No themes applied yet
Disgynyddion Adda
1 Cron. 1:1–4
1Dyma lyfr cenedlaethau Adda5:1 Neu, dyn.. Pan greodd Duw bobl, gwnaeth hwy ar lun Duw. 2Fe'u creodd yn wryw ac yn fenyw, a bendithiodd hwy; ac ar ddydd eu creu fe'u galwodd yn ddyn. 3Bu Adda fyw am gant tri deg o flynyddoedd cyn geni mab iddo, ar ei lun a'i ddelw; a galwodd ef yn Seth. 4Wedi geni Seth, bu Adda fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 5Felly yr oedd oes gyfan Adda yn naw cant tri deg o flynyddoedd; yna bu farw.
6Bu Seth fyw am gant a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Enos. 7Ac wedi geni Enos, bu Seth fyw am wyth gant a saith o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 8Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw.
9Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan. 10Ac wedi geni Cenan, bu Enos fyw am wyth gant a phymtheg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 11Felly yr oedd oes gyfan Enos yn naw cant a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
12Bu Cenan fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Mahalalel. 13Ac wedi geni Mahalalel, bu Cenan fyw am wyth gant pedwar deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 14Felly yr oedd oes gyfan Cenan yn naw cant a deg o flynyddoedd; yna bu farw.
15Bu Mahalalel fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Jered. 16Ac wedi geni Jered, bu Mahalalel fyw am wyth gant tri deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 17Felly yr oedd oes gyfan Mahalalel yn wyth gant naw deg a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
18Bu Jered fyw am gant chwe deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Enoch. 19Ac wedi geni Enoch, bu Jered fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 20Felly yr oedd oes gyfan Jered yn naw cant chwe deg a dwy o flynyddoedd; yna bu farw.
21Bu Enoch fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Methwsela. 22Wedi geni Methwsela, rhodiodd Enoch gyda Duw am dri chan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 23Felly yr oedd oes gyfan Enoch yn dri chant chwe deg a phump o flynyddoedd. 24Rhodiodd Enoch gyda Duw, ac yna nid oedd mwyach, oherwydd cymerodd Duw ef.
25Bu Methwsela fyw am gant wyth deg a saith o flynyddoedd cyn geni iddo Lamech. 26Ac wedi geni Lamech, bu Methwsela fyw am saith gant wyth deg a dwy o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 27Felly yr oedd oes gyfan Methwsela yn naw cant chwe deg a naw o flynyddoedd; yna bu farw.
28Bu Lamech fyw am gant wyth deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo fab; 29a galwodd ef yn Noa, a dweud, “Fe ddaw hwn â chysur i ni o waith a llafur ein dwylo yn y pridd a felltithiodd yr ARGLWYDD.” 30Ac wedi geni Noa, bu Lamech fyw am bum cant naw deg a phump o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill. 31Felly yr oedd oes gyfan Lamech yn saith gant saith deg a saith o flynyddoedd; yna bu farw. 32Bu Noa fyw am bum can mlynedd cyn geni iddo Sem, Cham a Jaffeth.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004