No themes applied yet
Cerdd Moses
1Gwrandewch, chwi nefoedd, a llefaraf;
clyw, di ddaear, eiriau fy ngenau.
2Bydd fy nysgeidiaeth yn disgyn fel glaw,
a'm hymadrodd yn diferu fel gwlith,
fel glaw mân ar borfa,
megis cawodydd ar laswellt.
3Pan gyhoeddaf enw yr ARGLWYDD,
cyffeswch fawredd ein Duw.
4Ef yw'r Graig; perffaith yw ei waith,
a chyfiawn yw ei ffyrdd bob un.
Duw ffyddlon heb dwyll yw;
un cyfiawn ac uniawn yw ef.
5Y genhedlaeth wyrgam a throfaus,
sy'n ymddwyn mor llygredig tuag ato,
nid ei blant ef ydynt o gwbl!
6Ai dyma eich tâl i'r ARGLWYDD,
O bobl ynfyd ac angall?
Onid ef yw dy dad, a'th luniodd,
yr un a'th wnaeth ac a'th sefydlodd?
7Cofia'r dyddiau gynt,
ystyria flynyddoedd y cenedlaethau a fu;
gofyn i'th dad, ac fe fynega ef iti;
neu i'th hynafgwyr, ac fe ddywedant hwy wrthyt.
8Pan roddodd y Goruchaf eu hetifeddiaeth i'r cenhedloedd,
a gwasgaru'r ddynoliaeth ar led,
fe bennodd derfynau'r bobloedd
yn ôl rhifedi plant Duw32:8 Felly'r Sgrôl. TM, plant Israel..
9Ei bobl ei hun oedd rhan yr ARGLWYDD,
Jacob oedd ei etifeddiaeth ef.
10Fe'i cafodd ef mewn gwlad anial,
mewn gwagle erchyll, diffaith;
amgylchodd ef a'i feithrin,
amddiffynnodd ef fel cannwyll ei lygad.
11Fel eryr yn cyffroi ei nyth
ac yn hofran uwch ei gywion,
lledai ei adenydd a'u cymryd ato,
a'u cludo ar ei esgyll.
12Yr ARGLWYDD ei hunan fu'n ei arwain,
heb un duw estron gydag ef.
13Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelderau'r ddaear,
a bwyta cnwd y maes;
parodd iddo sugno mêl o'r clogwyn,
ac olew o'r graig gallestr.
14Cafodd ymenyn o'r fuches,
llaeth y ddafad a braster ŵyn,
hyrddod o frid Basan, a bychod,
braster gronynnau gwenith hefyd,
a gwin o sudd grawnwin i'w yfed.
15Bwytaodd Jacob, a'i ddigoni32:15 Felly Fersiynau. Hebraeg heb y llinell.;
pesgodd Jesurun, a chiciodd;
pesgodd32:15 Felly Groeg. Hebraeg, pesgaist., a thewychu'n wancus.
Gwrthododd y Duw a'i creodd,
a diystyru Craig ei iachawdwriaeth.
16Gwnaethant ef yn eiddigeddus â duwiau dieithr,
a'i ddigio ag arferion ffiaidd.
17Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau,
ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod,
duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion,
nad oedd eu32:17 Felly Fersiynau. Hebraeg, eich. hynafiaid wedi eu parchu.
18Anghofiaist y Graig a'th genhedlodd,
a gollwng dros gof y Duw a ddaeth â thi i'r byd.
19Pan welodd yr ARGLWYDD hyn, fe'u ffieiddiodd hwy,
oherwydd i'w feibion a'i ferched ei gythruddo.
20Dywedodd, “Cuddiaf fy wyneb rhagddynt,
edrychaf beth fydd eu diwedd;
oherwydd cenhedlaeth wrthryfelgar ydynt,
plant heb ffyddlondeb ynddynt.
21Gwnaethant fi'n eiddigeddus wrth un nad yw'n dduw,
a'm digio â'u heilunod;
gwnaf finnau hwy'n eiddigeddus wrth bobl nad yw'n bobl,
a'u digio â chenedl ynfyd.
22“Yn ddiau, cyneuwyd tân gan fy nig,
ac fe lysg hyd waelod Sheol;
bydd yn ysu'r tir a'i gynnyrch,
ac yn ffaglu seiliau'r mynyddoedd.
23Pentyrraf ddrygau arnynt,
saethaf atynt bob saeth sydd gennyf:
24nychdod newyn, anrheithiau twymyn,
a dinistr chwerw.
Anfonaf ddannedd bwystfilod yn eu herbyn
a gwenwyn ymlusgiaid y llwch.
25Oddi allan bydd y cleddyf yn creu amddifaid,
ac yn y cartref bydd arswyd;
trewir y gwŷr ifainc a'r gwyryfon fel ei gilydd,
y baban sugno yn ogystal â'r hynafgwr.
26“Fy mwriad oedd eu gwasgaru,
a pheri i bob coffa amdanynt ddarfod,
27oni bai imi ofni y byddai'r gelyn yn eu gwawdio,
a'u gwrthwynebwyr yn camddeall
a dweud, ‘Ein llaw ni sydd wedi trechu;
nid yr ARGLWYDD a wnaeth hyn oll.’ ”
28Cenedl brin o gyngor ydynt,
heb ddealltwriaeth ganddynt;
29gresyn na fyddent yn ddigon doeth i sylweddoli hyn
ac i amgyffred beth fydd eu diwedd!
30Sut y gall un ymlid mil,
neu ddau yrru myrdd ar ffo,
oni bai fod eu Craig wedi eu gwerthu,
a'r ARGLWYDD wedi eu caethiwo?
31Oherwydd nid yw eu craig hwy yn debyg i'n Craig ni,
fel y mae ein gelynion yn cydnabod.
32Daw eu gwinwydd o Sodom
ac o feysydd Gomorra;
grawnwin gwenwynig sydd arnynt,
yn sypiau chwerw.
33Gwenwyn seirff yw eu gwin,
poeryn angheuol asbiaid.
34Onid yw hyn gennyf wrth gefn,
wedi ei selio yn fy stôr,
35mai i mi y perthyn dial a thalu'r pwyth,
pan fydd eu troed yn llithro?
Yn wir, y mae dydd eu trychineb yn agos,
a'u distryw yn brysio atynt.
36Rhydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl
a bydd yn trugarhau wrth ei weision,
pan wêl fod eu nerth wedi darfod,
ac nad oes ar ôl na chaeth na rhydd.
37Yna fe ddywed, “Ble mae eu duwiau,
y graig y buont yn ceisio lloches dani,
38y duwiau oedd yn bwyta braster eu hebyrth
ac yn yfed gwin eu diodoffrwm?
Bydded iddynt hwy godi a'ch helpu,
a bod yn lloches ichwi!
39Gwelwch yn awr mai myfi, myfi yw Ef,
ac nad oes Duw ond myfi.
Myfi sy'n lladd, a gwneud yn fyw,
myfi sy'n archolli, ac yn iacháu;
ni all neb achub o'm gafael i.
40“Codaf fy llaw tua'r nef, a dweud:
Cyn sicred â'm bod yn byw'n dragywydd,
41os hogaf fy nghleddyf disglair,
a chydio ynddo â'm llaw mewn barn,
byddaf yn dial ar fy ngwrthwynebwyr
ac yn talu'r pwyth i'r rhai sy'n fy nghasáu.
42Gwnaf fy saethau yn feddw â gwaed,
a bydd fy nghleddyf yn bwyta cnawd,
sef gwaed y clwyfedig a'r carcharorion,
a phennau arweinwyr y gelyn.”
43Bloeddiwch fawl ei bobl, O genhedloedd,
oherwydd y mae'n dial gwaed ei weision!
Daw â dial ar ei wrthwynebwyr,
ac arbed ei dir a'i bobl ei hun.
44Wedi i Moses ddod gyda Josua fab Nun, llefarodd holl eiriau'r gerdd hon yng nghlyw'r bobl.
Cyfarwyddyd Olaf Moses
45Pan orffennodd Moses lefaru'r holl eiriau hyn wrth Israel gyfan, 46meddai wrthynt, “Ystyriwch yn eich calon yr holl eiriau yr wyf yn eu hargymell ichwi heddiw, er mwyn ichwi eu gorchymyn i'ch plant, ac iddynt hwythau ofalu cadw holl eiriau'r gyfraith hon. 47Oherwydd nid gair dibwys yw hwn i chwi, ond dyma eich bywyd; trwy'r gair hwn yr estynnwch eich dyddiau yn y wlad yr ydych ar fynd dros yr Iorddonen i'w meddiannu.”
48Yn ystod yr un diwrnod llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud, 49“Dos i fyny yma i fynydd-dir Abarim, i Fynydd Nebo yng ngwlad Moab, gyferbyn â Jericho; ac yna edrych ar wlad Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i'r Israeliaid yn etifeddiaeth. 50Yno, ar y mynydd y byddi'n ei ddringo, y byddi farw, ac y cesglir di at dy bobl, fel y bu i'th frawd Aaron farw ym Mynydd Hor, a'i gasglu at ei bobl, 51am ichwi fod yn anffyddlon imi yng nghanol yr Israeliaid wrth ddyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin, trwy beidio â mynegi fy sancteiddrwydd ymysg yr Israeliaid. 52Fe gei weld y wlad yn y pellter, ond ni chei ddod drosodd i'r wlad yr wyf yn ei rhoi i'r Israeliaid.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004