No themes applied yet
Moses yn Annog Ufudd-dod
1Yn awr, O Israel, gwrando ar y deddfau a'r cyfreithiau yr wyf yn eu dysgu ichwi heddiw; cadwch hwy er mwyn ichwi gael byw a mynd i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, yn ei rhoi ichwi. 2Peidiwch ag ychwanegu dim at yr hyn yr wyf yn ei orchymyn ichwi, nac ychwaith dynnu oddi wrtho, ond cadw at orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw yr wyf fi yn eu gorchymyn ichwi. 3Gwelsoch â'ch llygaid eich hunain yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD yn Baal-peor; oherwydd dinistriodd yr ARGLWYDD eich Duw o'ch plith bob un oedd yn dilyn Baal-peor; 4ond yr ydych chwi i gyd sydd wedi glynu wrth yr ARGLWYDD eich Duw yn fyw hyd heddiw. 5Gwelwch fy mod wedi dysgu ichwi'r deddfau a'r cyfreithiau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD fy Nuw imi, er mwyn ichwi eu cadw yn y wlad yr ydych yn mynd i mewn i'w meddiannu. 6Gofalwch eu cadw, oherwydd dyma fydd eich doethineb a'ch deall yng ngolwg y bobloedd; a phan glywant hwy y deddfau hyn, byddant yn dweud, “Yn wir pobl ddoeth a deallus yw'r genedl fawr hon.” 7Yn wir pa genedl fawr sydd a chanddi dduw mor agos ati ag yw'r ARGLWYDD ein Duw ni bob tro y byddwn yn galw arno? 8A pha genedl fawr sydd a chanddi ddeddfau a chyfreithiau mor gyfiawn â'r holl gyfraith hon yr wyf yn ei gosod o'ch blaen heddiw?
9Bydd ofalus, a gwylia'n ddyfal rhag iti anghofio'r pethau a welodd dy lygaid, a rhag iddynt gilio o'th feddwl holl ddyddiau dy fywyd; dysga hwy i'th blant ac i blant dy blant. 10Y dydd pan oeddit ti yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw yn Horeb, fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cynnull y bobl ataf, a chyhoeddaf iddynt fy ngeiriau, er mwyn iddynt ddysgu fy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar y ddaear, a bydded iddynt ddysgu eu plant i wneud hyn.” 11Daethoch chwi yn agos, a sefyll wrth droed y mynydd, ac yr oedd y mynydd yn llosgi gan dân hyd entrych y nefoedd; ac yr oedd yno dywyllwch, cwmwl a chaddug. 12Llefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y tân; ond nid oeddech chwi'n gweld unrhyw ffurf, dim ond clywed llais. 13Mynegodd i chwi ei gyfamod, sef y deg gorchymyn yr oedd yn eu gorchymyn i chwi eu cadw, ac ysgrifennodd hwy ar ddwy lechen. 14Yr adeg honno gorchmynnodd yr ARGLWYDD i mi ddysgu ichwi'r deddfau a'r gorchmynion, er mwyn ichwi eu cadw yn y wlad yr oeddech yn mynd iddi i'w meddiannu.
Gwahardd Eilunaddoli
15Gan na welsoch unrhyw ffurf, y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y tân yn Horeb, 16gofalwch beidio â gweithredu'n llygredig trwy wneud i chwi eich hunain ddelw ar ffurf unrhyw fath ar gerflun, na ffurf dyn na gwraig, 17nac unrhyw anifail ar y ddaear, nac unrhyw aderyn sy'n hedfan yn yr awyr, 18nac unrhyw beth sy'n ymlusgo ar y ddaear, nac unrhyw bysgodyn sydd yn y dŵr dan y ddaear. 19Gwylia hefyd na fyddi'n codi dy olwg i'r nefoedd ac edrych ar yr haul, y lleuad neu'r sêr, holl lu'r nefoedd, a chael dy ddenu i ymgrymu iddynt a'u haddoli; neilltuodd yr ARGLWYDD dy Dduw y rhain ar gyfer yr holl bobloedd dan y nefoedd. 20Ond cymerodd yr ARGLWYDD chwi, a daeth â chwi allan o'r ffwrnais haearn, o'r Aifft, i fod yn bobl sy'n etifeddiaeth iddo'i hun, fel yr ydych heddiw. 21Yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyf o'ch achos chwi, a thyngodd na chawn groesi'r Iorddonen, na mynd i mewn i'r wlad dda y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi yn feddiant iti. 22Byddaf fi yn marw yn y wlad hon, ac ni chaf groesi'r Iorddonen, ond byddwch chwi yn croesi ac yn meddiannu'r wlad dda hon. 23Byddwch ofalus rhag anghofio'r cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw â chwi, a gwneud i chwi eich hunain ddelw gerfiedig ar ffurf unrhyw beth a waharddodd yr ARGLWYDD dy Dduw. 24Oherwydd tân yn ysu yw'r ARGLWYDD dy Dduw; y mae ef yn Dduw eiddigus.
25Pan fydd gennych blant ac wyrion, a chwithau wedi mynd yn hen yn y wlad, os byddwch yn gweithredu'n llygredig trwy wneud delw gerfiedig ar unrhyw ffurf, ac yn gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw ac ennyn ei ddig, 26yna yr adeg honno byddaf yn galw ar y nefoedd a'r ddaear i dystio yn eich erbyn, a byddwch yn sicr o ddiflannu'n gyflym o'r wlad yr ydych wedi croesi'r Iorddonen i'w meddiannu; ni chewch aros yno'n hir, ond fe'ch difethir yn llwyr. 27Bydd yr ARGLWYDD yn eich gwasgaru ymhlith y bobloedd, ac ni adewir ond ychydig ohonoch ymhlith y cenhedloedd y bydd yr ARGLWYDD yn eich arwain atynt. 28Yna byddwch yn addoli duwiau o waith dwylo dynol, duwiau o bren a cherrig, nad ydynt yn gweld nac yn clywed nac yn bwyta nac yn arogli. 29Os byddwch yn ceisio'r ARGLWYDD eich Duw yno, ac yn chwilio amdano â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, byddwch yn ei gael. 30Pan fydd yn gyfyng arnat, a'r holl bethau hyn yn digwydd iti yn y dyddiau sy'n dod, yna tro at yr ARGLWYDD dy Dduw a gwrando ar ei lais. 31Oherwydd Duw trugarog yw'r ARGLWYDD dy Dduw; ni fydd yn dy siomi nac yn dy ddifa, ac ni fydd yn anghofio'r cyfamod a wnaeth trwy lw â'th hynafiaid.
Yr ARGLWYDD sydd Dduw
32Ystyria'r dyddiau gynt, cyn dy amser di, o'r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, a chwilia'r nefoedd o un cwr i'r llall. A fu peth mor fawr â hyn, neu a glywyd am beth tebyg? 33A glywodd pobl lais Duw yn llefaru o ganol tân, fel y clywaist ti, a byw? 34A geisiodd unrhyw dduw ddod i gymryd iddo'i hun genedl o ganol cenedl trwy dreialon, arwyddion, rhyfeddodau, a brwydr, ac â llaw gadarn a braich estynedig a llawer o bethau arswydus, fel y gwnaeth yr ARGLWYDD eich Duw yn eich gŵydd yn yr Aifft? 35Cefaist ti brofi hyn er mwyn iti wybod mai'r ARGLWYDD sydd Dduw, ac nad oes un arall. 36Parodd iti glywed ei lais o'r nefoedd i'th ddisgyblu, a dangosodd iti ei dân mawr ar y ddaear, a chlywaist ei eiriau o ganol y tân. 37Am iddo garu dy hynafiaid a dewis eu plant ar eu hôl, y daeth â thi allan o'r Aifft trwy ei bresenoldeb â nerth mawr, 38a gyrru allan o'th flaen genhedloedd oedd yn fwy ac yn gryfach na thi, a'th arwain a rhoi iti eu gwlad yn etifeddiaeth, fel y mae heddiw. 39Heddiw yr wyt ti i gydnabod ac i ystyried mai'r ARGLWYDD sydd Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod, ac nad oes un arall. 40Cadw ei ddeddfau, a'r gorchmynion yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw, fel y bydd yn dda arnat ac ar dy blant ar dy ôl, ac iti gael oes faith ar y ddaear y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti am byth.
Dinasoedd Noddfa
41Yna neilltuodd Moses dair dinas yn y dwyrain, yn y tir y tu hwnt i'r Iorddonen, 42er mwyn i'r sawl a fyddai'n lladd ei gymydog yn anfwriadol, heb elyniaeth rhyngddynt yn flaenorol, gael ffoi iddynt. Trwy ffoi i un o'r dinasoedd hyn byddai'n arbed ei fywyd. 43Y dinasoedd oedd: Beser yng ngwastatir yr anialwch ar gyfer y Reubeniaid; Ramoth yn Gilead ar gyfer y Gadiaid; Golan yn Basan ar gyfer y Manasseaid.
Rhoi'r Gyfraith
44Dyma'r gyfraith a osododd Moses gerbron yr Israeliaid. 45A dyma'r rheolau, y deddfau a'r cyfreithiau a lefarodd Moses wrth yr Israeliaid, wedi iddynt ddod allan o'r Aifft, 46pan oeddent y tu hwnt i'r Iorddonen yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor yng ngwlad Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon ac a orchfygwyd gan Moses a'r Israeliaid ar eu taith allan o'r Aifft. 47Cymerasant ei wlad ef a gwlad Og brenin Basan, dau frenin yr Amoriaid oedd yn y dwyrain, yn y diriogaeth y tu hwnt i'r Iorddonen. 48Yr oedd y diriogaeth yn ymestyn o Aroer, ar lan nant Arnon, at Fynydd Sirion4:48 Felly Syrieg. Hebraeg, Seion., sef Hermon, 49ac yn cynnwys y cyfan o'r Araba i'r dwyrain o'r Iorddonen, hyd at fôr yr Araba islaw llethrau Pisga.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004