No themes applied yet
Y Llo Aur
Deut. 9:6–29
1Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dod i lawr o'r mynydd, daethant ynghyd at Aaron a dweud wrtho, “Cod, gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddigwyddodd i'r Moses hwn a ddaeth â ni i fyny o wlad yr Aifft.” 2Dywedodd Aaron wrthynt, “Tynnwch y tlysau aur sydd ar glustiau eich gwragedd a'ch meibion a'ch merched, a dewch â hwy ataf fi.” 3Felly tynnodd yr holl bobl eu clustlysau aur, a daethant â hwy at Aaron. 4Cymerodd yntau y tlysau ganddynt, ac wedi eu trin â chŷn, gwnaeth lo tawdd ohonynt. Dywedodd y bobl, “Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft.” 5Pan welodd Aaron y llo tawdd, adeiladodd allor o'i flaen a chyhoeddodd, “Yfory bydd gŵyl i'r ARGLWYDD.” 6Trannoeth codasant yn gynnar ac offrymu poethoffrymau, a dod â heddoffrymau; yna eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, ac ymroi i gyfeddach.
7Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos i lawr, oherwydd y mae'r bobl y daethost â hwy i fyny o wlad yr Aifft wedi eu halogi eu hunain. 8Y maent wedi cilio'n gyflym oddi wrth y ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hunain lo tawdd, ac y maent wedi ei addoli ac aberthu iddo, a dweud, ‘Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft.’ ” 9Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyf wedi gweld mor wargaled yw'r bobl hyn; 10yn awr, gad lonydd imi er mwyn i'm llid ennyn yn eu herbyn a'u difa; ond ohonot ti fe wnaf genedl fawr.”
11Ymbiliodd Moses â'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud, “O ARGLWYDD, pam y mae dy lid yn ennyn yn erbyn dy bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft â nerth mawr ac â llaw gadarn? 12Pam y caiff yr Eifftiaid ddweud, ‘Â malais yr aeth â hwy allan, er mwyn eu lladd yn y mynyddoedd a'u difa oddi ar wyneb y ddaear’? Tro oddi wrth dy lid angerddol, a bydd edifar am iti fwriadu drwg i'th bobl. 13Cofia Abraham, Isaac ac Israel, dy weision y tyngaist iddynt yn d'enw dy hun a dweud, ‘Amlhaf eich disgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoddaf yr holl wlad hon iddynt, fel yr addewais, yn etifeddiaeth am byth.’ ” 14Yna bu'n edifar gan yr ARGLWYDD am iddo fwriadu drwg i'w bobl.
15Trodd Moses, a mynd i lawr o'r mynydd â dwy lech y dystiolaeth yn ei law, llechau ag ysgrifen ar y ddau wyneb iddynt. 16Yr oedd y llechau o waith Duw, ac ysgrifen Duw wedi ei cherfio arnynt. 17Pan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, dywedodd wrth Moses, “Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll.” 18Ond meddai yntau, “Nid sŵn gorchfygwyr yn bloeddio na rhai a drechwyd yn gweiddi a glywaf fi, ond sŵn canu.” 19Pan ddaeth yn agos at y gwersyll, a gweld y llo a'r dawnsio, gwylltiodd Moses, a thaflu'r llechau o'i ddwylo a'u torri'n deilchion wrth droed y mynydd. 20Cymerodd y llo a wnaethant, a'i losgi â thân; fe'i malodd yn llwch a'i gymysgu â dŵr, a gwnaeth i bobl Israel ei yfed.
21Dywedodd Moses wrth Aaron, “Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, i beri iti ddwyn arnynt y fath bechod?” 22Atebodd Aaron ef: “Paid â digio, f'arglwydd; fe wyddost am y bobl, eu bod â'u bryd ar wneud drygioni. 23Dywedasant wrthyf, ‘Gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddigwyddodd i'r Moses hwn a ddaeth â ni i fyny o wlad yr Aifft’. 24Dywedais innau wrthynt, ‘Y mae pawb sydd â thlysau aur ganddynt i'w tynnu i ffwrdd’. Rhoesant yr aur i mi, ac fe'i teflais yn y tân; yna daeth y llo hwn allan.”
25Gwelodd Moses fod y bobl yn afreolus, a bod Aaron wedi gadael iddynt fynd felly, a'u gwneud yn waradwydd ymysg eu gelynion. 26Yna safodd Moses wrth borth y gwersyll, a dweud, “Pwy bynnag sydd o blaid yr ARGLWYDD, doed ataf fi.” Ymgasglodd holl feibion Lefi ato, 27a dywedodd wrthynt, “Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Bydded i bob un ohonoch osod ei gleddyf ar ei glun a mynd yn ôl a blaen drwy'r gwersyll, o ddrws i ddrws, a lladded pob un ei frawd, ei gyfaill a'i gymydog.’ ” 28Gwnaeth meibion Lefi yn ôl gorchymyn Moses, a'r diwrnod hwnnw syrthiodd tua thair mil o'r bobl. 29Dywedodd Moses, “Heddiw yr ydych wedi'ch ordeinio32:29 Felly Fersiynau. Hebraeg, Heddiw ordeiniwch. i'r ARGLWYDD, pob un ar draul ei fab a'i frawd, er mwyn iddo ef eich bendithio'r dydd hwn.”
30Trannoeth dywedodd Moses wrth y bobl, “Yr ydych wedi pechu'n ddirfawr. Yr wyf am fynd, yn awr, i fyny at yr ARGLWYDD; efallai y caf wneud cymod dros eich pechod.” 31Dychwelodd Moses at yr ARGLWYDD a dweud, “Och! Y mae'r bobl hyn wedi pechu'n ddirfawr trwy wneud iddynt eu hunain dduwiau o aur. 32Yn awr, os wyt am faddau eu pechod, maddau; ond os nad wyt, dilea fi o'r llyfr a ysgrifennaist.” 33Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Y sawl a bechodd yn f'erbyn a ddileaf o'm llyfr. 34Yn awr, dos, ac arwain y bobl i'r lle y dywedais wrthyt, a bydd fy angel yn mynd o'th flaen. Ond fe ddaw dydd pan ymwelaf â hwy am eu pechod.” 35Anfonodd yr ARGLWYDD bla ar y bobl am yr hyn a wnaethant â'r llo a luniodd Aaron.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004