No themes applied yet
Bendith i Israel
1“Fab dyn, proffwyda wrth fynyddoedd Israel a dywed, ‘O fynyddoedd Israel, clywch air yr ARGLWYDD. 2Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i'r gelyn ddweud amdanoch, “Aha! Daeth yr hen uchelfeydd yn eiddo i ni!” 3felly proffwyda a dywed: Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iddynt eich gwneud yn ddiffeithwch ac yn anrhaith o bob tu, nes ichwi fynd yn eiddo i weddill y cenhedloedd, yn destun siarad ac yn enllib i'r bobl, 4felly, O fynyddoedd Israel, clywch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd, wrth yr adfeilion diffaith a'r dinasoedd anghyfannedd, sydd wedi mynd yn ysglyfaeth ac yn wawd i weddill y cenhedloedd o amgylch; 5felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Lleferais yn fy sêl ysol yn erbyn gweddill y cenhedloedd, ac yn erbyn y cyfan o Edom, oherwydd iddynt, â llawenydd yn eu calon a malais yn eu hysbryd, wneud fy nhir yn eiddo iddynt eu hunain a gwneud ei borfa yn anrhaith.’ 6Felly, proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi'n llefaru yn fy eiddigedd a'm llid, oherwydd ichwi ddioddef dirmyg y cenhedloedd. 7Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn tyngu y bydd y cenhedloedd o'ch amgylch yn dioddef dirmyg.
8“ ‘Ond byddwch chwi, fynyddoedd Israel, yn tyfu canghennau ac yn cynhyrchu ffrwyth i'm pobl Israel, oherwydd fe ddônt adref ar fyrder. 9Wele, yr wyf fi o'ch tu ac yn troi'n ôl atoch; cewch eich aredig a'ch hau, 10a byddaf yn lluosogi pobl arnoch, sef tŷ Israel i gyd. Fe gyfanheddir y dinasoedd ac fe adeiledir yr adfeilion. 11Byddaf yn lluosogi pobl ac anifeiliaid arnoch, a byddant yn lluosogi ac yn ffrwythloni; byddaf yn peri i rai fyw arnoch fel o'r blaen, a gwnaf fwy o ddaioni i chwi na chynt. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD. 12Gwnaf i bobl, fy mhobl Israel, gerdded arnoch; byddant yn eich meddiannu, a byddwch yn etifeddiaeth iddynt, ac ni fyddwch byth eto'n eu gwneud yn amddifad. 13Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd bod pobl yn dweud wrthych, “Yr ydych yn difa pobl ac yn amddifadu eich cenedl o blant”, 14felly, ni fyddwch eto'n difa pobl nac yn gwneud eich cenedl yn amddifad, medd yr Arglwydd DDUW. 15Ni pharaf ichwi eto glywed dirmyg y cenhedloedd, na dioddef gwawd y bobloedd, na gwneud i'ch cenedl gwympo, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”
16Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 17“Fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, yr oeddent yn ei halogi trwy eu ffyrdd a'u gweithredoedd; yr oedd eu ffyrdd i mi fel halogrwydd misol gwraig. 18Felly tywelltais fy llid arnynt, oherwydd iddynt dywallt gwaed ar y tir a'i halogi â'u heilunod. 19Gwasgerais hwy ymhlith y cenhedloedd nes eu bod ar chwâl trwy'r gwledydd; fe'u bernais yn ôl eu ffyrdd a'u gweithredoedd. 20I ble bynnag yr aethant ymysg y cenhedloedd, yr oeddent yn halogi fy enw sanctaidd; oherwydd fe ddywedwyd amdanynt, ‘Pobl yr ARGLWYDD yw'r rhain, ond eto fe'u gyrrwyd allan o'i wlad.’ 21Ond yr wyf yn gofalu am fy enw sanctaidd, a halogwyd gan dŷ Israel pan aethant allan i blith y cenhedloedd.
22“Felly dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid er dy fwyn di, dŷ Israel, yr wyf yn gweithredu, ond er mwyn fy enw sanctaidd, a halogaist pan aethost allan i blith y cenhedloedd. 23Amlygaf sancteiddrwydd fy enw mawr, a halogwyd gennyt ti ymysg y cenhedloedd. Yna bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, medd yr Arglwydd DDUW, pan fyddaf trwoch chwi yn amlygu fy sancteiddrwydd yn eu gŵydd. 24Oherwydd byddaf yn eich cymryd o blith y cenhedloedd, yn eich casglu o'r holl wledydd, ac yn dod â chwi i'ch gwlad eich hunain. 25Taenellaf ddŵr glân drosoch i'ch glanhau; a byddwch yn lân o'ch holl aflendid ac o'ch holl eilunod. 26Rhof i chwi galon newydd, a bydd ysbryd newydd ynoch; tynnaf allan ohonoch y galon garreg, a rhof i chwi galon gig. 27Rhof fy ysbryd ynoch, a gwneud ichwi ddilyn fy neddfau a gofalu cadw fy ngorchmynion. 28Byddwch yn byw yn y tir a roddais i'ch hynafiaid; byddwch yn bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi. 29Gwaredaf chwi o'ch holl aflendid; byddaf yn galw am y grawn ac yn gwneud digon ohono, ac ni fyddaf yn dwyn newyn arnoch. 30Byddaf yn cynyddu ffrwythau'r coed a chnydau'r maes, rhag ichwi byth eto ddioddef dirmyg newyn ymysg y cenhedloedd. 31Yna byddwch yn cofio eich ffyrdd drygionus a'r gweithredoedd drwg, a byddwch yn eich casáu eich hunain am eich camweddau a'ch ffieidd-dra. 32Bydded wybyddus i chwi nad er eich mwyn chwi yr wyf yn gweithredu, medd yr Arglwydd DDUW. Bydded cywilydd a gwarth arnoch am eich ffyrdd, dŷ Israel!
33“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ar y dydd y glanhaf chwi o'ch holl gamweddau, fe gyfanheddir y dinasoedd ac fe adeiledir yr adfeilion. 34Caiff y wlad oedd yn ddiffaith ei thrin, rhag iddi fod yn ddiffaith yng ngolwg pawb sy'n mynd heibio. 35Fe ddywedant, “Aeth y wlad hon, a fu'n ddiffaith, fel gardd Eden, ac y mae'r dinasoedd a fu'n adfeilion, ac yn ddiffeithwch anial, wedi eu cyfanheddu a'u hamddiffyn.” 36Yna, bydd y cenhedloedd a adawyd o'ch amgylch yn gwybod i mi, yr ARGLWYDD, ailadeiladu'r hyn a ddinistriwyd ac ailblannu'r hyn oedd yn ddiffaith. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd, ac fe'i gwnaf.
37“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf eto'n gwrando ar gais tŷ Israel ac yn gwneud hyn iddynt: byddaf yn amlhau eu pobl fel praidd. 38Mor lluosog â phraidd yr offrwm, mor lluosog â phraidd Jerwsalem ar ei gwyliau penodedig, felly y llenwir y dinasoedd a fu'n adfeilion â phraidd o bobl. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004