No themes applied yet
Cyfiawnder Duw, nid Israel
1Gwrando, O Israel, yr wyt ti heddiw yn croesi'r Iorddonen i goncro cenhedloedd sy'n fwy ac yn gryfach na thi, a dinasoedd mawr â chaerau cyn uched â'r nefoedd. 2Y maent yn ddynion mawr a thal, disgynyddion yr Anacim; fe wyddost ti amdanynt, oherwydd clywaist ddweud, “Pwy a saif o flaen yr Anacim?” 3Ond deall di heddiw fod yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n croesi o'th flaen, yn dân ysol, ac y bydd ef yn eu difa a'u darostwng o'th flaen. Byddi dithau'n eu gyrru allan ac yn eu difa yn sydyn, fel yr addawodd yr ARGLWYDD wrthyt.
4Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi eu gyrru allan o'th flaen, paid â dweud, “Daeth yr ARGLWYDD â mi i feddiannu'r wlad hon oherwydd fy nghyfiawnder.” Ond o achos drygioni'r cenhedloedd hyn y mae'r ARGLWYDD yn eu gyrru allan o'th flaen. 5Nid oherwydd dy gyfiawnder a'th uniondeb yr wyt yn mynd i feddiannu eu gwlad, ond oherwydd drygioni'r cenhedloedd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru allan o'th flaen, ac er mwyn cadarnhau'r gair a dyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob. 6Felly ystyria di nad o achos dy gyfiawnder y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn rhoi iti'r wlad dda hon i'w meddiannu; yn wir, pobl ystyfnig ydych.
Troi at Addoli Llo Aur
Ex. 24:12–18; 32:7–20
7Cofia, a phaid ag anghofio, iti ennyn dig yr ARGLWYDD dy Dduw yn yr anialwch; yr wyt wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r dydd y daethost allan o wlad yr Aifft nes iti ddod i'r lle hwn. 8Digiasoch yr ARGLWYDD yn Horeb, ac yr oedd mor ddig nes iddo fwriadu eich difa. 9Pan euthum i fyny i'r mynydd i dderbyn y llechau, llechau'r cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi, fe arhosais ar y mynydd am ddeugain diwrnod a deugain nos heb fwyta nac yfed. 10Rhoddodd yr ARGLWYDD imi y ddwy lechen, llechau yr ysgrifennwyd arnynt gan fys Duw, ac arnynt yr oedd yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y tân ar y mynydd ar ddydd y cynulliad. 11Ar ddiwedd y deugain diwrnod a deugain nos, rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r ddwy lechen, llechau'r cyfamod, 12a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cod, dos i lawr ar unwaith o'r mynydd hwn, oherwydd y mae dy bobl, a ddygaist allan o'r Aifft, wedi gwneud peth llygredig; y maent wedi rhuthro i droi o'r ffordd a orchmynnais iddynt, ac wedi gwneud iddynt eu hunain ddelw dawdd.”
13Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Gwelais fod y bobl hyn yn bobl ystyfnig. 14Gad lonydd imi, er mwyn imi eu difa a dileu eu henw o dan y nefoedd, a'th wneud di'n genedl gryfach a mwy niferus na hwy.” 15Yna trois a dod i lawr o'r mynydd â dwy lechen y cyfamod yn fy nwylo, ac yr oedd y mynydd yn llosgi gan dân. 16Gwelais eich bod wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw trwy wneud i chwi eich hunain ddelw dawdd ar ffurf llo, a rhuthro i droi o'r ffordd a orchmynnodd yr ARGLWYDD ichwi. 17Cydiais yn y ddwy lechen a'u taflu o'm dwylo a'u torri yn eich gŵydd. 18Yna syrthiais i lawr gerbron yr ARGLWYDD, fel o'r blaen, a bûm am ddeugain diwrnod a deugain nos heb fwyta nac yfed o achos eich holl bechodau, sef gwneud drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD a'i ddigio. 19Yr oeddwn yn ofni'r dig a'r cynddaredd yr oedd yr ARGLWYDD yn eu dangos tuag atoch gan feddwl eich difa, ond gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf y tro hwn eto. 20Yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig iawn wrth Aaron ac yn bwriadu ei ddifa, ond ymbiliais ar ei ran yr adeg honno. 21Cymerais y llo yr oeddech wedi pechu wrth ei wneud, a'i losgi yn y tân, ei guro a'i falu'n fân nes ei fod yn llwch, ac yna teflais y llwch i'r nant oedd yn llifo o'r mynydd.
22Digiasoch yr ARGLWYDD yn Tabera, yn Massa ac yn Cibroth-hattaafa. 23Yna pan anfonodd yr ARGLWYDD chwi o Cades-barnea a dweud wrthych, “Ewch i fyny i feddiannu'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi”, gwrthryfela a wnaethoch yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a gwrthod ymddiried ynddo a gwrando ar ei lais. 24Yr ydych wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r dydd y deuthum i'ch adnabod.
25Yna syrthiais i lawr gerbron yr ARGLWYDD am ddeugain diwrnod a deugain nos, oherwydd iddo ddweud ei fod am eich difa. 26Gweddïais ar yr ARGLWYDD a dweud, “O Arglwydd DDUW, paid â dinistrio dy bobl, dy etifeddiaeth a achubaist â'th gryfder trwy ddod â hwy allan o'r Aifft â llaw gadarn. 27Cofia dy weision, Abraham, Isaac a Jacob; paid ag edrych ar ystyfnigrwydd, drygioni a phechod y bobl hyn, 28rhag i drigolion y wlad y daethost â hwy allan ohoni ddweud, ‘Am ei fod yn methu mynd â hwy i'r wlad a addawodd iddynt, ac am ei fod yn eu casáu, y daeth yr ARGLWYDD â hwy allan i'w lladd yn yr anialwch.’ 29Ond dy bobl di ydynt, dy etifeddiaeth a ddygaist allan â'th nerth mawr ac â'th fraich estynedig.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004