, “Y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi ichwi'r wlad hon i'w meddiannu; yr ydych chwi'r holl ddynion arfog a chryf i groesi o flaen eich pobl, yr Israeliaid. 19Ond y mae eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid—a gwn fod gennych lawer o anifeiliaid—i aros yn y trefi a roddais i chwi 20nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau, fel y rhoddodd i chwi; yna byddant hwythau yn meddiannu'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw iddynt y tu hwnt i'r Iorddonen. Yna caiff pob un ohonoch fynd yn ôl i'r diriogaeth a roddais i chwi.” 21Yr adeg honno hefyd gorchmynnais i Josua a dweud, “Yr wyt wedi gweld â'th lygaid dy hun yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i'r ddau frenin hyn; bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i'r holl deyrnasoedd yr wyt ti yn mynd i'w herbyn. 22Paid â'u hofni, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd trosoch.”
23Yr adeg honno ymbiliais â'r ARGLWYDD, a dweud, 24“O Arglwydd DDUW, yr wyt wedi dechrau dangos i'th was dy fawredd a'th law gref, oherwydd pa dduw yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n cyflawni gweithredoedd a gorchestion fel dy rai di? 25Gad imi groesi a gweld y wlad dda y tu hwnt i'r Iorddonen, y mynydd-dir da hwn, a Lebanon.” 26Ond yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyf o'ch achos chwi, ac ni wrandawodd arnaf. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dyna ddigon; paid â siarad wrthyf eto am hyn. 27Dos i ben Pisga, ac edrych i'r gorllewin, y gogledd, y de a'r dwyrain, a sylwa'n fanwl, oherwydd ni chei di groesi'r Iorddonen hon. 28Cyfarwydda Josua, a'i nerthu a'i gefnogi, oherwydd ef fydd yn croesi o flaen y bobl hyn, ac ef fydd yn eu harwain i feddiannu'r wlad yr wyt ti yn ei gweld.” 29Felly bu inni aros yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004