No themes applied yet
Diswyddo'r Frenhines Fasti
1Digwyddodd y pethau a ganlyn yn amser Ahasferus, yr Ahasferus oedd yn teyrnasu ar gant dau ddeg a saith o daleithiau, o India i Ethiopia. 2Yn ystod y cyfnod hwnnw, yn nhrydedd flwyddyn ei deyrnasiad, ac yntau'n teyrnasu ar ei orsedd yn Susan y brifddinas, 3gwnaeth y Brenin Ahasferus wledd i'w holl dywysogion a'i weinidogion. Daeth byddin y Persiaid a'r Mediaid, y penaethiaid a thywysogion y taleithiau o'i flaen, 4a threuliodd yntau amser maith, sef cant wyth deg o ddyddiau, yn dangos iddynt gyfoeth ei deyrnas odidog ac ysblander gogoneddus ei fawredd. 5Pan ddaeth yr amser hwn i ben, gwnaeth y brenin wledd a barodd am saith diwrnod yn y cwrt yng ngardd ei dŷ i bawb, o'r lleiaf hyd y mwyaf, oedd yn byw yn Susan y brifddinas. 6Yr oedd yno lenni gwyn a glas wedi eu rhwymo â llinynnau o sidan a phorffor wrth gadwynau arian ar golofnau marmor. Yr oedd yno welyau o aur ac arian ar lawr o risial, marmor, alabastr a glasfaen gwerthfawr. 7Yr oedd cwpanau aur o wahanol fathau i yfed ohonynt, ac yr oedd digonedd o win trwy haelioni'r brenin. 8Ynglŷn â'r yfed, nid oedd gorfodaeth ar neb, oherwydd gorchmynnodd y brenin i holl swyddogion ei balas wneud fel yr oedd pawb yn dymuno. 9Gwnaeth y Frenhines Fasti hefyd wledd i'r gwragedd ym mhalas y Brenin Ahasferus.
10Ar y seithfed dydd, pan oedd y Brenin Ahasferus yn llawen gan win, rhoddodd orchymyn i Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, Abagtha, Sethar a Carcas, y saith eunuch oedd yn gweini arno, 11i ddod â'r Frenhines Fasti ato yn gwisgo ei choron frenhinol, er mwyn dangos ei phrydferthwch i'r bobl a'r tywysogion, oherwydd yr oedd yn brydferth iawn. 12Ond gwrthododd y Frenhines Fasti ddod ar orchymyn y brenin trwy'r eunuchiaid. Felly gwylltiodd y brenin yn ddirfawr a chyneuodd ei lid.
13Gan mai arfer y brenin oedd troi at y rhai oedd yn deall cyfraith a barn, fe ymgynghorodd â'r doethion oedd yn deall y gyfraith1:13 Felly Groeg. Hebraeg, amserau.. 14Ei gynghorwyr mwyaf blaenllaw oedd Carsena, Sethar, Admatha, Tarsis, Meres, Marsena a Memuchan, saith dywysog Persia a Media; hwy oedd agosaf at y brenin, a'r dynion mwyaf blaenllaw yn y deyrnas. 15Gofynnodd iddynt, “Beth, yn ôl y gyfraith, sydd i'w wneud â'r Frenhines Fasti am iddi anufuddhau i orchymyn y Brenin Ahasferus trwy'r eunuchiaid?” 16Atebodd Memuchan yng ngŵydd y brenin a'r tywysogion, “Nid â'r Brenin Ahasferus yn unig y mae'r Frenhines Fasti wedi gwneud cam, ond â'r holl dywysogion a'r bobl ym mhob un o daleithiau'r brenin. 17Oherwydd daw pob gwraig i wybod am yr hyn a wnaeth y frenhines, ac o ganlyniad fe ddirmygant eu gwŷr a dweud, ‘Gorchmynnodd y Brenin Ahasferus ddod â'r Frenhines Fasti ato, ond ni ddaeth hi.’ 18Heddiw bydd tywysogesau Persia a Media, sydd wedi clywed am weithred y frenhines, yn rhoi yr un ateb i holl dywysogion y brenin, ac yna bydd dirmyg a dicter diddiwedd. 19Gyda chydsyniad y brenin, gwneler datganiad brenhinol, a'i ysgrifennu yn neddfau'r Persiaid a'r Mediaid fel na chaiff ei newid, nad yw Fasti i ddod mwyach i ŵydd y Brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei swydd frenhinol hi i un arall sy'n rhagori arni. 20Pan glywir trwy'r holl deyrnas, er mor fawr ydyw, y gorchymyn a wnaeth y brenin, bydd pob gwraig, o'r leiaf hyd y fwyaf, yn parchu ei gŵr.” 21Yr oedd cyngor Memuchan yn dderbyniol gan y brenin a'r tywysogion, a gwnaeth y brenin fel yr awgrymodd. 22Anfonwyd llythyrau i holl daleithiau'r brenin, i bob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun, er mwyn sicrhau bod pob dyn, beth bynnag ei iaith1:22 TM, ac yn siarad yn iaith ei bobl., yn feistr ar ei dŷ ei hun.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004