No themes applied yet
Proffwydo yn erbyn Brenin Tyrus
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, dywed wrth lywodraethwr Tyrus, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
Ym malchder dy galon fe ddywedaist,
“Yr wyf yn dduw,
ac yn eistedd ar orsedd y duwiau
yng nghanol y môr.”
Ond dyn wyt, ac nid duw,
er iti dybio dy fod fel duw—
3yn ddoethach yn wir na Daniel,
heb yr un gyfrinach yn guddiedig oddi wrthyt.
4Trwy dy ddoethineb a'th ddeall enillaist iti gyfoeth,
a chael aur ac arian i'th ystordai.
5Trwy dy fedr mewn masnach cynyddaist dy gyfoeth,
ac aeth dy galon i ymfalchïo ynddo.’
6“Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
‘Oherwydd iti dybio dy fod fel duw,
7fe ddygaf estroniaid yn dy erbyn,
y fwyaf didostur o'r cenhedloedd;
tynnant eu cleddyfau yn erbyn gwychder dy ddoethineb,
a thrywanu d'ogoniant.
8Bwriant di i lawr i'r pwll,
a byddi farw o'th glwyfau
yn nyfnderoedd y môr.
9A ddywedi, “Duw wyf fi,”
yng ngŵydd y rhai sy'n dy ladd?
Dyn wyt, ac nid duw,
yn nwylo'r rhai sy'n dy drywanu.
10Byddi'n profi marwolaeth y dienwaededig
trwy ddwylo estroniaid.
Myfi a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”
11Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 12“Fab dyn, cod alarnad am frenin Tyrus a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
Yr oeddit yn esiampl o berffeithrwydd,
yn llawn doethineb, a pherffaith dy brydferthwch.
13Yr oeddit yn Eden, gardd Duw,
a phob carreg werthfawr yn d'addurno—
rhuddem, topas ac emrallt,
eurfaen, onyx a iasbis,
saffir, glasfaen a beryl,
ac yr oedd dy fframiau a'th gerfiadau i gyd yn aur;
ar ddydd dy eni y paratowyd hwy.
14Fe'th osodais gyda cherwb gwarcheidiol wedi ei eneinio;
yr oeddit ar fynydd sanctaidd Duw,
ac yn cerdded ymysg y cerrig tanllyd.
15Yr oeddit yn berffaith yn dy ffyrdd o ddydd dy eni,
nes darganfod drygioni ynot.
16Fel yr amlhaodd dy fasnach fe'th lanwyd â thrais,
ac fe bechaist.
Felly fe'th fwriais allan fel peth aflan o fynydd Duw,
ac esgymunodd y cerwb gwarcheidiol di
o fysg y cerrig tanllyd.
17Ymfalchïodd dy galon yn dy brydferthwch,
a halogaist dy ddoethineb er mwyn d'ogoniant;
lluchiais di i'r llawr,
a'th adael i'r brenhinoedd edrych arnat.
18Trwy dy droseddau aml, ac anghyfiawnder dy fasnach,
fe halogaist dy gysegrleoedd;
felly gwneuthum i dân ddod allan ohonot a'th ysu,
a'th wneud yn lludw ar y ddaear yng ngŵydd pawb oedd yn edrych.
19Y mae pob un ymhlith y bobloedd sy'n d'adnabod wedi ei syfrdanu;
aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.’ ”
Proffwydo yn erbyn Sidon
20Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 21“Fab dyn, tro dy wyneb tua Sidon a phroffwyda yn ei herbyn, 22a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
Yr wyf yn dy erbyn, O Sidon,
ac amlygaf fy ngogoniant yn dy ganol.
Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,
pan weithredaf fy nghosb arni
ac amlygu fy sancteiddrwydd ynddi.
23Anfonaf bla iddi, a thywallt gwaed ar ei heolydd;
syrth y lladdedigion o'i mewn o achos y cleddyf sydd o'i hamgylch.
Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’
24“Ni fydd gan dŷ Israel mwyach fieri i'w pigo na drain i'w poeni ymysg yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.
25“Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Pan gasglaf dŷ Israel o fysg y bobloedd lle gwasgarwyd hwy, ac amlygu fy sancteiddrwydd ynddynt yng ngŵydd y cenhedloedd, cânt fyw yn eu tir eu hunain, a roddais i'm gwas Jacob. 26Byddant yn byw'n ddiogel yno, yn codi tai ac yn plannu gwinllannoedd; byddant yn byw'n ddiogel pan fyddaf fi'n gweithredu barn ar yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.’ ”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004