No themes applied yet
Sichem yn Treisio Dina
1Aeth Dina, y ferch yr oedd Lea wedi ei geni i Jacob, allan i ymweld â gwragedd y wlad. 2Pan welwyd hi gan Sichem fab Hamor yr Hefiad, tywysog y wlad, fe'i cymerodd a gorwedd gyda hi a'i threisio. 3Rhoddodd ei holl serch ar Dina merch Jacob; hoffodd y ferch, a siaradodd yn gariadus wrthi. 4Yna dywedodd Sichem wrth ei dad Hamor, “Cymer y ferch hon yn wraig i mi.” 5Pan glywodd Jacob iddo halogi ei ferch Dina, yr oedd ei feibion gyda'i anifeiliaid yn y maes; ac felly ni ddywedodd ddim cyn iddynt ddod adref. 6Yna daeth Hamor tad Sichem allan i siarad â Jacob. 7Wedi i feibion Jacob gyrraedd o'r maes a chlywed am y peth, cynhyrfodd y gwŷr a ffromi'n fawr am i Sichem wneud tro ysgeler yn Israel trwy orwedd gyda merch Jacob, gan na ddylid gwneud felly.
8Ond erfyniodd Hamor arnynt, a dweud, “Y mae fy mab Sichem wedi rhoi ei fryd ar gael y ferch; rhowch hi'n wraig iddo. 9Trefnwch briodasau â ni; rhowch eich merched i ni, a chymerwch chwithau ein merched ninnau. 10Dewch i gyd-fyw â ni, a bydd y wlad yn rhydd ichwi; dewch i fyw ynddi, a marchnata a cheisio meddiant ynddi.” 11Dywedodd Sichem hefyd wrth ei thad a'i brodyr, “Os caf ffafr yn eich golwg, yna rhof ichwi beth bynnag a ofynnwch gennyf. 12Cynyddwch yn sylweddol y gwaddol a'r rhodd, ac fe rof yn ôl eich gofyn, dim ond ichwi roi'r ferch yn wraig i mi.”
13Am i'w chwaer Dina gael ei halogi, rhoddodd meibion Jacob ateb dichellgar i Sichem a'i dad Hamor. 14Dywedasant wrthynt, “Ni allwn wneud y fath beth, a rhoi ein chwaer i ŵr heb ei enwaedu; byddai hynny'n warth i ni. 15Ar yr amod hwn yn unig y cytunwn â chwi, sef eich bod chwi, fel ni, yn enwaedu pob gwryw. 16Yna rhown ein merched i chwi, a chymerwn ninnau eich merched chwithau; a down i fyw gyda chwi a dod yn un bobl. 17Os na wrandewch arnom a chymryd eich enwaedu, yna cymerwn ein merch a mynd ymaith.” 18Yr oedd eu geiriau'n dderbyniol gan Hamor a Sichem ei fab; 19nid oedodd y llanc wneud hyn, oherwydd yr oedd wedi rhoi ei serch ar ferch Jacob, ac ef oedd y mwyaf anrhydeddus o'i holl deulu. 20A daeth Hamor a'i fab Sichem at borth y ddinas a llefaru wrth wŷr y ddinas a dweud, 21“Y mae'r gwŷr hyn yn gyfeillgar â ni; gadewch iddynt fyw yn y wlad a marchnata ynddi, oherwydd y mae'r wlad yn ddigon eang iddynt; cymerwn eu merched yn wragedd, a rhown ninnau ein merched iddynt hwythau. 22Ond ar yr amod hwn yn unig y cytuna'r gwŷr i fyw gyda ni a bod yn un bobl: sef ein bod yn enwaedu pob gwryw yn ein plith, fel y maent hwy wedi eu henwaedu. 23Oni fydd eu gwartheg a'u meddiannau a'u holl anifeiliaid yn eiddo i ni? Gadewch inni gytuno â hwy fel y gallant gyd-fyw â ni.” 24Gwrandawodd pob un oedd yn mynd trwy borth y ddinas ar Hamor a'i fab Sichem, ac enwaedwyd pob gwryw yn y ddinas.
25Ar y trydydd dydd, pan oedd y dynion yn ddolurus, cymerodd dau o feibion Jacob, sef Simeon a Lefi brodyr Dina, eu cleddyfau a mynd yn rhwydd i mewn i'r ddinas a lladd pob gwryw. 26Lladdasant Hamor a'i fab Sichem â min y cleddyf, a chymryd Dina o dŷ Sichem a mynd ymaith. 27Rheibiodd meibion Jacob y lladdedigion, ac ysbeilio'r ddinas, am iddynt halogi eu chwaer. 28Cymerasant y defaid a'r ychen a'r asynnod, a phob peth oedd yn y ddinas ac yn y maes; 29cipiasant eu holl gyfoeth, a'r plant bychain a'r gwragedd, ac ysbeilio pob dim oedd yn y tai. 30Yna dywedodd Jacob wrth Simeon a Lefi, “Yr ydych wedi dwyn helbul ar fy mhen a'm gwneud yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, y Canaaneaid a'r Peresiaid; y mae nifer fy mhobl yn fach, ac os ymgasglant yn fy erbyn ac ymosod arnaf, yna difethir fi a'm teulu.” 31Ond dywedasant hwythau, “A oedd i gael trin ein chwaer fel putain?”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004