No themes applied yet
1Yna aeth â mi i mewn i'r deml a mesur y pileri; yr oedd y pileri bob ochr yn chwe chufydd o drwch41:1 Felly Groeg ac un llawysgrif. TM yn ychwanegu lled y babell.. 2Yr oedd y mynediad yn ddeg cufydd o led, a muriau'r mynediad bob ochr yn bum cufydd o drwch. Mesurodd hefyd hyd y deml; yr oedd yn ddeugain cufydd, a'i lled yn ugain cufydd. 3Yna aeth i'r cysegr nesaf i mewn a mesur pileri'r mynediad, ac yr oeddent yn ddau gufydd o drwch; yr oedd y mynediad yn chwe chufydd o led, a muriau'r41:3 Felly Groeg. Hebraeg heb muriau. mynediad yn saith cufydd o drwch. 4Mesurodd hefyd hyd y cysegr nesaf i mewn; yr oedd yn ugain cufydd, a'i led yn ugain cufydd ar draws y cysegr. Dywedodd wrthyf, “Dyma'r cysegr sancteiddiaf.”
5Yna mesurodd fur y deml; yr oedd yn chwe chufydd o drwch, ac yr oedd pob ystafell o amgylch y deml yn bedwar cufydd o led. 6Yr oedd yr ystafelloedd ar dri uchder, y naill ar ben y llall, a deg ar hugain ym mhob uchder. Yr oedd bwtresi41:6 Tebygol. Cymh. 1 Bren. 6:6. Hebraeg yn aneglur. o amgylch mur y deml i gynnal yr ystafelloedd, fel nad oeddent yn cael eu cynnal gan fur y deml. 7Yr oedd yr ystafelloedd o amgylch y deml yn lletach wrth godi o'r naill uchder i'r llall. Yr oedd yr adeiladwaith o amgylch y deml yn codi mewn esgynfeydd, fel bod yr ystafelloedd yn lletach wrth esgyn; ac yr oedd grisiau'n arwain o'r llawr isaf i'r llawr uchaf trwy'r llawr canol. 8Gwelais fod o amgylch y deml balmant yn sylfaen i'r ystafelloedd, a'i led yr un maint â ffon fesur, sef chwe chufydd o hyd. 9Pum cufydd oedd trwch mur nesaf allan yr ystafelloedd, ac yr oedd y lle agored rhwng ystafelloedd y deml 10ac ystafelloedd yr offeiriaid yn ugain cufydd o led o amgylch y deml. 11Yr oedd dau fynediad o'r lle agored i'r ystafelloedd ochr, y naill yn y gogledd a'r llall yn y de; ac yr oedd lled y lle agored yn bum cufydd oddi amgylch.
12Yr oedd yr adeilad a wynebai gwrt y deml ar ochr y gorllewin yn ddeg cufydd a thrigain o led, a mur yr adeilad yn bum cufydd o drwch oddi amgylch, a hyd yr adeilad yn ddeg cufydd a phedwar ugain.
13Yna mesurodd y deml; yr oedd yn gan cufydd o hyd, ac yr oedd y cwrt a'r adeilad gyda'i furiau hefyd yn gan cufydd o hyd. 14Yr oedd lled wyneb y deml a'r cwrt ar ochr y dwyrain yn gan cufydd. 15Yna mesurodd hyd yr adeilad a wynebai'r cwrt yng nghefn y deml, gyda'i orielau bob ochr, ac yr oedd yn gan cufydd.
Yr oedd y deml, y cysegr nesaf i mewn a'r cyntedd yn wynebu'r cwrt, 16yn ogystal â'r rhiniogau, y ffenestri bychain a'r orielau o amgylch y tri ohonynt, sef y cyfan o'r rhiniog ymlaen, wedi eu byrddio â choed; yr oedd y muriau o'r llawr at y ffenestri41:16 Hebraeg yn ychwanegu a'r ffenestri. wedi eu byrddio. 17Yn y lle uwchben y mynediad i'r cysegr nesaf i mewn, ar y tu allan, a hefyd ar y muriau o amgylch y cysegr mewnol a'r cysegr allanol, 18yr oedd cerfiadau ar ffurf cerwbiaid a choed palmwydd, sef palmwydd a cherwbiaid bob yn ail. Yr oedd dau wyneb gan bob cerwb, 19wyneb dyn at y balmwydden ar un ochr, a wyneb llew at y balmwydden ar yr ochr arall. Yr oeddent wedi eu cerfio o amgylch yr holl deml. 20O'r llawr at y lle uwchben y drws, yr oedd cerwbiaid a phalmwydd wedi eu cerfio ar fur y deml.
21Yr oedd pyst drws y deml yn sgwâr; ac o flaen y cysegr sancteiddiaf yr oedd rhywbeth tebyg 22i allor o goed, tri chufydd o uchder a dau gufydd o hyd; yr oedd ei chornelau, ei sylfaen41:22 Felly Groeg. Hebraeg, ei huchder. a'i hochrau o goed. Dywedodd y dyn wrthyf, “Dyma'r bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD.” 23Yr oedd drysau dwbl i'r deml ac i'r cysegr sancteiddiaf; 24yr oedd dwy ddalen i bob drws, a'r ddwy wedi eu bachu wrth ei gilydd. 25Ar ddrysau'r deml yr oedd cerfiadau o gerwbiaid ac o balmwydd, fel ar y muriau, ac yr oedd cornis pren ar flaen y cyntedd o'r tu allan. 26Ym muriau'r cyntedd yr oedd ffenestri bychain, a phalmwydd wedi eu cerfio bob ochr. Yr oedd cornis hefyd ar bob un o ystafelloedd ochr y deml.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004