No themes applied yet
Mynd â Benjamin i'r Aifft
1Trymhaodd y newyn yn y wlad. 2Ac wedi iddynt fwyta'r ŷd a ddygwyd ganddynt o'r Aifft, dywedodd eu tad wrthynt, “Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni.” 3Ond atebodd Jwda, “Rhybuddiodd y dyn ni'n ddifrifol gan ddweud, ‘Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.’ 4Os anfoni ein brawd gyda ni, fe awn i brynu bwyd i ti; 5ond os nad anfoni ef, nid awn ni, oherwydd dywedodd y dyn wrthym, ‘Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.’ ” 6Dywedodd Israel, “Pam y gwnaethoch ddrwg i mi trwy ddweud wrth y dyn fod gennych frawd arall?” 7Atebasant hwythau, “Holodd y dyn ni'n fanwl amdanom ein hunain a'n teulu, a gofyn, ‘A yw eich tad eto'n fyw? A oes gennych frawd arall?’ Wrth inni ei ateb, a allem ni ddirnad y dywedai ef, ‘Dewch â'ch brawd yma’?” 8Dywedodd Jwda wrth ei dad Israel, “Anfon y bachgen gyda mi, inni gael codi a mynd, er mwyn inni fyw ac nid marw, nyni a thithau a'n plant hefyd. 9Mi af fi yn feichiau drosto; mi fyddaf fi'n gyfrifol amdano. Os na ddof ag ef yn ôl atat a'i osod o'th flaen, yna byddaf yn euog yn dy olwg am byth. 10Pe baem heb oedi, byddem wedi dychwelyd ddwywaith erbyn hyn.” 11Dywedodd eu tad Israel wrthynt, “Os oes rhaid, gwnewch hyn: cymerwch rai o ffrwythau gorau'r wlad yn eich paciau, a dygwch yn anrheg i'r dyn ychydig o falm ac ychydig o fêl, glud pêr, myrr, cnau ac almonau. 12Cymerwch ddwbl yr arian, a dychwelwch yr arian a roddwyd yng ngenau eich sachau. Efallai mai camgymeriad oedd hynny. 13Cymerwch hefyd eich brawd, ac ewch eto at y dyn; 14a rhodded Duw Hollalluog drugaredd i chwi gerbron y dyn, er mwyn iddo ollwng yn rhydd eich brawd arall a Benjamin. Os gwneir fi'n ddi-blant, derbyniaf hynny.” 15Felly cymerodd y dynion yr anrheg a dwbl yr arian, a Benjamin gyda hwy, ac aethant ar eu taith i lawr i'r Aifft, a sefyll gerbron Joseff.
16Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda hwy, dywedodd wrth swyddog ei dŷ, “Dos â'r dynion i'r tŷ, a lladd anifail a gwna wledd, oherwydd bydd y dynion yn bwyta gyda mi ganol dydd.” 17Gwnaeth y swyddog fel y gorchmynnodd Joseff iddo, a daeth â'r dynion i dŷ Joseff. 18Ond yr oedd ar y dynion ofn pan gymerwyd hwy i dŷ Joseff, ac meddent, “Y maent wedi dod â ni i mewn yma oherwydd yr arian a roddwyd yn ôl yn ein sachau y tro cyntaf. Byddant yn rhuthro ac yn ymosod arnom, a'n gwneud yn gaethion, a chipio ein hasynnod.” 19Aethant at swyddog tŷ Joseff a siarad ag ef wrth ddrws y tŷ, 20a dweud, “Ein harglwydd, daethom i lawr o'r blaen i brynu bwyd; 21wrth inni agor ein sachau yn y llety yr oedd arian pob un yn llawn yng ngenau ei sach. Yr ydym wedi dod â hwy'n ôl gyda ni, 22ac y mae gennym arian eraill hefyd i brynu bwyd. Ni wyddom pwy a osododd ein harian yn ein sachau.” 23Atebodd yntau, “Byddwch dawel, peidiwch ag ofni; eich Duw a Duw eich tad a guddiodd drysor i chwi yn eich sachau; derbyniais i eich arian.” Yna daeth â Simeon allan atynt. 24Wedi i'r swyddog fynd â'r dynion i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddynt i olchi eu traed, a rhoddodd fwyd i'w hasynnod. 25Gwnaethant eu hanrheg yn barod erbyn i Joseff ddod ganol dydd, am iddynt glywed mai yno y byddent yn cael bwyd.
26Pan ddaeth Joseff i'r tŷ, dygasant ato yr anrheg oedd ganddynt, ac ymgrymu i'r llawr o'i flaen. 27Holodd yntau hwy am eu hiechyd, a gofyn, “A yw eich tad yn iawn, yr hen ŵr y buoch yn sôn amdano? A yw'n dal yn fyw?” 28Atebasant, “Y mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach.” A phlygasant eu pennau ac ymgrymu. 29Cododd yntau ei olwg a gweld ei frawd Benjamin, mab ei fam ef ei hun, a gofynnodd, “Ai dyma eich brawd ieuengaf, y buoch yn sôn amdano?” A dywedodd wrtho, “Bydded Duw yn rasol wrthyt, fy mab.” 30Yna brysiodd Joseff a chwilio am le i wylo, oherwydd cyffrowyd ei deimladau o achos ei frawd. Aeth i'w ystafell ac wylo yno. 31Yna golchodd ei wyneb a daeth allan gan ymatal, a dywedodd, “Dewch â'r bwyd.” 32Gosodwyd bwyd iddo ef ar wahân, ac iddynt hwy ar wahân, ac i'r Eifftiaid oedd yn bwyta gydag ef ar wahân; oherwydd ni allai'r Eifftiaid gydfwyta gyda'r Hebreaid, am fod hynny'n ffieidd-dra ganddynt. 33Yr oeddent yn eistedd o'i flaen, y cyntafanedig yn ôl ei flaenoriaeth a'r ieuengaf yn ôl ei ieuenctid; a rhyfeddodd y dynion ymysg ei gilydd. 34Cododd Joseff seigiau iddynt o'i fwrdd ei hun, ac yr oedd cyfran Benjamin bum gwaith yn fwy na chyfran y lleill. Felly yfasant a bod yn llawen gydag ef.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004