No themes applied yet
1Oherwydd cysgod sydd gan y Gyfraith o'r pethau da sy'n dod, nid gwir ddelw y dirweddau hynny; ac ni all hi o gwbl, trwy'r un aberthau sy'n cael eu hoffrymu'n barhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddwyn yr addolwyr i berffeithrwydd am byth. 2Petasai hynny'n bosibl, oni fuasent wedi peidio â chael eu hoffrymu, gan na fuasai mwyach ymwybyddiaeth o bechodau gan addolwyr a oedd wedi eu puro un waith am byth? 3Ond y mae yn yr aberthau goffâd bob blwyddyn am bechodau; 4oherwydd y mae'n amhosibl i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau.
5Dyna pam y mae ef, wrth ddod i'r byd, yn dweud:
“Ni ddymunaist aberth ac offrwm,
ond paratoaist gorff i mi.
6Poethoffrymau ac aberth dros bechod,
nid ymhyfrydaist ynddynt.
7Yna dywedais,
‘Dyma fi wedi dod—
y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf—
i wneud dy ewyllys di, O Dduw.’ ”
8Y mae'n dweud, i ddechrau, “Aberthau ac offrymau, a phoethoffrymau ac aberth dros bechod, ni ddymunaist mohonynt ac nid ymhyfrydaist ynddynt.” Dyma'r union bethau a offrymir yn ôl y Gyfraith. 9Yna dywedodd, “Dyma fi wedi dod i wneud dy ewyllys di.” Y mae'n diddymu'r peth cyntaf er mwyn sefydlu'r ail. 10Yn unol â'r ewyllys honno yr ydym wedi ein sancteiddio, trwy gorff Iesu Grist sydd wedi ei offrymu un waith am byth.
11Y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gweini, ac yn offrymu'r un aberthau dro ar ôl tro, aberthau na allant byth ddileu pechodau. 12Ond am hwn, wedi iddo offrymu un aberth dros bechodau am byth, eisteddodd ar ddeheulaw Duw, 13yn disgwyl bellach hyd oni osodir ei elynion yn droedfainc i'w draed. 14Oherwydd ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai a sancteiddir.
15Ac y mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystio wrthym; oherwydd wedi iddo ddweud:
16“Dyma'r cyfamod a wnaf â hwy
ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd;
rhof fy nghyfreithiau yn eu calon,
ac ysgrifennaf hwy ar eu meddwl”,
17y mae'n ychwanegu:
“A'u pechodau a'u drwgweithredoedd,
ni chofiaf mohonynt byth mwy.”
18Yn awr, lle y ceir maddeuant am y pethau hyn, nid oes angen offrwm dros bechod mwyach.
Nesáu a Dyfalbarhau
19Felly, gyfeillion, gan fod gennym hyder i fynd i mewn i'r cysegr drwy waed Iesu, 20ar hyd ffordd newydd a byw y mae ef wedi ei hagor inni drwy'r llen, hynny yw, trwy ei gnawd ef; 21a chan fod gennym offeiriad mawr ar dŷ Dduw, 22gadewch inni nesáu â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, a'n calonnau wedi eu taenellu'n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a'n cyrff wedi eu golchi â dŵr glân. 23Gadewch inni ddal yn ddiwyro at gyffes ein gobaith, oherwydd y mae'r hwn a roddodd yr addewid yn ffyddlon. 24Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da, 25heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.
26Oherwydd os ydym yn dal i bechu'n fwriadol ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau i'w gael mwyach; 27dim ond rhyw ddisgwyl brawychus am farn, ac angerdd tân a fydd yn difa'r gwrthwynebwyr. 28Os bydd unrhyw un wedi diystyru Cyfraith Moses, caiff ei ladd yn ddidrugaredd ar air dau neu dri o dystion. 29Ystyriwch gymaint llymach yw'r gosb a fernir yn haeddiant i'r hwn sydd wedi mathru Mab Duw, ac wedi cyfrif yn halogedig waed y cyfamod y cafodd ei sancteiddio drwyddo, ac wedi difenwi Ysbryd grasol Duw. 30Oherwydd fe wyddom pwy a ddywedodd:
“Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl”;
ac eto:
“Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.”
31Peth dychrynllyd yw syrthio i ddwylo'r Duw byw.
32Cofiwch y dyddiau gynt pan fu i chwi, wedi eich goleuo, sefyll yn gadarn yng ngornest fawr eich cystuddiau: 33weithiau, yn eich gwaradwydd a'ch cystuddiau, yn cael eich gwneud yn sioe i'r cyhoedd, ac weithiau yn gymdeithion i'r rhai oedd yn cael eu trin felly. 34Oherwydd cyd-ddioddefasoch â'r carcharorion, a derbyniasoch mewn llawenydd ysbeilio'ch meddiannau, gan wybod fod meddiant rhagorach ac arhosol yn eiddo i chwi. 35Peidiwch felly â thaflu eich hyder i ffwrdd, gan fod gwobr fawr yn perthyn iddo. 36Y mae angen dyfalbarhad arnoch i gyflawni ewyllys Duw a chymryd meddiant o'r hyn a addawyd. 37Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur:
“Ymhen ennyd, ennyd bach,
fe ddaw yr hwn sydd i ddod, a heb oedi;
38ond fe gaiff fy un cyfiawn i fyw trwy ffydd,
ac os cilia'n ôl,
ni bydd fy enaid yn ymhyfrydu ynddo.”
39Eithr nid pobl y cilio'n ôl i ddistryw ydym ni, ond pobl â ffydd sy'n mynd i feddiannu bywyd.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004