No themes applied yet
Archoffeiriad Cyfamod Newydd a Gwell
1Prif bwynt yr hyn rwy'n ei ddweud yw mai dyma'r math o archoffeiriad sydd gennym, un sydd wedi eistedd ar ddeheulaw gorsedd y Mawrhydi yn y nefoedd, 2yn weinidog y cysegr, sef y gwir dabernacl a osododd yr Arglwydd, nid pobl feidrol. 3Oherwydd y mae pob archoffeiriad yn cael ei benodi i offrymu rhoddion ac aberthau, ac felly, rhaid bod gan hwn hefyd rywbeth i'w offrymu. 4Yn awr, pe byddai ar y ddaear, ni byddai'n offeiriad o gwbl, gan fod yma eisoes rai sy'n offrymu rhoddion yn ôl y Gyfraith. 5Y mae'r rhain yn gweini mewn cysegr sy'n llun a chysgod o'r un nefol, yn ôl y gorchymyn a gafodd Moses pan oedd ar fin codi'r tabernacl. “Gofala,” meddai Duw, “y byddi'n gwneud pob peth yn ôl y patrwm a ddangoswyd iti ar y mynydd.” 6Ond, fel y mae, cafodd Iesu weinidogaeth ragorach, gan ei fod yn gyfryngwr cyfamod cymaint gwell—cyfamod, yn wir, sydd wedi ei sefydlu ar addewidion gwell.
7Oherwydd pe bai'r cyfamod cyntaf hwnnw yn ddi-fai, ni byddai lle i ail gyfamod. 8Oblegid y mae Duw'n eu beio pan yw'n dweud:
“Y mae'r dyddiau'n dod, medd yr Arglwydd,
y gwnaf gyfamod newydd
â thŷ Israel ac â thŷ Jwda;
9ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid,
y dydd y gafaelais yn eu llaw
i'w harwain allan o wlad yr Aifft,
oherwydd nid arosasant hwy yn fy nghyfamod i.
A minnau, fe'u diystyrais hwy, medd yr Arglwydd.
10Dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel
ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd:
rhof fy nghyfreithiau yn eu meddwl,
ac ysgrifennaf hwy ar eu calon.
A byddaf yn Dduw iddynt,
a hwythau'n bobl i mi.
11Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gyd-ddinesydd8:11 Yn ôl darlleniad arall, ei gymydog.
a phob un ei gilydd, gan ddweud, ‘Adnebydd yr Arglwydd.’
Oblegid byddant i gyd yn f'adnabod,
o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt.
12Oherwydd byddaf yn drugarog wrth eu camweddau,
ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy.”
13Wrth ddweud “cyfamod newydd”, y mae wedi dyfarnu'r cyntaf yn hen; ac y mae'r hyn sy'n mynd yn hen ac oedrannus ar fin diflannu.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004