No themes applied yet
Gorchymyn i Ymadael â Mynydd Sinai
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos gyda'r bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft, ac ewch i fyny oddi yma i'r wlad y tyngais wrth Abraham, Isaac a Jacob ei rhoi i'th ddisgynyddion. 2Anfonaf angel o'th flaen, a gyrraf allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid. 3Dos i wlad yn llifeirio o laeth a mêl, ond ni fyddaf fi'n mynd i fyny gyda thi, rhag i mi dy ddifa ar y ffordd; oherwydd pobl wargaled ydych.”
4Pan glywodd y bobl y newydd drwg hwn, dechreusant alaru, ac ni wisgodd neb ei dlysau, 5oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pobl wargaled ydych; pe bawn yn mynd i fyny gyda chwi, gallwn eich difa'n ddirybudd. Tyn dy dlysau oddi arnat, ac fe benderfynaf beth i'w wneud â thi.’ ” 6Felly tynnodd pobl Israel eu tlysau ger Mynydd Horeb.
Pabell y Cyfarfod
7Arferai Moses gymryd pabell a'i gosod y tu allan i'r gwersyll, bellter oddi wrtho, ac fe'i galwodd yn babell y cyfarfod. Yr oedd pob un a fyddai'n ceisio'r ARGLWYDD yn mynd at babell y cyfarfod y tu allan i'r gwersyll. 8Pan fyddai Moses yn mynd allan at y babell, byddai'r bobl i gyd yn codi a phob un yn sefyll wrth ddrws ei babell ei hun, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn. 9Pan fyddai Moses yn mynd i mewn i'r babell, byddai colofn o gwmwl yn disgyn ac yn aros wrth y drws, a byddai'r ARGLWYDD yn siarad â Moses. 10Pan welai'r holl bobl y golofn o gwmwl yn aros wrth ddrws y babell, byddai pob un ohonynt yn codi ac yn addoli wrth ddrws ei babell ei hun. 11Byddai'r ARGLWYDD yn siarad â Moses wyneb yn wyneb, fel y bydd rhywun yn siarad â'i gyfaill. Pan ddychwelai Moses i'r gwersyll, ni fyddai ei was ifanc, Josua fab Nun, yn symud o'r babell.
Addewid yr ARGLWYDD i fod gyda'i Bobl
12Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Edrych, yr wyt yn dweud wrthyf am ddod â'r bobl hyn i fyny, ond nid wyt wedi rhoi gwybod i mi pwy yr wyt am ei anfon gyda mi. Dywedaist, ‘Yr wyf yn dy ddewis di, a chefaist ffafr yn fy ngolwg.’ 13Yn awr, os cefais ffafr yn dy olwg, dangos i mi dy ffyrdd, er mwyn i mi dy adnabod ac aros yn dy ffafr; oherwydd dy bobl di yw'r genedl hon.” 14Atebodd yntau, “Byddaf fi fy hun gyda thi, a rhoddaf iti orffwysfa.” 15Dywedodd Moses wrtho, “Os na fyddi di dy hun gyda mi, paid â'n harwain ni ymaith oddi yma. 16Oherwydd sut y bydd neb yn gwybod fy mod i a'th bobl wedi cael ffafr yn dy olwg, os na fyddi'n mynd gyda ni? Dyna sy'n fy ngwneud i a'th bobl yn wahanol i bawb arall ar wyneb y ddaear.” 17Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Fe wnaf yr hyn a ofynnaist, oherwydd cefaist ffafr yn fy ngolwg, ac yr wyf wedi dy ddewis.” 18Meddai Moses, “Dangos i mi dy ogoniant.” 19Dywedodd yntau, “Gwnaf i'm holl ddaioni fynd heibio o'th flaen, a chyhoeddaf fy enw, ARGLWYDD, yn dy glyw; a dangosaf drugaredd a thosturi tuag at y rhai yr wyf am drugarhau a thosturio wrthynt. 20Ond,” meddai, “ni chei weld fy wyneb, oherwydd ni chaiff neb fy ngweld a byw.” 21Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd, “Bydd lle yn fy ymyl; saf ar y graig, 22a phan fydd fy ngogoniant yn mynd heibio, fe'th roddaf mewn hollt yn y graig a'th orchuddio â'm llaw nes imi fynd heibio; 23yna tynnaf ymaith fy llaw, a chei weld fy nghefn, ond ni welir fy wyneb.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004