No themes applied yet
Sicrhau Gwraig i Isaac
1Yr oedd Abraham yn hen ac oedrannus, ac yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei fendithio ef ym mhob dim. 2Yna dywedodd Abraham wrth y gwas hynaf yn ei dŷ, yr un oedd yn gofalu am ei holl eiddo, “Gosod dy law dan fy nghlun, 3a pharaf iti dyngu i'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na chymeri wraig i'm mab o ferched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu plith, 4ond yr ei i'm gwlad ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab Isaac.” 5Dywedodd y gwas wrtho, “Efallai na fydd y wraig am ddod ar fy ôl i'r wlad hon; a fydd raid i mi fynd â'th fab yn ôl i'r wlad y daethost allan ohoni?” 6Dywedodd Abraham wrtho, “Gofala nad ei â'm mab yn ôl yno. 7Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, yr un a'm cymerodd o dŷ fy nhad ac o wlad fy ngeni, ac a lefarodd a thyngu wrthyf, a dweud, ‘Rhof y wlad hon i'th ddisgynyddion’, bydd ef yn anfon ei angel o'th flaen, ac fe gymeri wraig i'm mab oddi yno. 8Os na fydd y wraig am ddod ar dy ôl, yna byddi'n rhydd oddi wrth y llw hwn; ond paid â mynd â'm mab yn ôl yno.” 9Felly gosododd y gwas ei law dan glun ei feistr Abraham, a thyngu iddo am y mater hwn.
10Yna cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr, a mynd ymaith a holl anrhegion ei feistr dan ei ofal, ac aeth i Aram-naharaim, i ddinas Nachor. 11Parodd i'r camelod orwedd y tu allan i'r ddinas, wrth y pydew dŵr, gyda'r hwyr, sef yr amser y byddai'r merched yn dod i godi dŵr. 12A dywedodd, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, rho lwyddiant i mi heddiw, a gwna garedigrwydd â'm meistr Abraham. 13Dyma fi'n sefyll wrth y ffynnon ddŵr, a merched y ddinas yn dod i godi dŵr. 14Y ferch y dywedaf wrthi, ‘Gostwng dy stên, er mwyn i mi gael yfed’, a hithau'n ateb, ‘Yf, ac mi rof ddiod i'th gamelod hefyd’, bydded mai honno fydd yr un a ddarperaist i'th was Isaac. Wrth hyn y caf wybod iti wneud caredigrwydd â'm meistr.” 15Cyn iddo orffen siarad, dyma Rebeca, a anwyd i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham, yn dod allan â'i stên ar ei hysgwydd. 16Yr oedd y ferch yn hardd odiaeth, yn wyryf, heb orwedd gyda gŵr. Aeth i lawr at y ffynnon, llanwodd ei stên, a daeth i fyny. 17Rhedodd y gwas i'w chyfarfod, a dweud, “Gad imi yfed ychydig ddŵr o'th stên.” 18Dywedodd hithau, “Yf, f'arglwydd,” a brysio i ostwng ei stên ar ei llaw, a rhoi diod iddo. 19Pan orffennodd roi diod iddo, dywedodd hi, “Codaf ddŵr i'th gamelod hefyd, nes iddynt gael digon.” 20Brysiodd i dywallt ei stên i'r cafn, a rhedeg eilwaith i'r ffynnon, a chodi dŵr i'w holl gamelod. 21Syllodd y gŵr arni, heb ddweud dim, i wybod a oedd yr ARGLWYDD wedi llwyddo'i daith ai peidio.
22Pan orffennodd y camelod yfed, cymerodd y gŵr fodrwy aur yn pwyso hanner sicl, a dwy freichled yn pwyso deg sicl o aur i'w garddyrnau, 23ac meddai, “Dywed wrthyf, merch pwy wyt ti? A oes lle i ni aros noson yn nhŷ dy dad?” 24Dywedodd hithau wrtho, “Merch Bethuel fab Milca a Nachor.” 25Ac ychwanegodd, “Y mae gennym ddigon o wellt a phorthiant, a lle i letya.” 26Ymgrymodd y gŵr i addoli'r ARGLWYDD, 27a dweud, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am nad ataliodd ei garedigrwydd a'i ffyddlondeb oddi wrth fy meistr. Arweiniodd yr ARGLWYDD fi ar fy nhaith i dŷ brodyr fy meistr.”
28Rhedodd y ferch a mynegi'r pethau hyn i dylwyth ei mam. 29Ac yr oedd gan Rebeca frawd o'r enw Laban, a rhedodd ef allan at y gŵr wrth y ffynnon. 30Pan welodd y fodrwy, a'r breichledau ar arddyrnau ei chwaer, a chlywed geiriau ei chwaer Rebeca am yr hyn a ddywedodd y gŵr wrthi, aeth at y gŵr oedd yn sefyll gyda'r camelod wrth y ffynnon. 31Dywedodd, “Tyrd i'r tŷ, fendigedig yr ARGLWYDD; pam yr wyt yn sefyll y tu allan, a minnau wedi paratoi'r tŷ, a lle i'r camelod?” 32Pan ddaeth y gŵr at y tŷ, gollyngodd Laban y camelod, ac estyn gwellt a phorthiant iddynt, a rhoi dŵr i'r gŵr a'r dynion oedd gydag ef i olchi eu traed. 33Pan osodwyd bwyd o'i flaen, dywedodd y gŵr, “Nid wyf am fwyta nes imi ddweud fy neges.” Ac meddai Laban, “Traetha.”
34Dywedodd, “Gwas Abraham wyf fi. 35Y mae'r ARGLWYDD wedi bendithio fy meistr yn helaeth, ac y mae yntau wedi llwyddo; y mae wedi rhoi iddo ddefaid ac ychen, arian ac aur, gweision a morynion, camelod ac asynnod. 36Ac y mae Sara gwraig fy meistr wedi geni mab iddo yn ei henaint; ac y mae fy meistr wedi rhoi ei holl eiddo i hwnnw. 37Parodd fy meistr i mi fynd ar fy llw, a dywedodd, ‘Paid â chymryd gwraig i'm mab o blith merched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu gwlad; 38ond dos i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab.’ 39Dywedais wrth fy meistr, ‘Efallai na ddaw'r wraig ar fy ôl.’ 40Ond dywedodd yntau wrthyf, ‘Bydd yr ARGLWYDD, yr wyf yn rhodio ger ei fron, yn anfon ei angel gyda thi ac yn llwyddo dy daith. Os cymeri wraig i'm mab o'm tylwyth ac o dŷ fy nhad, 41yna byddi'n rhydd oddi wrth fy llw; os doi at fy nhylwyth, a hwythau'n gwrthod ei rhoi iti, byddi hefyd yn rhydd oddi wrth fy llw.’ 42Pan ddeuthum heddiw at y ffynnon, dywedais, ‘O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, os wyt am lwyddo fy nhaith yn awr, 43tra wyf yn sefyll wrth y ffynnon ddŵr, bydded mai'r ferch ifanc a ddaw allan i godi dŵr ac yna, pan ddywedaf wrthi, “Rho i mi ychydig ddŵr i'w yfed o'th stên”, 44fydd yn ateb, “Yf, a chodaf ddŵr i'th gamelod hefyd”, bydded mai honno fydd y wraig y mae'r ARGLWYDD wedi ei darparu i fab fy meistr.’ 45Cyn i mi orffen gwneud fy nghais, dyma Rebeca yn dod allan â'i stên ar ei hysgwydd; aeth i lawr at y ffynnon a chodi dŵr. Dywedais wrthi, ‘Gad imi yfed.’ 46Brysiodd hithau i ostwng ei stên oddi ar ei hysgwydd, a dywedodd, ‘Yf, a rhof ddiod i'th gamelod hefyd.’ Yfais, a rhoes hithau ddiod i'r camelod. 47Yna gofynnais iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ Ac meddai hithau, ‘Merch Bethuel fab Nachor a Milca.’ Yna gosodais y fodrwy yn ei thrwyn, a'r breichledau am ei garddyrnau. 48Ymgrymais i addoli'r ARGLWYDD, a bendithiais yr ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, a arweiniodd fi yn y ffordd iawn i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab. 49Yn awr, os ydych am wneud caredigrwydd a ffyddlondeb i'm meistr, dywedwch wrthyf; ac onid e, dywedwch wrthyf, fel y gallaf droi ar y llaw dde neu'r chwith.”
50Yna atebodd Laban a Bethuel, a dweud, “Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth hyn; ni allwn ni ddweud dim wrthyt, na drwg na da. 51Dyma Rebeca o'th flaen; cymer hi a dos. A bydded yn wraig i fab dy feistr, fel y dywedodd yr ARGLWYDD.”
52Pan glywodd gwas Abraham eu geiriau, ymgrymodd i'r llawr gerbron yr ARGLWYDD, 53ac estynnodd dlysau o arian ac aur, a gwisgoedd, a'u rhoi i Rebeca; rhoddodd hefyd anrhegion gwerthfawr i'w brawd ac i'w mam. 54A bwytaodd ac yfodd, ef a'r dynion oedd gydag ef, ac aros yno noson. Pan godasant yn y bore, dywedodd, “Gadewch imi fynd at fy meistr.” 55Ac meddai ei brawd a'i mam, “Gad i'r ferch aros gyda ni am o leiaf ddeg diwrnod; wedi hynny caiff fynd.” 56Ond dywedodd ef wrthynt, “Peidiwch â'm rhwystro, gan i'r ARGLWYDD lwyddo fy nhaith; gadewch imi fynd at fy meistr.” 57Yna dywedasant, “Galwn ar y ferch, a gofynnwn iddi hi.” 58A galwasant ar Rebeca, a dweud wrthi, “A ei di gyda'r gŵr hwn?” Atebodd hithau, “Af.” 59Felly gollyngasant eu chwaer Rebeca a'i mamaeth, a gwas Abraham a'i ddynion, 60a bendithio Rebeca, a dweud wrthi,
“Tydi, ein chwaer, boed iti fynd
yn filoedd o fyrddiynau,
a bydded i'th ddisgynyddion
etifeddu porth eu gelynion.”
61Yna cododd Rebeca a'i morynion, a marchogaeth ar y camelod gan ddilyn y gŵr; felly cymerodd y gwas Rebeca a mynd ymaith.
62Yr oedd Isaac wedi dod o Beer-lahai-roi ac yn byw yn ardal y Negef. 63Pan oedd Isaac allan yn myfyrio yn y maes fin nos, cododd ei olygon i edrych, a gwelodd gamelod yn dod. 64Cododd Rebeca hefyd ei golygon, a phan welodd Isaac, disgynnodd oddi ar y camel, 65a gofyn i'r gwas, “Pwy yw'r gŵr acw sy'n cerdded yn y maes tuag atom?” Atebodd y gwas, “Dyna fy meistr.” Cymerodd hithau orchudd a'i wisgo. 66Ac adroddodd y gwas wrth Isaac am bopeth yr oedd wedi ei wneud. 67Yna daeth Isaac â Rebeca i mewn i babell ei fam Sara, a'i chymryd yn wraig iddo. Carodd Isaac Rebeca, ac felly cafodd gysur ar ôl marw ei fam.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004