No themes applied yet
1Aeth Jacob i'w daith, a chyfarfu angylion Duw ag ef; 2a phan welodd hwy, dywedodd Jacob, “Dyma wersyll Duw.” Felly enwodd y lle hwnnw Mahanaim.
Jacob yn Paratoi i Gyfarfod ag Esau
3Yna anfonodd Jacob negeswyr o'i flaen at ei frawd Esau i wlad Seir yn nhir Edom, 4a gorchymyn iddynt, “Dywedwch fel hyn wrth f'arglwydd Esau: ‘Fel hyn y mae dy was Jacob yn dweud: Bûm yn aros gyda Laban, ac yno y bûm hyd yn awr; 5y mae gennyf ychen, asynnod, defaid, gweision a morynion, ac anfonais i fynegi i'm harglwydd, er mwyn imi gael ffafr yn dy olwg.’ ” 6Dychwelodd y negeswyr at Jacob a dweud, “Daethom at dy frawd Esau, ac y mae ef yn dod i'th gyfarfod gyda phedwar cant o ddynion.” 7Yna daeth ofn mawr ar Jacob, ac yr oedd mewn cyfyngder; rhannodd y bobl oedd gydag ef, a'r defaid, ychen a chamelod, yn ddau wersyll, 8gan feddwl, “Os daw Esau at y naill wersyll a'i daro, yna caiff y llall ddianc.” 9A dywedodd Jacob, “O Dduw fy nhadau, Duw Abraham a Duw Isaac, O ARGLWYDD, dywedaist wrthyf, ‘Dos yn ôl i'th wlad ac at dy dylwyth, a gwnaf i ti ddaioni.’ 10Nid wyf yn deilwng o gwbl o'r holl ymlyniad a'r holl ffyddlondeb a ddangosaist tuag at dy was; oherwydd deuthum dros yr Iorddonen hon heb ddim ond fy ffon, ond yn awr yr wyf yn ddau wersyll. 11Achub fi o law fy mrawd, o law Esau; y mae arnaf ei ofn, rhag iddo ddod a'n lladd, yn famau a phlant. 12Yr wyt ti wedi addo, ‘Yn ddiau gwnaf ddaioni i ti, a bydd dy hil fel tywod y môr, sy'n rhy niferus i'w rifo.’ ”
13Arhosodd yno y noson honno, a chymerodd o'r hyn oedd ganddo anrheg i'w frawd Esau: 14dau gant o eifr ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid ac ugain o hyrddod, 15deg ar hugain o gamelod magu a'u llydnod, deugain o wartheg a deg o deirw, ugain o asennod a deg asyn. 16Rhoes hwy yng ngofal ei weision, bob gyr ar ei phen ei hun, a dywedodd wrth ei weision, “Ewch o'm blaen, a gadewch fwlch rhwng pob gyr a'r nesaf.” 17Gorchmynnodd i'r cyntaf, “Pan ddaw fy mrawd Esau i'th gyfarfod a gofyn, ‘I bwy yr wyt yn perthyn? I ble'r wyt ti'n mynd? A phwy biau'r rhain sydd dan dy ofal?’ 18yna dywed, ‘Dy was Jacob biau'r rhain; anfonwyd hwy'n anrheg i'm harglwydd Esau, ac y mae Jacob ei hun yn ein dilyn.’ ” 19Rhoes yr un gorchymyn i'r ail a'r trydydd, ac i bob un oedd yn canlyn y gyrroedd, a dweud, “Yr un peth a ddywedwch chwithau wrth Esau pan ddewch i'w gyfarfod, 20‘Y mae dy was Jacob yn ein dilyn.’ ” Hyn oedd yn ei feddwl: “Enillaf ei ffafr â'r anrheg sy'n mynd o'm blaen; wedyn, pan ddof i'w gyfarfod, efallai y bydd yn fy nerbyn.” 21Felly anfonodd yr anrheg o'i flaen, ond treuliodd ef y noson honno yn y gwersyll.
Jacob yn Ymgodymu yn Penuel
22Yn ystod y noson honno cododd Jacob a chymryd ei ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un mab ar ddeg, a chroesi rhyd Jabboc. 23Wedi iddo'u cymryd a'u hanfon dros yr afon, anfonodd ei eiddo drosodd hefyd. 24Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr. 25Pan welodd y gŵr nad oedd yn cael y trechaf arno, trawodd wasg ei glun, a datgysylltwyd clun Jacob wrth iddo ymgodymu ag ef. 26Yna dywedodd y gŵr, “Gollwng fi, oherwydd y mae'n gwawrio.” Ond atebodd yntau, “Ni'th ollyngaf heb iti fy mendithio.” 27“Beth yw d'enw?” meddai ef. Ac atebodd yntau, “Jacob.” 28Yna dywedodd, “Ni'th elwir Jacob mwyach, ond Israel, oherwydd yr wyt wedi ymdrechu â Duw a dynion, ac wedi gorchfygu.” 29A gofynnodd Jacob iddo, “Dywed imi dy enw.” Ond dywedodd yntau, “Pam yr wyt yn gofyn fy enw?” A bendithiodd ef yno. 30Felly enwodd Jacob y lle Penuel, a dweud, “Gwelais Dduw wyneb yn wyneb, ond arbedwyd fy mywyd.” 31Cododd yr haul arno fel yr oedd yn mynd heibio i Penuel, ac yr oedd yn gloff o'i glun. 32Dyna pam nad yw plant Israel yn bwyta giewyn gwasg y glun hyd heddiw, oherwydd trawo gwasg clun Jacob i fyw y giewyn.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004