No themes applied yet
1Byddwch, felly, yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl iddo, 2gan fyw mewn cariad, yn union fel y carodd Crist ni, a'i roi ei hun trosom, yn offrwm ac aberth i Dduw, o arogl pêr. 3Anfoesoldeb rhywiol, a phob aflendid a thrachwant, peidiwch hyd yn oed â'u henwi yn eich plith, fel y mae'n briodol i saint; 4a'r un modd bryntni, a chleber ffôl, a siarad gwamal, pethau sy'n anweddus. Yn hytrach, geiriau diolch sy'n gweddu i chwi. 5Gwyddoch hyn yn sicr, nad oes cyfran yn nheyrnas Crist a Duw i neb sy'n puteinio neu'n aflan, nac i neb sy'n drachwantus, hynny yw, yn addoli eilunod.
Byddwch Fyw fel Plant Goleuni
6Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eiriau gwag neb; o achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai sy'n anufudd iddo. 7Peidiwch felly â chyfathrachu â hwy; 8tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni, 9oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd. 10Gwnewch yn siŵr beth sy'n gymeradwy gan yr Arglwydd. 11Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni. 12Gwarthus yw hyd yn oed crybwyll y pethau a wneir ganddynt yn y dirgel. 13Ond y mae pob peth a ddadlennir gan y goleuni yn dod yn weladwy, oherwydd goleuni yw pob peth a wneir yn weladwy. 14Am hynny y dywedir:
“Deffro, di sydd yn cysgu,
a chod oddi wrth y meirw,
ac fe dywynna Crist arnat.”
15Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth. 16Daliwch ar eich cyfle, oherwydd y mae'r dyddiau'n ddrwg. 17Am hynny, peidiwch â bod yn ffôl, ond deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd. 18Peidiwch â meddwi ar win (afradlonedd yw hynny), ond llanwer chwi â'r Ysbryd. 19Cyfarchwch eich gilydd â salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol; canwch a phynciwch o'ch calon i'r Arglwydd. 20Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu Grist; 21a byddwch ddarostyngedig i'ch gilydd, o barchedig ofn tuag at Grist.
Gwragedd a Gwŷr
22Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd; 23oherwydd y gŵr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr eglwys; ac ef yw Gwaredwr y corff. 24Ond fel y mae'r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly y mae'n rhaid i'r gwragedd fod i'w gwŷr ym mhob peth. 25Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau'r eglwys a'i roi ei hun drosti, 26i'w sancteiddio a'i glanhau â'r golchiad dŵr a'r gair, 27er mwyn iddo ef ei hun ei chyflwyno iddo'i hun yn ei llawn ogoniant, heb fod arni frycheuyn na chrychni na dim byd o'r fath, iddi fod yn sanctaidd a di-fai. 28Yn yr un modd, dylai'r gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrff eu hunain. Y mae'r gŵr sy'n caru ei wraig yn ei garu ei hun. 29Ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; yn hytrach y mae'n ei feithrin a'i ymgeleddu. Felly y gwna Crist hefyd â'r eglwys; 30oherwydd yr ydym ni'n aelodau o'i gorff ef. 31Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig; a bydd y ddau yn un cnawd.” 32Y mae'r dirgelwch hwn yn fawr. Cyfeirio yr wyf at Grist ac at yr eglwys. 33Ond yr ydych chwithau bob un i garu ei wraig fel ef ei hun; ac y mae'r wraig hithau i barchu ei gŵr.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004