No themes applied yet
Rhoddion ar gyfer y Cysegr
Ex. 35:4–9
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Dywed wrth bobl Israel am ddod ag offrwm i mi, a derbyniwch oddi wrth bob un yr offrwm y mae'n ei roi o'i wirfodd. 3Dyma'r offrwm yr ydych i'w dderbyn ganddynt: aur, arian ac efydd; 4sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr, 5crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia, 6olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; 7meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg. 8Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith. 9Yr ydych i'w wneud yn unol â'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.
Arch y Cyfamod
Ex. 37:1–9
10“Y maent i wneud arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder. 11Yr wyt i'w goreuro ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, ac yr wyt i wneud ymyl aur o'i hamgylch. 12Yna yr wyt i lunio pedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall. 13Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro, 14a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario. 15Y mae'r polion i aros yn nolennau'r arch heb eu symud oddi yno; 16yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti. 17Gwna drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led; 18gwna hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro. 19Gwna un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa. 20Y mae dwy adain y cerwbiaid i fod ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; y mae'r cerwbiaid i wynebu ei gilydd, â'u hwynebau tua'r drugareddfa. 21Yr wyt i roi'r drugareddfa ar ben yr arch, a rhoi yn yr arch y dystiolaeth y byddaf yn ei rhoi i ti. 22Yno byddaf yn cyfarfod â thi, ac oddi ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerwb sydd ar arch y dystiolaeth, y byddaf yn mynegi iti yr holl bethau yr wyf yn eu gorchymyn i bobl Israel.
Bwrdd y Bara Gosod
Ex. 37:10–16
23“Yr wyt i wneud bwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder, 24a'i oreuro ag aur pur drosto, a gwneud ymyl aur o'i amgylch. 25Gwna ffrâm o led llaw o'i gwmpas, a chylch aur o amgylch y ffrâm. 26Yr wyt hefyd i wneud ar ei gyfer bedair dolen aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl. 27Bydd y dolennau sydd ar ymyl y ffrâm yn dal y polion sy'n cludo'r bwrdd. 28Yr wyt i wneud y polion a fydd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro. 29Gwna lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; yr wyt i'w gwneud o aur pur. 30Yr wyt i roi'r bara gosod ar y bwrdd o'm blaen yn wastadol.
Y Canhwyllbren
Ex. 37:17–24
31“Gwna ganhwyllbren o aur pur. Y mae gwaelod y canhwyllbren a'i baladr i'w gwneud o ddeunydd gyr, ac y mae'r pedyll, y cnapiau a'r blodau i fod yn rhan o'r cyfanwaith. 32Bydd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall. 33Ar un gainc bydd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyma fydd ar y chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren. 34Ar y canhwyllbren ei hun, bydd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt, 35a bydd un o'r cnapiau dan bob pâr o'r chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren. 36Bydd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, a bydd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr. 37Yr wyt i wneud ar ei gyfer saith llusern, a'u gosod fel eu bod yn goleuo'r gwagle o gwmpas. 38Bydd ei efeiliau a'i gafnau o aur pur. 39Yr wyt i wneud y canhwyllbren a'r holl lestri hyn o un dalent o aur pur. 40Ond gofala dy fod yn eu gwneud yn ôl y patrwm a ddangoswyd i ti ar y mynydd.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004