No themes applied yet
Marw Moses
1Aeth Moses i fyny o rosydd Moab i Fynydd Nebo, i ben Pisga gyferbyn â Jericho. Dangosodd yr ARGLWYDD iddo y wlad gyfan, sef Gilead cyn belled â Dan, 2holl Nafftali a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda hyd fôr y gorllewin; 3yna'r Negef a gwastadedd dyffryn Jericho, dinas y palmwydd, cyn belled â Soar. 4A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dyma'r wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob, a dweud, ‘Rhoddaf hi i'th ddisgynyddion.’ Dangosais hi i ti, ond ni chei fynd trosodd yno.” 5Ac yno yng ngwlad Moab y bu farw Moses gwas yr ARGLWYDD, yn ôl gair yr ARGLWYDD. 6Claddwyd ef mewn cwm yng ngwlad Moab, gyferbyn â Beth-peor, ac nid oes neb yn gwybod man ei fedd hyd y dydd hwn. 7Yr oedd Moses yn gant ac ugain oed pan fu farw; nid oedd ei lygad wedi pylu, na'i ynni wedi pallu. 8Wylodd yr Israeliaid am Moses yn rhosydd Moab am ddeg diwrnod ar hugain; yna daeth cyfnod yr wylo a'r galaru i ben.
9Yr oedd Josua fab Nun yn llawn o ysbryd doethineb, oherwydd yr oedd Moses wedi gosod ei ddwylo arno; felly gwrandawodd yr Israeliaid arno yntau, a gwneud fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 10Ni chododd yn Israel byth wedyn broffwyd tebyg i Moses, un yr oedd yr ARGLWYDD yn ei adnabod wyneb yn wyneb, 11ac un a anfonodd i gyflawni'r holl arwyddion ac argoelion yng ngwlad yr Aifft, yn erbyn Pharo a'i holl weision a'r wlad i gyd. 12Ni fu neb mor gadarn ei allu, ac ni fu un a wnaeth yr holl weithredoedd dychrynllyd a wnaeth Moses yng ngolwg Israel gyfan.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004