No themes applied yet
Marw'r Anifeiliaid
1Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos at Pharo a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli. 2Oherwydd os gwrthodi, a pharhau i ddal dy afael ynddynt, 3bydd llaw'r ARGLWYDD yn dwyn pla trwm ar dy anifeiliaid yn y maes, ar y meirch, yr asynnod, y camelod, y gwartheg a'r defaid. 4Ond bydd yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid Israel a rhai'r Eifftiaid, fel na bydd farw dim sy'n eiddo i'r Israeliaid. 5Pennodd yr ARGLWYDD amser arbennig, a dweud, Yfory y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud hyn yn y wlad.’ ” 6A thrannoeth, fe'i gwnaeth; bu farw holl anifeiliaid yr Eifftiaid, ond ni bu farw yr un o anifeiliaid yr Israeliaid. 7Pan anfonodd Pharo, gwelodd nad oedd yr un o anifeiliaid yr Israeliaid wedi marw. Ond yr oedd calon Pharo wedi caledu, ac nid oedd am ryddhau'r bobl.
Cornwydydd
8Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Cymerwch ddyrneidiau o huddygl o ffwrn, a bydded i Moses ei daflu i'r awyr yng ngŵydd Pharo. 9Fe dry'n llwch mân dros holl dir yr Aifft, gan achosi cornwydydd poenus ar ddyn ac anifail trwy holl wlad yr Aifft.” 10Felly cymerasant yr huddygl o'r ffwrn, a sefyll o flaen Pharo, a thaflodd Moses y lludw i'r awyr. Achosodd gornwydydd poenus ar ddyn ac anifail. 11Ni allai'r swynwyr sefyll o flaen Moses o achos y cornwydydd, oherwydd yr oeddent arnynt hwythau yn ogystal â'r Eifftiaid. 12Ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, ac ni wrandawodd ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Cenllysg
13Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cod yn gynnar yn y bore a saf o flaen Pharo, a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli; 14oherwydd y tro hwn yr wyf am anfon fy holl blâu arnat ti ac ar dy weision a'th bobl, er mwyn i chwi wybod nad oes neb tebyg i mi yn yr holl ddaear. 15Erbyn hyn, gallaswn fod wedi estyn allan fy llaw a'th daro di a'th bobl â haint, a'th dorri ymaith oddi ar y ddaear; 16ond gadewais iti fyw er mwyn dangos iti fy nerth a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear. 17Ond yr wyt ti'n dal i wrthsefyll fy mhobl, ac yn gwrthod eu rhyddhau. 18Felly, tua'r adeg yma yfory, byddaf yn peri iddi fwrw cenllysg trwm, na welwyd ei debyg yn yr Aifft o ddydd ei sylfaenu hyd heddiw. 19Anfon rywun ar unwaith i gasglu ynghyd dy anifeiliaid a'r cyfan sydd gennyt yn y maes, oherwydd fe ddisgyn y cenllysg ar bob dyn ac anifail a fydd yn dal allan yn y maes heb ei ddwyn i loches, a byddant farw.’ ” 20Yr oedd y sawl o blith gweision Pharo oedd yn parchu gair yr ARGLWYDD yn brysio i ddod â'i weision a'i anifeiliaid i loches, 21ond gadawodd y sawl oedd yn diystyru gair yr ARGLWYDD ei weision a'i anifeiliaid allan yn y maes.
22Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law tua'r nefoedd, i ddod â chenllysg ar holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac anifail ac ar bopeth sy'n tyfu yn y maes trwy wlad yr Aifft.” 23Estynnodd Moses ei wialen tua'r nefoedd, ac anfonodd yr ARGLWYDD daranau a chenllysg, a mellt yn gwibio i lawr i'r ddaear, a pheri iddi fwrw cenllysg ar dir yr Aifft. 24Yr oedd cenllysg yn disgyn a mellt yn fflachio yn ei ganol; yr oedd y cenllysg yn drymach na dim a welwyd yn holl wlad yr Aifft er pan sylfaenwyd hi yn genedl. 25Trawodd y cenllysg bopeth oedd yn y maes, yn ddyn ac anifail, trwy holl wlad yr Aifft; curodd ar yr holl lysiau a drylliodd bob coeden. 26Yr unig fan lle nad oedd cenllysg oedd gwlad Gosen, lle'r oedd yr Israeliaid.
27Anfonodd Pharo am Moses ac Aaron, a dweud wrthynt, “Yr wyf fi wedi pechu y tro hwn; yr ARGLWYDD sy'n iawn, a minnau a'm pobl ar fai. 28Gweddïwch ar yr ARGLWYDD, oherwydd cawsom ddigon ar y taranau hyn a'r cenllysg; fe'ch rhyddhaf, ac nid oes rhaid i chwi aros yma'n hwy.” 29Dywedodd Moses wrtho, “Pan af allan o'r ddinas, estynnaf fy nwylo at yr ARGLWYDD; bydd diwedd ar y taranau, ac ni bydd rhagor o genllysg, er mwyn iti wybod mai eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear. 30Ond gwn nad wyt ti na'th weision eto yn parchu'r ARGLWYDD Dduw.” 31(Yr oedd y llin a'r haidd wedi eu difetha, oherwydd bod yr haidd wedi hedeg a'r llin wedi hadu. 32Ond ni ddifethwyd y gwenith na'r ceirch, am eu bod yn fwy diweddar yn blaguro.) 33Aeth Moses allan o'r ddinas, o ŵydd Pharo, ac estynnodd ei ddwylo at yr ARGLWYDD; bu diwedd ar y taranau a'r cenllysg, ac ni ddaeth rhagor o law ar y ddaear. 34Ond pan welodd Pharo fod y glaw, y cenllysg a'r taranau wedi peidio, fe bechodd eto, a chaledodd ei galon, ef a'i weision. 35Felly caledwyd calon Pharo, ac ni ryddhaodd yr Israeliaid, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud trwy Moses.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004