No themes applied yet
Gyrru'r Cenhedloedd o'r Wlad
Ex. 34:11–16
1Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dod â thi i'r wlad yr wyt yn mynd iddi i'w meddiannu, ac yn gyrru allan o'th flaen lawer o genhedloedd, sef Hethiaid, Girgasiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, saith o genhedloedd sy'n fwy niferus a chryfach na thi; 2a phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn eu darostwng o'th flaen, a thithau'n ymosod arnynt, yr wyt i'w difa'n llwyr. Paid â gwneud cyfamod â hwy na dangos trugaredd tuag atynt. 3Paid â gwneud cytundeb priodas â hwy trwy roi dy ferched i'w meibion a chymryd eu merched yn wragedd i'th feibion, 4oherwydd fe wnânt i'th blant droi oddi wrthyf ac addoli duwiau eraill, a bydd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyt ac yn dy ddifa ar unwaith. 5Ond fel hyn yr ydych i wneud iddynt: tynnu i lawr eu hallorau, dinistrio eu colofnau, a malurio eu pyst Asera a llosgi eu delwau yn y tân.
6Yr ydych chwi yn bobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw. Y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eich dewis o blith yr holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear, i fod yn bobl arbennig iddo ef. 7Nid am eich bod yn fwy niferus na'r holl bobloedd yr hoffodd yr ARGLWYDD chwi a'ch dewis; yn wir chwi oedd y lleiaf o'r holl bobloedd. 8Ond am fod yr ARGLWYDD yn eich caru ac yn cadw'r addewid a dyngodd i'ch hynafiaid, daeth â chwi allan â llaw gadarn a'ch gwaredu o dŷ caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft. 9Felly deallwch mai'r ARGLWYDD eich Duw sydd Dduw; y mae'n Dduw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau gyda'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion, 10ond y mae'n talu'n ôl i'r rhai sy'n ei gasáu trwy eu difa; yn wir nid yw'n oedi i dalu'n ôl i'r rhai sy'n ei gasáu. 11Yr ydych i gadw'r gorchmynion, y deddfau a'r cyfreithiau yr wyf fi heddiw yn gorchymyn i chwi eu cadw.
Y Bendithion o Ufuddhau
Deut. 28:1–14
12Os byddwch yn gwrando ar y cyfreithiau hyn ac yn gofalu eu cadw, yna bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cadw'r cyfamod a'r ffyddlondeb a dyngodd i'ch hynafiaid. 13Bydd yn eich caru, yn eich bendithio ac yn gwneud ichwi gynyddu; bydd hefyd yn bendithio'ch plant a chynnyrch eich tir, eich ŷd, eich gwin a'ch olew, ac epil eich gwartheg a'ch praidd yn y tir y tyngodd i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi ichwi. 14Cewch eich bendithio yn fwy na'r holl bobloedd; ni fydd yr un ohonoch chwi, yn wryw na benyw, yn anffrwythlon, na'r un o'ch anifeiliaid. 15Fe dry'r ARGLWYDD bob clefyd oddi wrthych, ac ni fydd yn dwyn arnoch chwi yr un o'r heintiau difrifol a brofasoch yn yr Aifft, ond yn eu gosod ar yr holl rai sy'n eich casáu. 16Yr ydych i ddifa'r holl bobloedd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chwi; nid ydych i dosturio wrthynt nac addoli eu duwiau, oherwydd byddai hynny yn fagl ichwi.
17Hwyrach y byddwch yn dweud ynoch eich hunain, “Y mae'r cenhedloedd hyn yn fwy niferus na ni; sut felly y gallwn eu gyrru allan?” 18Peidiwch â'u hofni; daliwch i gofio'r hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Pharo a'r Aifft i gyd. 19Gwelsoch â'ch llygaid eich hunain y treialon mawr, yr arwyddion a'r rhyfeddodau, ac fel y daeth yr ARGLWYDD eich Duw â chwi allan â llaw gadarn a braich estynedig; felly y gwna'r ARGLWYDD eich Duw i'r holl bobloedd yr ydych yn eu hofni. 20Bydd yr ARGLWYDD eich Duw hefyd yn anfon cacwn i'w plith, nes difa pob un fydd yn weddill neu yn cuddio oddi wrthych. 21Peidiwch ag arswydo o'u hachos, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw, y Duw mawr ac ofnadwy, gyda chwi. 22Fe fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gyrru allan y cenhedloedd hyn o'ch blaenau fesul ychydig; ni fyddwch yn eu difa ar unwaith, rhag i'r anifeiliaid gwyllt fynd yn rhy niferus ichwi. 23Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eu darostwng o'ch blaenau, ac yn dwyn arnynt ddryswch mawr nes eu dinistrio. 24Bydd yn rhoi eu brenhinoedd yn eich llaw, a byddwch yn dileu eu henwau o dan y nefoedd; ni all unrhyw un eich gwrthsefyll nes i chwi eu dinistrio. 25Yr ydych i losgi delwau eu duwiau yn y tân; nid ydych i chwennych eu harian a'u haur, na'u cymryd, rhag iddynt fod yn fagl ichwi, oherwydd y maent yn ffieidd-dra i'r ARGLWYDD eich Duw. 26Nid ydych i ddwyn i'ch tŷ unrhyw ffieidd-dra, rhag i chwi fynd yn beth i'w ddifrodi fel yntau; yr ydych i'w ddirmygu'n llwyr a'i ffieiddio, oherwydd peth i'w ddifrodi ydyw.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004