No themes applied yet
1Dywedais wrthyf fy hun, “Tyrd yn awr, gad imi brofi pleser, a'm mwynhau fy hun,” 2ond yr oedd hyn hefyd yn wagedd. Dywedais fod chwerthin yn ynfydrwydd, ac nad oedd pleser yn dda i ddim. 3Ceisiais godi fy nghalon â gwin, gan ofalu fy mod yn ymddwyn yn ddoeth ac yn ffrwyno ffolineb, nes imi weld beth oedd yn dda i bobl ei wneud dan y nef yn ystod cyfnod byr eu hoes. 4Gwneuthum bethau mawr: adeiledais dai i mi fy hun, a phlannu gwinllannoedd; 5gwneuthum erddi a pherllannau, a phlannu pob math ar goed ffrwythau ynddynt; 6gwneuthum hefyd lynnoedd i ddyfrhau ohonynt y llwyni coed oedd yn tyfu; 7prynais gaethion, yn ddynion a merched, ac yr oedd gennyf weision wedi eu geni yn fy nhŷ; yr oedd gennyf fwy o wartheg a defaid nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem; 8cesglais arian ac aur, trysorau brenhinoedd a thaleithiau; yr oedd gennyf hefyd gantorion a chantoresau, a digonedd o ferched gordderch2:8 Tebygol. Hebraeg yn aneglur. i ddifyrru dynion. 9Deuthum yn enwog, ac yn fwy llwyddiannus nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem; ac eto glynais wrth ddoethineb. 10Nid oeddwn yn cadw draw oddi wrth unrhyw beth a chwenychai fy llygaid, nac yn troi ymaith oddi wrth unrhyw bleser. Yn wir yr oeddwn yn cael llawenydd yn fy holl lafur, a hyn oedd fy nhâl am fy holl waith. 11Yna, pan drois i edrych ar y cyfan a wnaeth fy nwylo a'r llafur yr ymdrechais i'w gyflawni, gwelwn nad oedd y cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt, heb unrhyw elw dan yr haul.
12Yna trois i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb. Beth rhagor y gall y sawl a ddaw ar ôl y brenin ei wneud nag sydd eisoes wedi ei wneud? 13Yna gwelais fod doethineb yn werthfawrocach nag ynfydrwydd, fel y mae goleuni yn werthfawrocach na thywyllwch. 14Y mae'r doeth â'i lygaid yn ei ben, ond y mae'r ffôl yn rhodio yn y tywyllwch; eto canfûm mai'r un peth yw tynged y ddau. 15Yna dywedais wrthyf fy hun, “Yr un peth a ddigwydd i mi ac i'r ffôl. Pa elw a gaf o fod yn ddoeth?” Yna dywedais, “Y mae hyn hefyd yn wagedd.” 16Oherwydd ni chofir am byth am y doeth mwy na'r ffôl, ond fe anghofir am y naill a'r llall fel yr â'r dyddiau heibio; yn wir, marw y mae'r doeth fel y ffôl. 17Yna deuthum i gasáu bywyd, gan fod y cyfan sy'n digwydd dan yr haul yn achosi blinder imi; yn wir y mae'r cyfan yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
18Yr oeddwn yn casáu'r holl lafur a gyflawnais dan yr haul, gan y bydd yn rhaid imi ei adael i'r un a ddaw ar fy ôl; 19a phwy sy'n gwybod ai doeth ynteu ffôl fydd hwnnw? Ac eto, ef fydd yn rheoli'r holl lafur a gyflawnais mewn doethineb dan yr haul. Y mae hyn hefyd yn wagedd. 20Yna euthum i anobeithio'n llwyr am yr holl lafur a gyflawnais dan yr haul. 21Oherwydd y mae'r sawl a lafuriodd yn ddoeth a deallus a chyda medr yn gadael ei eiddo i un na lafuriodd amdano. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn flinder mawr. 22Beth a gaiff neb am yr holl lafur a'r ymdrech a gyflawnodd dan yr haul? 23Oherwydd y mae ei holl ddyddiau yn ofidus, a'i orchwyl yn boenus; a hyd yn oed yn y nos nid oes gorffwys i'w feddwl. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
24Nid oes dim yn well i neb na bwyta ac yfed a chael mwynhad o'i lafur. Yn wir gwelais fod hyn yn dod oddi wrth Dduw; 25oherwydd pwy all fwyta a chael mwynhad hebddo ef2:25 Felly Fersiynau. Hebraeg, hebof fi.? 26Yn wir, y mae Duw yn rhoi doethineb, deall a llawenydd i'r sawl sy'n dda yn ei olwg, ond i'r un sy'n pechu fe roddir y dasg o gasglu a chronni ar gyfer yr un sy'n dda yng ngolwg Duw. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004