No themes applied yet
Gwasanaeth Cymeradwy gan Dduw
1Bydded i frawdgarwch barhau. 2Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion. 3Cofiwch y carcharorion, fel pe byddech yn y carchar gyda hwy; a'r rhai a gamdrinnir, fel pobl sydd â chyrff gennych eich hunain. 4Bydded priodas mewn parch gan bawb, a'r gwely yn ddihalog; oherwydd bydd Duw yn barnu puteinwyr a godinebwyr. 5Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, “Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.” 6Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus:
“Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr,
ac nid ofnaf;
beth a wna pobl i mi?”
7Cadwch mewn cof eich arweinwyr, y rhai a lefarodd air Duw wrthych; myfyriwch ar ganlyniad eu buchedd, ac efelychwch eu ffydd. 8Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth. 9Peidiwch â chymryd eich camarwain gan athrawiaethau amrywiol a dieithr; oherwydd da yw i'r galon gael ei chadarnhau gan ras, ac nid gan fwydydd na fuont o unrhyw les i'r rhai oedd yn ymwneud â hwy. 10Y mae gennym ni allor nad oes gan wasanaethwyr y tabernacl ddim hawl i fwyta ohoni. 11Y mae cyrff yr anifeiliaid hynny, y dygir eu gwaed dros bechod i'r cysegr gan yr archoffeiriad, yn cael eu llosgi y tu allan i'r gwersyll. 12Felly Iesu hefyd, dioddef y tu allan i'r porth a wnaeth ef, er mwyn sancteiddio'r bobl trwy ei waed ei hun. 13Am hynny, gadewch inni fynd ato ef y tu allan i'r gwersyll, gan oddef y gwaradwydd a oddefodd ef. 14Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma; ceisio yr ydym, yn hytrach, y ddinas sydd i ddod. 15Gadewch inni, felly, drwyddo ef offrymu aberth moliant yn wastadol i Dduw; hynny yw, ffrwyth gwefusau sy'n cyffesu ei enw. 16Peidiwch ag anghofio gwneud daioni a rhannu ag eraill; oherwydd ag aberthau fel hyn y rhyngir bodd Duw.
17Ufuddhewch i'ch arweinwyr, ac ildiwch iddynt, oherwydd y maent hwy'n gwylio'n ddiorffwys dros eich eneidiau, fel rhai sydd i roi cyfrif. Gadewch iddynt allu gwneud hynny'n llawen, ac nid yn ofidus, oherwydd di-fudd i chwi fyddai hynny.
18Gweddïwch drosom ni; oherwydd yr ydym yn sicr fod gennym gydwybod lân, am ein bod yn dymuno ymddwyn yn iawn ym mhob peth. 19Yr wyf yn erfyn yn daerach arnoch i wneud hyn, er mwyn imi gael fy adfer i chwi yn gynt.
Bendith, a Chyfarchion Terfynol
20Bydded i Dduw tangnefedd, yr hwn a ddug yn ôl oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol, 21eich cymhwyso â phob daioni, er mwyn ichwi wneud ei ewyllys ef; a bydded iddo lunio ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
22Yr wyf yn deisyf arnoch chwi, gyfeillion, oddef y gair hwn o anogaeth, oblegid yn fyr yr ysgrifennais atoch. 23Y newydd yw fod ein brawd Timotheus wedi ei ryddhau, ac os daw mewn pryd, caf eich gweld gydag ef.
24Cyfarchwch eich holl arweinwyr, a'r holl saint. Y mae'r cyfeillion o'r Eidal yn eich cyfarch. 25Gras fyddo gyda chwi oll!
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004