No themes applied yet
Jethro'n Ymweld â Moses
1Clywodd Jethro, offeiriad yn Midian a thad-yng-nghyfraith Moses, am y cyfan a wnaeth Duw i Moses ac i'w bobl Israel, ac fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi eu harwain allan o'r Aifft. 2Wedi i Moses yrru ymaith ei wraig Seffora, rhoddodd Jethro, ei dad-yng-nghyfraith, gartref iddi hi 3a'i dau fab. Gersom oedd enw'r naill: “Oherwydd,” meddai, “bûm yn ddieithryn18:3 Hebraeg, ger. mewn gwlad ddieithr.” 4Ac Elieser oedd enw'r llall: “Oherwydd,” meddai, “bu Duw fy nhad yn gymorth18:4 Hebraeg, Eli, fy Nuw; eser, cymorth. imi, ac fe'm hachubodd rhag cleddyf Pharo.” 5Daeth Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, â meibion Moses a'i wraig ato i'r anialwch lle'r oedd yn gwersyllu wrth fynydd Duw, 6a dweud wrth Moses, “Yr wyf fi, Jethro dy dad-yng-nghyfraith, wedi dod atat gyda'th wraig a'i dau fab.” 7Aeth yntau allan i'w gyfarch, ac ymgrymu a'i gusanu; yna ar ôl iddynt gyfarch ei gilydd, aethant i mewn i'r babell. 8Adroddodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith y cyfan a wnaeth yr ARGLWYDD i Pharo a'r Eifftiaid er mwyn Israel, a'r holl helbul a gawsant ar y ffordd, ac fel yr achubodd yr ARGLWYDD hwy. 9Llawenychodd Jethro oherwydd yr holl bethau da a wnaeth yr ARGLWYDD i Israel trwy eu hachub o law'r Eifftiaid, 10a dywedodd, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a'ch achubodd o law'r Eifftiaid ac o law Pharo. 11Gwn yn awr fod yr ARGLWYDD yn fwy na'r holl dduwiau, oherwydd fe achubodd y bobl o law'r Eifftiaid18:11 Hebraeg, oherwydd… Eifftiaid ar ddiwedd adn. 10. a fu'n eu trin yn drahaus.” 12Yna cyflwynodd Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, boethoffrwm ac ebyrth i Dduw, a daeth Aaron a holl henuriaid Israel i fwyta bara gydag ef ym mhresenoldeb Duw.
Penodi Barnwyr
Deut. 1:9–18
13Eisteddodd Moses drannoeth i farnu'r bobl, a hwythau'n sefyll o'i flaen o'r bore hyd yr hwyr. 14Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith y cwbl yr oedd Moses yn ei wneud er mwyn y bobl, dywedodd, “Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud drostynt? Pam yr wyt yn eistedd ar dy ben dy hun, a'r holl bobl yn sefyll o'th flaen o fore hyd hwyr?” 15Atebodd Moses ef, “Am fod y bobl yn dod ataf i ymgynghori â Duw. 16Pan fydd achos yn codi, fe ddônt ataf fi i mi farnu rhwng pobl a'i gilydd, a datgan deddfau Duw a'i gyfreithiau.” 17Dywedodd tad-yng-nghyfraith Moses wrtho, “Nid dyma'r ffordd orau iti weithredu. 18Byddi di a'r bobl sydd gyda thi wedi diffygio'n llwyr; y mae'r gwaith yn rhy drwm iti, ac ni elli ei gyflawni dy hun. 19Gwrando'n awr arnaf fi, ac fe'th gynghoraf, a bydded Duw gyda thi. Ti sydd i gynrychioli'r bobl o flaen Duw, a dod â'u hachosion ato ef. 20Ti hefyd sydd i ddysgu i'r bobl y deddfau a'r cyfreithiau, a rhoi gwybod iddynt sut y dylent ymddwyn a beth y dylent ei wneud. 21Ond ethol o blith yr holl bobl wŷr galluog a gonest, sy'n parchu Duw ac yn casáu llwgrwobrwyo, a'u penodi dros y bobl yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg. 22Boed iddynt hwy farnu'r bobl ar bob achlysur; gallent ddod â phob achos anodd atat ti, ond hwy eu hunain sydd i farnu pob achos syml. Bydd yn ysgafnach arnat os byddant hwy'n rhannu'r baich â thi. 23Os gwnei hyn, a hynny ar orchymyn Duw, gelli ddal ati; ac fe â'r bobl hyn i gyd adref yn fodlon.”
24Gwrandawodd Moses ar ei dad-yng-nghyfraith, a gwnaeth bopeth a orchmynnodd ef. 25Dewisodd wŷr galluog o blith yr holl Israeliaid a'u gwneud yn benaethiaid ar y bobl, ac yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg. 26Hwy oedd yn barnu'r bobl ar bob achlysur; deuent â'r achosion dyrys at Moses, ond hwy eu hunain oedd yn barnu'r holl achosion syml. 27Ffarweliodd Moses â'i dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro adref i'w wlad ei hun.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004