No themes applied yet
Neges i'r Henuriaid
1Ar y degfed dydd o'r pumed mis yn y seithfed flwyddyn, daeth rhai o henuriaid Israel i ymofyn â'r ARGLWYDD, ac yr oeddent yn eistedd o'm blaen. 2Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 3“Fab dyn, llefara wrth henuriaid Israel a dywed wrthynt: ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ai i ymofyn â mi y daethoch? Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni adawaf i chwi ymofyn â mi.’ 4A wnei di eu barnu? A wnei eu barnu, fab dyn? Pâr iddynt wybod am ffieidd-dra eu hynafiaid, 5a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn y dydd y dewisais Israel, tyngais wrth ddisgynyddion tylwyth Jacob, a datguddiais fy hun iddynt yng ngwlad yr Aifft; tyngais wrthynt a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.” 6Y diwrnod hwnnw tyngais wrthynt y byddwn yn dod â hwy allan o wlad yr Aifft i'r wlad a geisiais iddynt, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, y decaf o'r holl wledydd. 7Dywedais wrthynt, “Pob un ohonoch, bwriwch ymaith y pethau atgas y mae eich llygaid yn syllu arnynt, a pheidiwch â'ch halogi eich hunain ag eilunod yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”
8“ ‘Ond bu iddynt wrthryfela yn f'erbyn a gwrthod gwrando arnaf; ni wnaeth yr un ohonynt fwrw ymaith y pethau atgas yr oedd eu llygaid yn syllu arnynt, na gadael eilunod yr Aifft. Bwriadwn dywallt fy llid a dod â'm dicter arnynt yng ngwlad yr Aifft; 9eto gweithredais er mwyn fy enw rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd yr oeddent yn eu mysg, a datguddiais fy hun yn eu gŵydd trwy fynd ag Israel allan o wlad yr Aifft. 10Felly euthum â hwy allan o wlad yr Aifft a mynd â hwy i'r anialwch. 11Rhoddais iddynt fy neddfau, a pheri iddynt wybod fy marnau; pwy bynnag a'u gwna, bydd fyw trwyddynt. 12Rhoddais iddynt hefyd fy Sabothau yn arwydd rhyngom, er mwyn iddynt wybod fy mod i, yr ARGLWYDD, yn eu sancteiddio.
13“ ‘Ond gwrthryfelodd tylwyth Israel yn f'erbyn yn yr anialwch. Nid oeddent yn dilyn fy neddfau, ac yr oeddent yn gwrthod fy marnau—er mai'r sawl a'u gwna a fydd byw—ac yn halogi'n llwyr fy Sabothau. Yna bwriadwn dywallt fy llid arnynt yn yr anialwch a'u difetha; 14eto gweithredais er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y deuthum â hwy allan yn eu gŵydd. 15Tyngais wrthynt yn yr anialwch na fyddwn yn dod â hwy i'r wlad a roddais iddynt, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, y decaf o'r holl wledydd, 16oherwydd iddynt wrthod fy marnau a pheidio â chadw fy neddfau, ond halogi fy Sabothau, am fod eu calon yn dilyn eu heilunod. 17Eto edrychais mewn tosturi arnynt, rhag eu dinistrio, ac ni roddais ddiwedd arnynt yn yr anialwch. 18Dywedais wrth eu plant yn yr anialwch, “Peidiwch â dilyn deddfau eich rhieni, na chadw eu barnau, na halogi eich hunain â'u heilunod. 19Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw; dilynwch fy neddfau a gwylio eich bod yn cadw fy marnau. 20Cadwch fy Sabothau'n sanctaidd, iddynt fod yn arwydd rhyngom, a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”
21“ ‘Ond gwrthryfelodd eu plant yn fy erbyn. Nid oeddent yn dilyn fy neddfau, nac yn cadw fy marnau—er mai'r sawl a'u gwna a fydd byw—ac yr oeddent yn halogi fy Sabothau. Yna bwriadwn dywallt fy llid a dod â'm dicter arnynt yn yr anialwch. 22Ond ateliais fy llaw a gweithredais er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y deuthum â hwy allan yn eu gŵydd. 23Tyngais wrthynt yn yr anialwch y byddwn yn eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd, 24oherwydd iddynt beidio â gwneud fy marnau, ond gwrthod fy neddfau, halogi fy Sabothau, a throi eu llygaid at eilunod eu hynafiaid. 25Yn wir, rhoddais iddynt ddeddfau heb fod yn dda, a barnau na allent fyw wrthynt; 26gwneuthum iddynt eu halogi eu hunain â'u rhoddion trwy aberthu pob cyntafanedig, er mwyn imi eu brawychu, ac er mwyn iddynt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’
27“Felly, fab dyn, llefara wrth dŷ Israel a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn hyn hefyd y bu i'ch hynafiaid fy nghablu a bod yn anffyddlon imi. 28Pan ddeuthum â hwy i'r wlad yr oeddwn wedi tyngu y byddwn yn ei rhoi iddynt, a hwythau'n gweld bryn uchel neu bren deiliog, fe offryment aberthau yno a chyflwyno rhoddion a'm digiai; rhoddent yno eu harogldarth peraidd, a thywallt eu diodoffrwm. 29Yna dywedais wrthynt, “Beth yw'r uchelfa hon yr ewch iddi?” A gelwir hi yn Bama20:29 H.y., Uchelfa. hyd y dydd hwn.’
30“Am hynny, dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: A ydych yn eich halogi eich hunain fel y gwnaeth eich hynafiaid, a phuteinio gyda'u heilunod atgas? 31Pan gyflwynwch eich rhoddion, a gwneud i'ch plant fynd trwy'r tân, yr ydych yn eich halogi eich hunain â'ch holl eilunod hyd heddiw. Sut y gadawaf i chwi ymofyn â mi, dŷ Israel? Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni adawaf i chwi ymofyn â mi.
Carthu'r Gwrthryfelwyr
32“ ‘Yr ydych yn dweud, “Byddwn fel y cenhedloedd, fel pobloedd y gwledydd, yn addoli pren a charreg”; ond yn sicr ni ddigwydd yr hyn sydd yn eich meddwl. 33Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, llywodraethaf drosoch â llaw gref, â braich estynedig ac â llid tywalltedig. 34Dof â chwi o blith y cenhedloedd, a'ch casglu o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, â llaw gref, â braich estynedig ac â llid tywalltedig. 35Dof â chwi i anialwch y cenhedloedd a'ch barnu yno wyneb yn wyneb. 36Fel y bernais eich hynafiaid yn anialwch gwlad yr Aifft, felly y barnaf chwithau, medd yr Arglwydd DDUW. 37Gwnaf i chwi fynd heibio dan y wialen, a'ch dwyn i rwymyn y cyfamod. 38Fe garthaf o'ch plith y rhai sy'n gwrthryfela ac yn codi yn f'erbyn; er imi ddod â hwy o'r wlad lle maent yn aros, eto nid ânt i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’
39“A chwithau, dŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Aed pob un ohonoch i addoli ei eilunod. Yna byddwch yn siŵr o wrando arnaf fi, ac ni fyddwch yn halogi fy enw sanctaidd â'ch rhoddion ac â'ch eilunod. 40Oherwydd ar fy mynydd sanctaidd, ar fynydd uchel Israel, medd yr Arglwydd DDUW, y bydd holl dŷ Israel, a phob un sydd yn y wlad, yn fy addoli, ac yno y derbyniaf hwy. Yno y ceisiaf eich aberthau a'ch offrymau gorau, ynghyd â'ch holl aberthau sanctaidd. 41Fe'ch derbyniaf chwi fel arogldarth peraidd, pan ddof â chwi allan o blith y cenhedloedd, a'ch casglu o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, a sancteiddiaf fy hun ynoch chwi yng ngŵydd y cenhedloedd. 42Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan ddof â chwi i dir Israel, y wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid. 43Yno byddwch yn cofio eich ffyrdd, a'r holl bethau a wnaethoch i'ch halogi eich hunain, a byddwch yn eich casáu eich hunain am yr holl ddrygioni a wnaethoch. 44Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn ymwneud â chwi er mwyn fy enw, ac nid yn ôl eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd llygredig, O dŷ Israel, medd yr Arglwydd DDUW.”
Tân yng Nghoedwig y De
4520:45 Hebraeg, 21:1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 46“Fab dyn, tro dy wyneb i gyfeiriad Teman, a llefara i gyfeiriad y Negef; proffwyda yn erbyn tir coediog y Negef. 47Dywed wrth goedwig y de, ‘Gwrando air yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma fi'n cynnau tân ynot, ac fe ysir dy holl goed, yr ir a'r crin fel ei gilydd. Ni ddiffoddir y fflam danllyd, ond fe losgir ganddi bob wyneb o'r de i'r gogledd. 48Bydd pawb yn gweld mai myfi'r ARGLWYDD a fu'n ei chynnau, ac nis diffoddir.’ ” 49A dywedais, “Och! Fy Arglwydd DDUW, y maent yn dweud amdanaf, ‘Onid llefaru damhegion y mae?’ ”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004