No themes applied yet
Cyfarch
1Paul, apostol—nid o benodiad dynol, na chwaith trwy awdurdod neb dynol, ond trwy awdurdod Iesu Grist a Duw Dad, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw—Paul, 2a'r credinwyr oll sydd gyda mi, at eglwysi Galatia. 3Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist, 4yr hwn a'i rhoes ei hun dros ein pechodau ni, i'n gwaredu ni o'r oes ddrwg bresennol, yn ôl ewyllys Duw ein Tad, 5i'r hwn y bo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
Nid Oes Efengyl Arall
6Yr wyf yn synnu eich bod yn cefnu mor fuan ar yr hwn a'ch galwodd chwi trwy ras Crist, ac yn troi at efengyl wahanol. 7Nid ei bod yn efengyl arall mewn gwirionedd, ond bod rhywrai, yn eu hawydd i wyrdroi Efengyl Crist, yn aflonyddu arnoch. 8Ond petai rhywun, ni ein hunain hyd yn oed, neu angel o'r nef, yn pregethu i chwi efengyl sy'n groes i'r Efengyl a bregethasom ichwi, melltith arno! 9Fel yr ydym wedi dweud o'r blaen, felly yr wyf yn dweud eto yn awr: os oes rhywun yn pregethu efengyl i chwi sy'n groes i'r Efengyl a dderbyniasoch, melltith arno!
10Pwy yr wyf am ei gael o'm plaid yn awr, ai dynion, ai Duw? Ai ceisio plesio dynion yr wyf? Pe bawn â'm bryd o hyd ar blesio dynion, nid gwas i Grist fyddwn.
Paul yn Dod yn Apostol
11Yr wyf am roi ar ddeall i chwi, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad rhywbeth dynol mohoni. 12Oherwydd nid ei derbyn fel traddodiad dynol a wneuthum, na chael fy nysgu ynddi chwaith; trwy ddatguddiad Iesu Grist y cefais hi.
13Oherwydd fe glywsoch am fy ymarweddiad gynt yn y grefydd Iddewig, imi fod yn erlid eglwys Dduw i'r eithaf ac yn ceisio'i difrodi hi, 14ac imi gael y blaen, fel crefyddwr Iddewig, ar gyfoedion lawer yn fy nghenedl, gan gymaint mwy fy sêl dros draddodiadau fy hynafiaid. 15Ond dyma Dduw, a'm neilltuodd o groth fy mam ac a'm galwodd trwy ei ras, yn dewis 16datguddio ei Fab ynof fi, er mwyn i mi ei bregethu ymhlith y Cenhedloedd; ac ar unwaith, heb ymgynghori â neb dynol, 17a heb fynd i fyny i Jerwsalem chwaith at y rhai oedd yn apostolion o'm blaen i, euthum i ffwrdd i Arabia, ac yna dychwelyd i Ddamascus.
18Wedyn, ar ôl tair blynedd, mi euthum i fyny i Jerwsalem i ymgydnabyddu â Ceffas, ac arhosais gydag ef am bythefnos. 19Ni welais neb arall o'r apostolion, ar wahân i Iago, brawd yr Arglwydd. 20Gerbron Duw, nid celwydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch. 21Wedyn euthum i diriogaethau Syria a Cilicia. 22Nid oedd gan y cynulleidfaoedd sydd yng Nghrist yn Jwdea ddim adnabyddiaeth bersonol ohonof, 23dim ond eu bod yn clywed rhai'n dweud, “Y mae ein herlidiwr gynt yn awr yn pregethu'r ffydd yr oedd yn ceisio'i difrodi o'r blaen.” 24Ac yr oeddent yn gogoneddu Duw o'm hachos i.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004